Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Rhan 8 - Cyffredinol

Adrannau 55 a 56 – Rheoliadau a Chyfarwyddydau

148.Mae adran 55 yn darparu i reoliadau o dan y Ddeddf gael eu gwneud drwy offeryn statudol. Bydd y rhan fwyaf o reoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol. Yr eithriadau yw’r rheoliadau hynny a wneir o dan adrannau a nodir yn is-adran (4) y mae rhaid eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sef:

  • y gyfres gyntaf o reoliadau i’w gwneud o dan adran 2(4) (gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);

  • adran 3(4) (darpariaeth ynghylch dynodi darparwyr addysg uwch eraill);

  • adran 4(3) (rheoliadau sy’n diwygio’r cyfnod mwyaf a nodir yn adran 4(2));

  • y gyfres gyntaf o reoliadau i’w gwneud o dan adran 5(3) (uchafswm y ffioedd);

  • adran 6(1) (darpariaeth yn ymwneud â hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch y mae rhaid ei chynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad);

  • adran 7(3) (y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun ffioedd a mynediad);

  • adran 38(2) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôl) – os yw’r rheoliadau yn diwygio darpariaeth yn y Ddeddf; ac

  • adran 58 (darpariaeth ganlyniadol a throsiannol) - ond dim ond os yw’r rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol.

149.Mae adran 56 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 58 – Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc

150.O ganlyniad i ddarpariaethau sylweddol y Ddeddf, mae angen gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau mewn deddfwriaeth arall ynghyd â diddymu darpariaethau mewn deddfwriaeth arall. Mae’r rhain wedi eu nodi yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau trosiannol wedi eu nodi yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf.

Yr Atodlen

151.Mae Rhan 1 o’r Atodlen (paragraffau 1 i 26) yn rhestru’r deddfiadau hynny y gwneir diwygiadau canlyniadol iddynt. Un effaith o Ran 1 o’r Atodlen fydd diddymu darpariaethau Deddf Addysg 2004 sy’n ymwneud â chynlluniau ffioedd i’r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.

152.Mae Rhan 2 o’r Atodlen (paragraffau 27 i 31) yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol. Bydd trefniadau trosiannol yn gymwys i gynlluniau ffioedd a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg 2004 sy’n pennu terfynau ffioedd ar gyfer blynyddoedd academaidd sy’n dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol, sef y cyfnod hyd at a chan gynnwys 31 Awst 2017. Bydd y trefniadau yn darparu bod y cynlluniau hynny i’w trin fel cynlluniau ffioedd a mynediad a gymeradwywyd o dan y Ddeddf at ddibenion penodol. Bydd hyn yn caniatáu i sefydliadau sydd â chynlluniau ffioedd a gymeradwywyd cyn i’r Ddeddf ddod i rym weithredu, i raddau cyfyngedig, o dan y cynllun rheoleiddiol a sefydlir gan y Ddeddf.

153.Bydd sefydliadau sy’n ddarostyngedig i’r trefniadau trosiannol yn ddarostyngedig i’r rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â therfynau ar ffioedd myfyrwyr ac ansawdd yr addysg, ond ni fyddant yn ddarostyngedig i’r Cod.

154.Bydd trefniadau trosiannol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â sefydliadau sydd â chynlluniau ffioedd a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 ar unrhyw reoliadau sydd i’w gwneud o dan adran 4(3) yn ystod y cyfnod trosiannol. Bydd trefniadau trosiannol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC ymgynghori â sefydliadau o’r fath ar unrhyw ganllawiau sydd i’w dyroddi neu i’w cymeradwyo o dan adran 24, ar God drafft ac ar Ddatganiad drafft ar y polisi ymyrryd. Bydd CCAUC hefyd yn gallu darparu cyngor a chymorth (o dan adran 54(1)) i’r sefydliadau hynny. Rhagwelir y bydd CCAUC yn llunio datganiad ar y polisi ymyrryd a’r Cod ac yn ymgynghori arnynt yn ystod y cyfnod trosiannol (gweler paragraff 29(2) o’r Atodlen). Rhagwelir y bydd y datganiad a’r Cod yn cymryd effaith o fis Medi 2017 ymlaen.

Adran 59 – Cychwyn

155.Mae’r adran hon yn ymdrin â chychwyn y Ddeddf ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’n darparu i Ran 1 (Trosolwg o’r Ddeddf) a’r rhan fwyaf o’r darpariaethau cyffredinol yn Rhan 8 ddod i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol. Bydd darpariaethau sylweddol y Ddeddf, sydd wedi eu cynnwys yn Rhannau 2 i 7, adran 59(1) a (2) a’r Atodlen, yn dod i rym yn unol â gorchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru.

Adran 60 – Enw byr etc

156.Mae is-adran (1) yn darparu mai enw’r Ddeddf yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (is-adran 2)). Bydd unrhyw gyfeiriad mewn deddfwriaeth at “y Deddfau Addysg” yn cynnwys cyfeiriad at y Ddeddf hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources