Adran 60 – Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth
124.Rhaid i awdurdod tai lleol drefnu bod gwasanaeth di-dâl yn cael ei ddarparu i bobl yn ei ardal neu’r rhai sydd â chysylltiad lleol â’r ardal. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, pobl sy’n ceisio symud i’r ardal i fod yn nes at waith neu berthnasau. Rhaid i’r gwasanaeth ddarparu gwybodaeth a chyngor am ddigartrefedd ac ni ddylai gael ei gyfyngu i’r cymorth sydd ar gael yn ardal yr awdurdod. Rhaid iddo ddarparu cynhorthwy hefyd i gael gafael ar unrhyw gymorth perthnasol i’r rhai sydd, neu y gallent ddod yn ddigartref. Nid yw wedi ei gyfyngu i’r rhai sydd o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn 56 o ddiwrnodau (gweler adran 55) a rhaid iddo gynnwys cynhorthwy i gael gafael ar wasanaethau atal digartrefedd.
125.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwasanaeth gynnwys cyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y cymorth sydd ar gael i’r digartref a sut i gael gafael arno. Rhaid i’r awdurdod sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddylunio i ddiwallu anghenion grwpiau sydd mewn perygl penodol o ddod yn ddigartref. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gadael carchar neu lety cadw ieuenctid, pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl sy’n gadael y lluoedd arfog, a phobl sy’n gadael ysbyty ar ôl triniaeth fel cleifion preswyl am anhwylder meddwl neu’n cael gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.
126.Wrth drefnu’r gwasanaeth, caiff awdurdod weithio gydag awdurdodau tai lleol eraill. Caiff yr awdurdod ddarparu’r gwasanaeth yn uniongyrchol. Fel arall neu’n ychwanegol at hynny, gallai, er enghraifft, drefnu bod awdurdod arall neu asiantaeth gynghori wirfoddol yn darparu’r gwasanaeth. Caniateir i’r gwasanaeth gael ei gyfuno â gwasanaethau cynghori y darperir ar eu cyfer o dan Ddeddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
127.Darparodd adrannau 179(2) a (3), 180 a 181 o Ddeddf Tai 1996 y gallai awdurdodau tai lleol roi cynhorthwy ariannol a chynhorthwy arall i ddarparwyr cyngor digartrefedd. Nid yw’r darpariaethau hyn wedi eu hatgynhyrchu yma, gan fod pwerau cyffredinol awdurdodau lleol ar gael ar gyfer hyn.