Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

(cyflwynwyd gan adran 13(1))

ATODLEN 1LL+CADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYRFF CYHOEDDUS ERAILL

Cyrff cyhoeddus: cyffredinolLL+C

1(1)Rhaid i gorff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu gorff a grybwyllir yn is-baragraff (3)) gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad am y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

[F1(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.]

[F2(2B)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi) yn yr un ddogfen.]

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG (am hynny, gweler paragraff 2);

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru (am hynny, gweler paragraff 3).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

2(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn gyfrifyddu, adroddiad o’r cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(3)Yn y paragraff hwn, mae i “blwyddyn gyfrifyddu” mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG yr ystyr a roddir gan y gorchymyn—

(a)a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, sy’n sefydlu’r Bwrdd, neu

(b)a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Corff Adnoddau Naturiol CymruLL+C

3(1)Yn yr Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Dynol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy.230)), ym mharagraff 22(1)(a), ar ôl “honno” mewnosoder “gan gynnwys adroddiad am y cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr awdurdod tuag at gyflawni ei amcanion llesiant a gyhoeddir o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)”.

(2)Nid yw’r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) i ddiwygio neu ddirymu darpariaeth a wnaed gan y diwygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

(cyflwynwyd gan adran 17(4))

ATODLEN 2LL+CCOMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

StatwsLL+C

1(1)Mae’r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw’r Comisiynydd i gael ei ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn gorff sy’n mwynhau unrhyw statws, eithriad neu fraint perthynol i’r Goron.

(3)Nid yw eiddo’r Comisiynydd i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I8Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Dilysrwydd gweithredoeddLL+C

2(1)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred unigolyn fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)yr unigolyn hwnnw;

(b)unrhyw aelod o’r panel cynghori.

(2)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy’n arfer swyddogaethau ar ran y Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)y person hwnnw;

(b)y Comisiynydd;

(c)unrhyw aelod o’r panel cynghori.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I10Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Cyfnod y penodiadLL+C

3Mae unigolyn a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd am gyfnod o 7 mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I12Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Telerau penodiLL+C

4Mae’r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Atodlen hon, a

(b)unrhyw delerau penodi ychwanegol y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o dro i dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I14Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Taliadau cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynauLL+C

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i’r Comisiynydd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i’r Comisiynydd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd, a

(b)symiau ar gyfer darparu neu tuag at ddarparu pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I16Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

AnghymwysoLL+C

6(1)Ni chaiff unigolyn gael ei benodi’n Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(2)Bydd Comisiynydd yn peidio â bod yn Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(3)Mae unigolyn yn anghymwys i fod yn Gomisiynydd os yw’r unigolyn yn—

(a)Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)aelod o’r panel cynghori;

(c)deiliad unrhyw swydd arall y caiff person ei benodi iddi, neu ei argymell neu ei enwebu ar gyfer ei benodi iddi, gan neu ar ran—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(d)Aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi;

(e)Aelod o Senedd yr Alban;

(f)Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;

(g)Aelod o Senedd Ewrop;

(h)aelod o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;

(i)aelod o staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I18Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Diwedd penodiad (ac eithrio drwy anghymwyso)LL+C

7(1)Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o’i fwriad i wneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r Comisiynydd os ydynt wedi eu bodloni—

(a)ei fod yn anaddas i barhau fel Comisiynydd, neu

(b)ei fod yn analluog neu’n amharod i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I20Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

PwerauLL+C

8(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Comisiynydd, gan gynnwys—

(a)codi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;

(b)talu i drydydd partïon am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;

(c)derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall.

(2)Ni chaiff y Comisiynydd—

(a)darparu cymorth ariannol i unrhyw berson;

(b)caffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,

heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(3)Mae pŵer y Comisiynydd i godi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaeth arall yn gyfyngedig i godi’r symiau hynny y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol i adennill y costau, gwirioneddol neu amcangyfrifedig, o ddarparu’r cyngor neu’r gwasanaeth hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I22Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

StaffLL+C

9(1)Caiff y Comisiynydd benodi unrhyw staff y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol o ran arfer swyddogaethau’r Comisiynydd a rhaid iddo benodi aelod o staff i fod yn Ddirprwy Gomisiynydd (gweler paragraff 11).

(2)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau staff y Comisiynydd.

(3)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau staff y Comisiynydd.

(4)Caiff y Comisiynydd dalu—

(a)pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd, a

(b)symiau ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o ran—

(a)nifer yr aelodau o staff y caniateir eu penodi;

(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff;

(c)unrhyw daliadau y bwriedir eu gwneud o dan is-baragraffau (2) i (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I24Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

DirprwyoLL+C

10Caiff swyddogaeth y Comisiynydd gael ei chyflawni ar ran y Comisiynydd gan unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw aelod o staff y Comisiynydd, ond dim ond i’r graddau y caniateir hynny gan y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I26Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Dirprwy GomisiynyddLL+C

11Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw’r Comisiynydd yn gallu arfer swyddogaethau Comisiynydd am unrhyw reswm.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I28Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Y weithdrefn gwynionLL+C

12(1)Rhaid i’r comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion am arferiad swyddogaethau’r Comisiynydd (“y weithdrefn gwynion”).

(2)Rhaid i’r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)sut i wneud cwyn;

(b)y person y dylid gwneud cwyn iddo;

(c)y cyfnod ar gyfer dechrau ystyried cwyn a dirwyn cwyn i ben;

(d)y camau gweithredu y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.

(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio’r weithdrefn gwynion, ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i gynnwys darpariaethau yn unol ag is-baragraff (2).

(4)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o’r weithdrefn gwynion ar gael i’w harchwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o’r weithdrefn gwynion ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r weithdrefn gwynion mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol fod ganddynt ddiddordeb yn y weithdrefn.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I30Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Cofrestr buddiannauLL+C

13(1)Rhaid i’r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr sy’n cynnwys holl fuddiannau cofrestradwy’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd.

(2)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 14 a 15—

(a)ystyr “buddiannau cofrestradwy” yw unrhyw fuddiannau y pennir eu bod yn fuddiannau cofrestradwy gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (a gall hyn gynnwys buddiannau personau y mae gan y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd gysylltiad â hwy, boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu’n unrhyw fath arall o gysylltiad);

(b)ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys anrhegion, lletygarwch, rhoddion a dderbynnir, buddiannau ariannol eraill, a phob gweithgaredd a gorchwyl).

(3)Rhaid i’r Comisiynydd ddiweddaru ei gofrestr buddiannau yn barhaus.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I32Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

14(1)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o’r gofrestr buddiannau ar gael i’w archwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o’r gofrestr ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r gofrestr buddiannau mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt ddiddordeb yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I34Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Gwrthdrawiadau buddiannauLL+C

15(1)Rhaid i’r Comisiynydd beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.

(2)Os bydd hyn yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo’r swyddogaeth honno (i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi’r gwaith hwnnw o’i harfer i gael ei wneud) i aelod o staff y Comisiynydd.

(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r Dirprwy Gomisiynydd sy’n arfer un o swyddogaethau’r Comisiynydd o dan baragraff 11 fel y mae’n gymwys i’r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I36Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Taliadau gan Weinidogion CymruLL+C

16Caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy’n briodol yn eu tyb hwy, mewn cysylltiad â gwariant yr eir iddo wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I38Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Adroddiadau blynyddolLL+C

17(1)Rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).

(2)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gwneir y penodiad cyntaf i swydd y Comisiynydd o dan adran 17 ac sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth canlynol.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol honno;

(b)dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny o ran galluogi gwireddu dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd (gweler adran 18);

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol honno;

(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol;

(e)crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff 12.

(4)Caiff adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn briodol.

(5)Wrth baratoi adroddiad blynyddol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â—

(a)y panel cynghori, a

(b)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.

(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(7)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o bob adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I40Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Swyddog cyfrifydduLL+C

18(1)Y Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid y Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Trysorlys.

(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd;

(c)cyfrifoldeb am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau’r Comisiynydd.

(4)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ddyledus i’r canlynol—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)Tŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin,

(b)cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)trosglwyddo’r dystiolaeth a gymerwyd i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn yn yr un modd ag y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I42Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

AmcangyfrifonLL+C

19(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, rhaid i’r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â’r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gydag unrhyw addasiadau sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I44Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

CyfrifonLL+C

20(1)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;

(b)llunio cyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r cyfarwyddydau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfarwyddydau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i gael eu cyflwyno;

(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i gael eu llunio yn unol â hwy;

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd y maent wedi ei roi o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I46Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

ArchwilioLL+C

21(1)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddynariannol ganlynol.

(2)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â’i adroddiad arnynt.

(3)Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol ardystio’r cyfrifon cyn bodloni ei hun yr aethpwyd i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithiol ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 2 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I48Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Archwilio’r defnydd o adnoddauLL+C

22(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.

(2)Ond nid oes gan yr Archwilydd Cyffredinol yr hawl i gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Comisiynydd.

(3)Cyn cynnal archwiliad o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)ymgynghori â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)ystyried barn y Pwyllgor o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol—

(a)cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gyflawnir dan y paragraff hwn, a

(b)gosod copi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 2 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I50Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

Y sêl a dilysrwydd dogfennauLL+C

23(1)Caniateir i’r Comisiynydd gael sêl.

(2)Mae dogfen—

(a)yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu

(b)yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,

i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 2 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I52Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)

(cyflwynwyd gan adran 34)

ATODLEN 3LL+CBYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH

CworwmLL+C

1Cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I54Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cyfarfod cyntafLL+C

2(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod cyntaf bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I56Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cyfarfodydd gorfodolLL+C

3(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredin a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod a gynhelir o dan is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I58Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cylch gorchwylLL+C

4(1)Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.

(2)Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—

(a)y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(b)amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;

(c)y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(d)cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;

(e)cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));

(f)cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);

(g)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;

(h)unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.

(3)O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a

(b)caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.

(4)Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I60Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cymorth gweinyddolLL+C

5Rhaid i’r awdurdod lleol beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I62Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Is-grwpiau a dirprwyoLL+C

6(1)O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a

(b)caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.

(2)Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.

(3)Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—

(a)gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;

(b)gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;

(c)paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;

(d)ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;

(e)paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;

(f)ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;

(g)adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;

(h)ymgynghori o dan adran 44[F3neu 47] ;

(i)cytuno i’r bwrdd—

(i)uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1),

[F4(ia)os yw’r bwrdd yn fwrdd unedig o dan adran 47, daduno neu ddaduno yn rhannol o dan adran 47(7), neu]

(ii)cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I64Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Cynrychiolaeth mewn cyfarfodyddLL+C

7(1)Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—

(a)yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu

(b)unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).

TABL 2

AelodCynrychiolydd
Awdurdod lleolMaer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a [F5phrif weithredwr yr awdurdod a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021] .
Bwrdd Iechyd Lleol

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Awdurdod tân ac achub yng Nghymru

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Corff Adnoddau Naturiol CymruY prif weithredwr

(2)Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.

(4)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).

(5)Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I66Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

(cyflwynwyd gan adran 46)

ATODLEN 4LL+CBYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMU

Deddf Addysg 1997 (p.44)LL+C

1Yn adran 38(2A)(b) o Ddeddf Addysg 1997, yn lle “sections 25 and 26” rhodder “section 25”.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I68Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)LL+C

2Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I70Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

F63. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F6Atod. 4 para. 3 wedi ei hepgor (1.11.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), a. 175(7), Atod. 3 para. 7; O.S. 2021/231, ergl. 4(c)

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I72Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

F74. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F7Atod. 4 para. 4 wedi ei hepgor (1.11.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), a. 175(7), Atod. 3 para. 7; O.S. 2021/231, ergl. 4(c)

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I74Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

5Yn adran 21 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (4), ar y diwedd, mewnosoder “or Part 4 of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I76Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

6Yn adran 21B o’r Ddeddf honno (dyletswydd awdurdod i ymateb i’r pwyllgor trosolwg a chraffu), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)A report or recommendation to a public services board by virtue of section 35(1)(c) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) is not to be regarded for the purposes of this section as a report or recommendation to the local authority that is a member of the board..

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I78Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf Addysg 2002 (p.32)LL+C

7Yn adran 21(9) o Ddeddf Addysg 2002 (cyfrifoldeb cyffredinol am weithrediad yr ysgol: diffiniad o “cynllun plant a phobl ifanc perthnasol”), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in relation to a school in Wales, a local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by a public services board of which the local authority is a member..

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I80Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5)LL+C

8Mae adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (cynllun datblygu lleol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I82Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

9Yn is-adran (5)(d), yn lle “community strategy” rhodder “local well-being plan”.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I84Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

10Yn lle is-adran (7) rhodder—

(7)A local well-being plan is relevant if it has been published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by—

(a)in the case of an authority which is a county council or county borough council, the public services board of which that authority is a member;

(b)in the case of an authority which is a National Park Authority, the public services board for an area that includes any part of that authority’s area..

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I86Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf Plant 2004 (p.31)LL+C

11Mae Deddf Plant 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I88Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

12Yn adran 25 (cydweithredu i wella lles: Cymru), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(9A)Information about the arrangements a local authority in Wales makes under this section may be included in the local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by the public services board of which the local authority is a member..

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I90Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

13Mae adran 26 (cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I92Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

14Yn adran 27—

(a)yn is-adran (1)(a), yn lle’r geiriau “sections 25 and 26” rhodder “section 25”;

(b)yn is-adran (1)(b), yn lle’r geiriau “those sections” rhodder “that section”;

(c)“Responsibility for functions under section 25” fydd pennawd yr adran.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I94Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

15Yn adran 30(2)(a) (archwilio swyddogaethau o dan Ran 3), mae’r geiriau “or 26” wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I96Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

16Yn adran 50A(2)(c) (ymyriad - Cymru), mae’r geiriau “, 26” wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I98Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

17Mae adran 66(7) (y weithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 26) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I100Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)LL+C

18Ym mharagraff 35(4) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweithdrefnau’n ymwneud â phwerau penodol cyn cychwyn i wneud is-ddeddfwriaeth), yn Nhabl 2 mae’r eitemau sy’n ymwneud ag adran 26(2)(f) a (4) o Ddeddf Plant 2004 wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I102Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42)LL+C

19Mae adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (strategaethau iechyd a llesiant yng Nghymru) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I104Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2)LL+C

20Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 4 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I106Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

21Mae Rhan 2 (Strategaethau cymunedol a chynllunio cymunedol) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 4 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I108Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

22Mae adrannau 48(2)(b), 50(5)(c) a 51(3) wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 4 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I110Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

23Mae Atodlen 3 wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 4 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I112Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1)LL+C

24Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 4 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I114Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

25Yn adran 2(8), mae’r geiriau “ac adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 4 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I116Atod. 4 para. 25 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

26Yn adran 4 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle’r geiriau “fydd yr awdurdod yn cyhoeddi cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” rhodder “gaiff cynllun llesiant lleol ei gyhoeddi o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod yn aelod ohono, ond dim ond os yw strategaeth yr awdurdod yn yn rhan gyfannol o’r cynllun hwnnw”; a

(b)mae is-adrannau (2) a (3) wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 4 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I118Atod. 4 para. 26 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

27Yn adran 5 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraill)—

(a)mae is-adran (4) wedi ei diddymu; a

(b)yn is-adran (5), yn lle’r geiriau sy’n dechrau â “gynllun” hyd at ddiwedd yr isadran, rhodder “gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol y mae’r awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynddi.”.

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 4 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I120Atod. 4 para. 27 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (mccc 7)LL+C

28Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 4 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I122Atod. 4 para. 28 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

29Yn adran 2 (Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Caiff cynllun ei gofnodi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un o’r partneriaid yn aelodau ohono..

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 4 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I124Atod. 4 para. 29 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

30Mae adran 11 (diwygio Deddf Plant 2004) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 4 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I126Atod. 4 para. 30 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)LL+C

31Mae adran 128 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phwerau cynghorau cymunedol i hyrwyddo llesiant) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 4 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I128Atod. 4 para. 31 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3)LL+C

32Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), ar ôl is-adran (3)(c) mewnosoder—

(ca)ymchwiliad o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy);.

Gwybodaeth Cychwyn

I129Atod. 4 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I130Atod. 4 para. 32 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)LL+C

33Yn adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol), mae is-adrannau (3) a (4) wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I131Atod. 4 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I132Atod. 4 para. 33 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

34Ar ôl yr adran honno mewnosoder—

14ACynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14

(1)Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).

(2)Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—

(a)ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);

(b)yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);

(c)yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);

(d)sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;

(e)unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);

(f)manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;

(g)yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.

(3)Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.

(4)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).

(5)Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).

(6)Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—

(a)unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;

(b)unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;

(b)ynghylch adolygu cynllun;

(c)ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;

(d)ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun..

Gwybodaeth Cychwyn

I133Atod. 4 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I134Atod. 4 para. 34 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 4

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (dccc x)LL+C

35Yn adran 5 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Caniateir cyhoeddi strategaeth leol neu strategaeth ddiwygiedig drwy ei chynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ill dau yn aelodau ohono..

Gwybodaeth Cychwyn

I135Atod. 4 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I136Atod. 4 para. 35 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources