Search Legislation

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, RHAN 7 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

RHAN 7LL+CDARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC

Arfer swyddogaethau gan CCAUCLL+C

47Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadauLL+C

(1)Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon yn rhoi pŵer i CCAUC i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—

(a)ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y sefydliad yn elusen, neu

(b)â dogfennau llywodraethu’r sefydliad.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), dogfennau llywodraethu sefydliad yw—

(a)yn achos sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol—

(i)siarter y sefydliad, a

(ii)unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad, y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor er mwyn gwneud neu ddiwygio’r offeryn hwnnw;

(b)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth ac erthyglau llywodraethu’r sefydliad;

(c)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth a’i herthyglau llywodraethu;

(d)yn achos sefydliad a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu’r sefydliad a’i erthyglau llywodraethu;

(e)yn achos sefydliad nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d) sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 47 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(e)

48Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaiddLL+C

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd gan gynnwys, yn benodol, rhyddid sefydliadau—

(a)i benderfynu ar gynnwys cyrsiau penodol a’r dull o’u haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

(b)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, ac

(c)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I4A. 48 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(e)

49Dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion CymruLL+C

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I6A. 49 mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(f)

Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUCLL+C

50Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.

(4)Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.

(5)At ddibenion yr adran hon y cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a

(b)sy’n dod i ben ar ba ddiwrnod bynnag yw’r cynharach o flwyddyn ar ôl y diwrnod hwnnw, a diwrnod a bennir gan CCAUC mewn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru.

(6)Y cyfnodau adrodd dilynol yw pob cyfnod olynol o 12 mis.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu gofynion y mae hysbysiad a roddir fel y’i disgrifir yn is-adran (5) i gydymffurfio â hwy (gan gynnwys o ran ffurf a chynnwys, a’r adeg y mae i’w roi); ac nid yw’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei roi at ddibenion is-adran (5) oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I8A. 50 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

51Adroddiadau arbennigLL+C

(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, adrodd i Weinidogion Cymru ar unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)cydymffurfedd ag adran 10(1) gan sefydliadau o fewn adran 10(2) yn gyffredinol neu gan sefydliad penodol;

(b)cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu â gofynion cyffredinol cynllun penodol a gymeradwywyd;

(c)effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu effeithiolrwydd cynllun penodol a gymeradwywyd, wrth hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(d)unrhyw faterion eraill a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch;

(e)ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig penodol;

(f)cydymffurfedd gan sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu gan sefydliad rheoleiddiedig penodol, â gofynion y Cod.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu—

(a)ffurf a chynnwys adroddiad a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)pryd y mae’r adroddiad i’w wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I10A. 51(1)(a)(e)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(m)

I11A. 51(1)(b)-(d)(f) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUCLL+C

52Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrrydLL+C

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.

(2)O ran CCAUC—

(a)rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;

(b)caiff ei ddiwygio.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);

(b)ei gyhoeddi;

(c)yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).

(5)Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);

(b)adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);

(c)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(d)adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(e)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(f)adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(g)adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

(h)adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I13A. 52(1) mewn grym ar 25.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(g)

I14A. 52(1) mewn grym ar 1.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(n)

I15A. 52(1) mewn grym ar 3.2.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/110, ergl. 2(b)

I16A. 52(2)(3) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(o)

I17A. 52(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(r)

I18A. 52(5) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(h)

53Gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff CCAUC roi i Weinidogion Cymru wybodaeth a chyngor arall sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I20A. 53 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(p)

54Gwybodaeth a chyngor arallLL+C

(1)Caiff CCAUC—

(a)adnabod arfer da sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch, a

(b)rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch yr arfer hwnnw i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig, neu i gyrff llywodraethu sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, mae corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig i ystyried unrhyw wybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC iddo ef, neu i gyrff llywodraethu yn gyffredinol, o dan is-adran (1)(b).

(3)Caiff CCAUC ddarparu unrhyw wybodaeth a chyngor arall sy’n briodol yn ei farn ef gan roi sylw i’w swyddogaethau a swyddogaethau sefydliadau rheoleiddiedig (ymhlith pethau eraill).

(4)Caiff yr wybodaeth a’r cyngor hynny (ymhlith pethau eraill) ymwneud â’r canlynol—

(a)pwerau a dyletswyddau sefydliadau rheoleiddiedig;

(b)trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)effaith cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I22A. 54(2) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I23A. 54(1) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(q)

I24A. 54(3)(4) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(i)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources