Search Legislation

Deddf Tai (Cymru) 2014

Rhan 3 Sipsiwn a Theithwyr

Adran 101 – Asesu anghenion llety

191.Rhaid i awdurdod tal lleol gynnal asesiadau o bryd i’w gilydd o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal (h.y. yn byw yno) neu sy’n cyrchu yno (h.y. yn aros yn yr ardal o dro i dro). Rhaid i asesiad gael ei gynnal o fewn pob “cyfnod adolygu” (gweler is-adran (3)). Yn ddarostyngedig i’r gofyniad hwn, mater i bob awdurdod tai lleol fydd penderfynu pryd y bydd yr asesiadau hyn yn digwydd. Cynhelir yr asesiad cyntaf o dan yr adran hon cyn pen blwyddyn ar ôl i’r adran hon ddod i rym. Wrth gynnal asesiad, rhaid i awdurdod tai lleol ymgynghori â’r personau sy’n briodol yn ei farn ef, gyda golwg ar ganllawiau a lunnir o dan y Rhan hon.

192.Bydd y ddyletswydd i gynnal asesiadau yn yr adran hon, pan ddaw i rym, yn disodli’r gofyniad a osodwyd ar awdurdodau tai lleol Cymru gan adran 225 o Ddeddf Tai 2004 i asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr. Ar hyn o bryd mae asesiadau o dan adran 225 yn digwydd fel rhan o adolygiad ehangach awdurdodau o anghenion llety eu hardaloedd o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985. Gellid dal i gynnal asesiadau o anghenion Sipsiwn a Theithwyr o dan y system newydd yr un pryd ag adolygiadau o dan adran 8 o Ddeddf 1985; ond bydd hynny’n fater i bob awdurdod tai lleol ei ystyried yng ngoleuni’r gofyniad i gynnal asesiad o anghenion llety o dan yr adran hon o fewn pob “cyfnod adolygu”.

Adran 102 – Adroddiad yn dilyn asesiad

193.Ar ôl cynnal asesiad, rhaid i awdurdod tai lleol baratoi adroddiad. Rhaid i’r adroddiad roi manylion ynghylch y modd y cynhaliwyd yr asesiad a chrynhoi’r ymgynghoriad ac unrhyw ymatebion a gafwyd. Rhaid i’r adroddiad hefyd roi manylion am anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn yr ardal neu sy’n cyrchu yno. Rhaid i awdurdod gyflwyno ei adroddiad i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo.

194.Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo asesiad awdurdod, gydag addasiadau neu hebddynt, neu ei wrthod. Os gwrthodir yr asesiad, rhaid i’r awdurdod ei adolygu a’i ailgyflwyno neu gynnal asesiad arall. Bydd penderfyniad awdurdod ynghylch sut i fwrw ymlaen yn y cyswllt hwn yn cael ei lywio gan y rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros wrthod cymeradwyo’r asesiad. Gallai ymgynghoriad annigonol neu fethiant â darparu tystiolaeth ddigonol i gefnogi asesiad o angen fod yn seiliau posibl dros wrthod cymeradwyo asesiad. Os ymgymerir ag asesiad arall, rhaid i’r awdurdod, fel sy’n ofynnol gan adran 101(2), ymgynghori â’r personau sy’n briodol yn ei farn ef a chyflwyno adroddiad newydd i’r Gweinidogion ei gymeradwyo. Rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi asesiad ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Adran 103 – Dyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedig

195.Nid yw’r ddyletswydd yn yr adran hon yn gymwys i awdurdod tai lleol ond os yw asesiad yr awdurdod o anghenion llety wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 102, a’i fod yn nodi angen nas diwallwyd yn ardal yr awdurdod mewn cysylltiad â safleoedd lle y caiff Sipsiwn a Theithwyr osod cartrefi symudol arnynt.

196.Gallai “angen nas diwallwyd” yn y cyd-destun hwn olygu diffyg llwyr o ran safleoedd neu ddarpariaeth annigonol sy’n bodoli.

197.Os yw’r ddyletswydd yn gymwys, mae’n ofynnol i awdurdod tai lleol arfer ei bŵer i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol yn adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y mae’n angenrheidiol i gwrdd â’r angen a nodwyd. Ond nid yw’n ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu, mewn unrhyw safleoedd neu mewn cysylltiad â hwy, fannau gweithio a chyfleusterau ar gyfer gweithgareddau y mae Sipsiwn a Theithwyr fel arfer yn eu cynnal.

198.Dim ond i ddarparu safleoedd y caniateir gosod cartrefi symudol arnynt y mae’r ddyletswydd i gwrdd ag angen o dan yr adran hon yn ymwneud ef. Serch hynny, dylai unrhyw wybodaeth a gesglir fel rhan o asesiad a gynhaliwyd o dan adran 101 sy’n ymwneud ag anghenion llety eraill Sipsiwn a Theithwyr lywio adolygiadau ysbeidiol awdurdod tai lleol o anghenion ehangach ei ardal o ran tai o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.

Adran 104 – Methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 103

199.Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod tai lleol wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedig, caniateir iddynt gyfarwyddo’r awdurdod i arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i gwrdd â’r anghenion a nodwyd yn ei asesiad cymeradwy. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod cyn dyroddi cyfarwyddyd o’r fath. Rhaid i’r cyfarwyddyd gael ei roi ar ffurf ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol. Rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, y gellir ei orfodi drwy orchymyn gorfodi ar gais, neu ar ran, Gweinidogion Cymru.

Adran 105 – Darparu gwybodaeth ar gais

200.Rhaid i awdurdod tai lleol, mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, ddarparu i Weinidogion Cymru yr wybodaeth sy’n ofynnol ganddynt ac ar unrhyw adegau y mae’n ofynnol ei rhoi iddynt. Caiff yr wybodaeth hon fod yn gyffredinol neu’n benodol i achos neilltuol.

201.Bydd gwybodaeth a ddarperir i’r Gweinidogion yn rhinwedd yr adran hon yn cynorthwyo’r Gweinidogion pan fyddant yn penderfynu sut i arfer eu swyddogaethau eraill o dan y Rhan hon; er enghraifft, wrth bwyso a mesur a ddylid cymeradwyo asesiad. Gallai gwybodaeth a allai gynorthwyo’r Gweinidogion fod yn wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan awdurdodau lleol ynghylch mynychder a nifer gwersylloedd diawdurdod Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardaloedd (gallai hynny ddangos bod darpariaeth annigonol o ran safleoedd) neu wybodaeth am y camau y mae awdurdod tai lleol yn eu cymryd i ddarparu safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr pan fo angen sydd wedi ei nodi (gallai hynny lywio penderfyniad p’un ai i gyfarwyddo awdurdod i arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 mewn ffordd benodol ai peidio).

Adran 106 – Canllawiau

202.Wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Caniateir i’r canllawiau gael eu rhoi yn gyffredinol i awdurdodau tai lleol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig. Caniateir iddynt gael eu hadolygu gan ganllawiau pellach, neu gael eu tynnu’n ôl drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad.

Adran 107 – Dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau tai

203.Pan fo’n ofynnol i awdurdod tai lleol gael strategaeth o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 mewn cysylltiad â chwrdd ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu’n cyrchu yno, rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth baratoi’r strategaeth. Rhaid iddo ystyried y strategaeth wrth arfer ei swyddogaethau. Mae “swyddogaethau” at y diben hwn yn cynnwys unrhyw swyddogaethau a roddir iddo heblaw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod tai lleol (mae awdurdodau tai lleol yng Nghymru yn gynghorau sir neu’n gynghorau bwrdeistref sirol sy’n arfer ystod o swyddogaethau sy’n ymdrin ag amryw o faterion).

204.Mae’r adran hon yn ailddatgan gofynion sydd wedi eu gosod ar hyn o bryd ar awdurdodau tai lleol Cymru gan adran 225 o Ddeddf Tai 2004. Caiff y gofynion perthnasol yn Neddf 2004 eu diddymu i’r graddau ag y maent yn ymwneud ag awdurdodau tai lleol Cymru pan ddaw’r adran hon i rym (gweler y diwygiadau a gynhwysir yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf hon).

Adran 108 - Dehongli

205.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau “anghenion llety””, “Sipsiwn a Theithwyr”, a “cartref symudol”, a ddefnyddir yn y Rhan hon o’r Ddeddf.

Adran 109 – Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr

206.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, newid y diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr drwy ychwanegu, dileu, neu addasu disgrifiad o unrhyw bersonau. Caniateir hefyd i ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (sydd ar hyn o bryd yn cynnwys diffiniad sy’n union yr un fath o “Sipsiwn a Theithwyr”) gael eu gwneud drwy orchymyn o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad i’r diffiniad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources