Adran 103 – Dyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedig
195.Nid yw’r ddyletswydd yn yr adran hon yn gymwys i awdurdod tai lleol ond os yw asesiad yr awdurdod o anghenion llety wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 102, a’i fod yn nodi angen nas diwallwyd yn ardal yr awdurdod mewn cysylltiad â safleoedd lle y caiff Sipsiwn a Theithwyr osod cartrefi symudol arnynt.
196.Gallai “angen nas diwallwyd” yn y cyd-destun hwn olygu diffyg llwyr o ran safleoedd neu ddarpariaeth annigonol sy’n bodoli.
197.Os yw’r ddyletswydd yn gymwys, mae’n ofynnol i awdurdod tai lleol arfer ei bŵer i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol yn adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y mae’n angenrheidiol i gwrdd â’r angen a nodwyd. Ond nid yw’n ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu, mewn unrhyw safleoedd neu mewn cysylltiad â hwy, fannau gweithio a chyfleusterau ar gyfer gweithgareddau y mae Sipsiwn a Theithwyr fel arfer yn eu cynnal.
198.Dim ond i ddarparu safleoedd y caniateir gosod cartrefi symudol arnynt y mae’r ddyletswydd i gwrdd ag angen o dan yr adran hon yn ymwneud ef. Serch hynny, dylai unrhyw wybodaeth a gesglir fel rhan o asesiad a gynhaliwyd o dan adran 101 sy’n ymwneud ag anghenion llety eraill Sipsiwn a Theithwyr lywio adolygiadau ysbeidiol awdurdod tai lleol o anghenion ehangach ei ardal o ran tai o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.