Search Legislation

Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014

Newidiadau dros amser i: Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Sefydliadau addysg bellach: llywodraethuLL+C

1Benthyca a buddsoddi gan gorfforaethau addysg bellachLL+C

Yn adran 19 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (pwerau atodol corfforaeth addysg bellach), hepgorer—

(a)is-adran (4A) (y pŵer yn is-adran (4)(bb) i ffurfio cwmni, i gyfranogi mewn ffurfio cwmni neu i fuddsoddi mewn cwmni i beidio â chael ei arfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru ar gyfer cynnal sefydliad addysgol neu ar gyfer buddsoddi mewn cwmni sy’n cynnal sefydliad addysgol),

(b)is-adran (4AA) (y pŵer yn is-adran (4)(bc) i ffurfio sefydliad elusennol corfforedig, i gyfranogi mewn ffurfio sefydliad elusennol corfforedig neu fel arall i ddod yn aelod o sefydliad elusennol corfforedig i beidio â chael ei arfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru ar gyfer cynnal sefydliad addysgol neu ar gyfer dod yn aelod o sefydliad elusennol corfforedig sy’n cynnal sefydliad addysgol),

(c)is-adran (4AB) (pŵer Gweinidogion Cymru i gydsynio i arfer pŵer nad yw’n cydymffurfio â’r cyfyngiad yn is-adran (4A) neu (4AA)),

(d)is-adran (4B) (y pwerau yn is-adran (4)(bb) a (bc) i beidio â chael eu harfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru ar gyfer darparu addysg a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000),

(e)is-adran (4C) (nid yw is-adran (4B) i fod yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cydsynio i’r pwerau gael eu harfer), ac

(f)is-adran (5) (y pŵer yn is-adran (4)(c) i fenthyca i beidio â chael ei arfer gan gorfforaeth addysg bellach yng Nghymru heb gydsyniad Gweinidogion Cymru).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I2A. 1 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(a)

2Offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg bellachLL+C

(1)Yn adran 20 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (cyfansoddiad y gorfforaeth a chynnal y sefydliad), yn lle is-adrannau (2) a (2A) rhodder—

(2)Instruments of government and articles of government of further education corporations—

(a)must comply with the requirements of Schedule 4, and

(b)subject to that, may make such other provision as may be necessary or desirable.

(2)Mae Atodlen 1 (sy’n disodli Atodlen 4 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) yn cael effaith.

(3)Yn lle adrannau 22 a 22ZA o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 rhodder—

22Subsequent instruments and articles

A further education corporation may modify or replace their instrument of government or articles of government.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I4A. 2 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(b)

3Diddymu corfforaethau addysg bellachLL+C

Yn lle adrannau 27 i 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 rhodder—

27Proposals for dissolution of further education corporations

(1)This section applies if a further education corporation propose that the corporation should be dissolved.

(2)The corporation must publish—

(a)details of the proposal, and

(b)such other information as may be prescribed by regulations made by the appropriate authority.

(3)The publication is to be in accordance with regulations made by the appropriate authority.

(4)The corporation must consult on the proposal, and take account of the views of those consulted, in accordance with regulations made by the appropriate authority.

(5)In this section, “the appropriate authority” means—

(a)in relation to a further education corporation in England, the Secretary of State, and

(b)in relation to a further education corporation in Wales, the Welsh Ministers.

27ADissolution of further education corporations

(1)This section and section 27B apply if, after complying with section 27, a further education corporation resolve that the corporation should be dissolved on a specified date.

(2)“The dissolution date” means the date specified in a resolution under subsection (1).

(3)The corporation must notify the appropriate authority of the resolution and the dissolution date as soon as reasonably practicable.

(4)The corporation are dissolved on the dissolution date.

(5)In this section, “the appropriate authority” has the meaning given in section 27.

27BDissolution of further education corporations: transfer of property, rights and liabilities

(1)At any time before the dissolution date, the corporation may transfer any of their property, rights or liabilities to such person or body, or a person or body of such description, as may be prescribed by regulations made by the appropriate authority.

(2)The corporation may do so only with the consent of the person or body concerned.

(3)A transfer under subsection (1) has effect on the dissolution date.

(4)Subsection (5) applies if a person or body prescribed, or of a description prescribed, under subsection (1) is not a charity established for charitable purposes which are exclusively educational purposes.

(5)Any property transferred to the person or body must be transferred on trust to be used for charitable purposes which are exclusively educational purposes.

(6)In this section, “the appropriate authority” has the meaning given in section 27.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I6A. 3 mewn grym ar 1.8.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/1706, ergl. 2

I7A. 3 mewn grym ar 1.9.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(c)

4Sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethuLL+C

(1)Yn adran 29A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (yr offerynnau ac erthyglau ôl-ddynodi cyntaf), hepgorer—

(a)yn is-adran (1) y geiriau “and (if the institution is in Wales) subsection (6)”,

(b)is-adran (6), ac

(c)yn y pennawd “: England and Wales”.

(2)Yn lle adrannau 29B a 29C o’r Ddeddf honno rhodder—

29BChanges to instruments and articles

(1)This section applies to a designated institution to which section 29 applies.

(2)The governing body of the institution may modify or replace its instrument of government and articles of government.

(3)If the institution is in Wales and is an institution to which section 30 applies, the governing body may do any of the things mentioned in subsection (2) only with the consent of the trustees of the institution.

(4)The instrument of government and articles of government (as modified or replaced)—

(a)must comply with the requirements of Schedule 4, and

(b)subject to that, may make such other provision as may be necessary or desirable.

(3)Yn adran 31 o’r Ddeddf honno (sefydliadau dynodedig a gynhelir gan gwmnïau), hepgorer is-adran (2A) (erthyglau sy’n ymwneud â phenodi aelodau i gymryd i ystyriaeth aelodau y caniateir i Weinidogion Cymru eu penodi).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I9A. 4 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(d)

5Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellachLL+C

(1)Mae adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (ymyrraeth: Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (5A)—

(a)ar ôl “include” mewnosoder

(a)”;

(b)ar y diwedd mewnosoder , and

(b)a direction requiring a governing body to make a resolution under section 27A(1) for the body to be dissolved on a date specified in the direction.

(3)Ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(5B)A governing body to which a direction such as is mentioned in subsection (5A)(b) is given is to be taken for the purposes of section 27A(1) to have complied with section 27 before making the resolution required by the direction.

(4)Hepgorer adran 57A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (polisi ymyrryd: Cymru).

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I11A. 5 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(e)

6Diddymu dyletswyddau sefydliadau addysg bellach i gydymffurfio â chyfarwyddiadauLL+C

(1)Yn adran 33J o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (cynllunio’r cwricwlwm lleol), yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)The persons mentioned in paragraphs (a) to (c) of subsection (1) must have regard to any guidance given from time to time by the Welsh Ministers as to the exercise of their functions under that subsection.

(4)The persons mentioned in paragraphs (a) and (b) of subsection (1) must comply with any direction given by the Welsh Ministers as to the exercise of their functions under that subsection.

(2)Yn adran 33L(3) o’r Ddeddf honno (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau), yn lle “The persons mentioned in subsection (1)” rhodder “A local authority and a governing body of a maintained school”.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1A. 6(3) wedi ei hepgor (30.4.2021) yn rhinwedd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 72 (ynghyd â savings ac transitional provisions in O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)

F2A. 6(4) wedi ei hepgor (30.4.2021) yn rhinwedd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 72 (ynghyd â savings ac transitional provisions in O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I13A. 6 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(f)

7Diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellachLL+C

Yn Neddf Addysg 2002, hepgorer adran 139 (pŵer i wneud rheoliadau sy’n gwahardd darparu cyrsiau addysg uwch gan sefydliadau o fewn y sector addysg bellach heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a phenderfynu ar nifer y personau a gaiff ymgymryd â’r cyrsiau hynny yn y sefydliadau hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I15A. 7 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(g)

8Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 2 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I17A. 8 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(h)

Cymorth i fyfyrwyr: cyflenwi gwybodaethLL+C

9Cyflenwi gwybodaeth mewn cysylltiad â benthyciadau a grantiau i fyfyrwyrLL+C

Yn adran 24 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (cyflenwi gwybodaeth mewn cysylltiad â benthyciadau i fyfyrwyr)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “State” mewnosoder “, the Welsh Ministers”;

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “State” mewnosoder “, the Welsh Ministers”;

(iii)ym mharagraff (c), ar ôl “State” mewnosoder “, the Welsh Ministers”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Information to which this section applies may also be supplied to—

(a)the Welsh Ministers,

(b)any person or body acting on behalf of the Welsh Ministers under section 23(4), or

(c)any authority or governing body by whom any function of the Welsh Ministers is for the time being exercisable to any extent by virtue of section 23(1),

for the purpose of enabling or assisting the recipient to exercise any function in connection with regulations under section 22 so far as having effect in relation to grants under that section.;

(c)yn is-adran (3)—

(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “(2)” mewnosoder “or (2A)”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “of the student loans scheme.” rhodder of—

(i)the student loans scheme, or

(ii)regulations under section 22 so far as having effect in relation to grants made in pursuance of the Welsh Ministers’ functions under that section.;

(d)yn is-adran (4), ar ôl “(2)” mewnosoder “, (2A)”;

(e)yn is-adran (10), ar ôl “student” mewnosoder “grants or”;

(f)yn y pennawd, yn lle “loans” rhodder “support”.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 9 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

CyffredinolLL+C

10Adolygu gweithrediad y DdeddfLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2016, adolygu gweithrediad y Ddeddf hon gyda’r bwriad yn benodol o asesu ei heffaith ar—

(a)ariannu addysg a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond sydd heb gyrraedd 19 oed,

(b)y ddarpariaeth Gymraeg mewn sefydliadau o’r fath, ac

(c)y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliadau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(2)

I20A. 10 mewn grym ar 1.9.2014 gan O.S. 2014/1706, ergl. 3(i)

11CychwynLL+C

(1)Daw adran 9, yr adran hon ac adran 12 i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion;

(b)cynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 11 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

12Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 12 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources