Search Legislation

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

PENNOD 1SWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

2Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru

(1)Bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) yn parhau.

(2)Ei Mawrhydi sydd i benodi person i fod yn Archwilydd Cyffredinol ar enwebiad y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Nid oes enwebiad i gael ei wneud hyd nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi cael ei wneud gyda’r cyrff hynny yr ymddengys i’r Cynulliad eu bod yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

(4)Mae’r person sydd wedi ei benodi yn dal y swydd am hyd at 8 mlynedd.

(5)Ni chaniateir i’r person gael ei benodi eto.

(6)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred neu anweithred person a benodwyd yn Archwilydd Cyffredinol gan ddiffyg yn enwebiad neu benodiad y person hwnnw.

3Ymddiswyddiad neu ddiswyddiad

(1)Mae person a benodir yn Archwilydd Cyffredinol yn dal y swydd tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3)).

(2)Caiff Ei Mawrhydi ryddhau person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer—

(a)ar gais y person, neu

(b)wedi i’w Mawrhydi gael ei bodloni nad yw’r person yn gallu, oherwydd rhesymau meddygol, cyflawni dyletswyddau’r swydd na gwneud cais i gael ei ryddhau ohoni.

(3)Caiff Ei Mawrhydi ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer ar dderbyn argymhelliad, ar sail camymddygiad y person, y dylai Ei Mawrhydi wneud hynny.

(4)Ni chaniateir gwneud argymhelliad i ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol oni bai—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y dylai’r argymhelliad gael ei wneud, a

(b)bod penderfyniad y Cynulliad wedi ei basio ar bleidlais lle yr oedd nifer yr aelodau Cynulliad a bleidleisiodd o blaid yn ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Cynulliad.

4Anghymhwyso

(1)Ni all person gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

(2)Mae person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;

(d)yn Aelod o Senedd yr Alban;

(e)yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;

(f)yn gyflogai i Swyddfa Archwilio Cymru.

5Cyflogaeth etc cyn-Archwilydd Cyffredinol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson a oedd wedi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol o dan y Rhan hon, ond nad yw bellach yn y swydd honno.

(2)Cyn gwneud y canlynol—

(a)cymryd swydd o ddisgrifiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(b)ymrwymo i gytundeb neu drefniant arall o ddisgrifiad a bennir felly,

rhaid i’r person ymgynghori ag unrhyw berson a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o’r canlynol—

(a)y swyddi a bennir at ddibenion is-adran (2)(a);

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill a bennir at ddibenion is-adran (2)(b).

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys am gyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol.

(5)Rhaid i’r person beidio â gwneud y canlynol—

(a)dal swydd y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer gan neu ar ran—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)bod yn aelod, cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i berson a restrir yn is-adran (7).

(6)Rhaid i’r person beidio â darparu gwasanaethau, yn rhinwedd unrhyw swydd, i’r canlynol—

(a)y Goron, neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron,

(b)y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Cynulliad,

(c)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Comisiwn, neu

(d)person a restrir yn is-adran (7).

(7)Dyma’r personau—

(a)person y mae ei gyfrifon neu ei ddatganiad o gyfrifon yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt neu iddo yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(b)person y mae astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian a wneir neu a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad yn ymwneud ag ef;

(c)person y mae astudiaeth a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol ag adran 145A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (astudiaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gorff neu gyrff perthnasol) yn ymwneud ag ef;

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn darparu cyngor neu gymorth iddo o dan adran 145D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;

(e)person y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol swyddogaethau mewn perthynas ag ef, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag ef, yn rhinwedd adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (trosglwyddo swyddogaethau Gweinidogion Cymru);

(f)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (3) o’r adran honno;

(g)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno.

(8)Ond nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal person rhag dal unrhyw un o’r swyddi canlynol—

(a)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol;

(b)Archwilydd Cyffredinol yr Alban;

(c)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

6Statws etc

(1)Mae’r person sydd am y tro yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau, yn enw’r swydd honno, i fod yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol i’w ystyried yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi neu’n un sy’n arfer unrhyw swyddogaeth ar ran y Goron.

(3)Ond ystyrir bod yr Archwilydd Cyffredinol yn was i’r Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

7Talu cydnabyddiaeth

(1)Cyn i berson gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol, bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth yn cael eu gwneud o ran y person hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Ond cyn y gellir gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, trefniadau ar gyfer pensiwn a buddion eraill, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(4)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

(5)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

(a)darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol neu sydd wedi peidio â dal y swydd honno, a

(b)y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, arian rhodd hynny neu’r buddion eraill hynny.

(6)Bydd symiau sy’n daladwy yn rhinwedd yr adran hon yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru ac yn cael eu talu ohoni.

PENNOD 2SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn ag arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol etc

8Sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer

(1)Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol ddisgresiwn llwyr o ran y modd y mae swyddogaethau’r swydd honno i gael eu harfer ac nid yw’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru.

(2)Ond mae’r disgresiwn hwn yn ddarostyngedig i is-adran (3).

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol;

(b)rhoi sylw, fel y mae’n ystyried yn briodol, i’r safonau a’r egwyddorion y disgwylir i ddarparwr arbenigol proffesiynol mewn cyfrifyddiaeth neu wasanaethau archwilio eu dilyn;

(c)rhoi sylw i gyngor a roddir iddo gan SAC (gweler adran 17(3)).

9Pwerau atodol

(1)Caiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

(2)Ond ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth sydd yn, neu a allai ddod yn, gyfrifoldeb i SAC, yn rhinwedd paragraffau (a) i (c) o adran 21(2) (darparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

10Cod ymarfer archwilio

(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddyroddi cod ymarfer archwilio sy’n rhagnodi’r modd y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol a bennir yn is-adran (2) i’w cyflawni.

(2)Dyma’r swyddogaethau—

(a)cynnal ymchwiliad i unrhyw gyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon sydd yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(b)cynnal neu hybu astudiaethau neu ymchwiliadau gwerth am arian neu ymgymryd â hwy, yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(c)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, neu sydd wedi eu trosglwyddo i’r Archwilydd Cyffredinol odanynt—

(i)adran 145A(2) (ymgymryd ag astudiaethau eraill, neu hybu astudiaethau eraill, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gyrff penodol);

(ii)adran 145C(8) (datgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru a gafwyd yn ystod astudiaeth mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig);

(iii)adran 145D (darparu cyngor a chymorth i landlord cymdeithasol cofrestredig);

(iv)adran 146 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

(v)adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwylio Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

(vi)adran 147 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud ag Asiantaeth yr Amgylchedd i’r Archwilydd Cyffredinol);

(d)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004—

(i)Rhan 2 (archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru);

(ii)adran 45 (cynnal, neu gynorthwyo’r Ysgrifennydd Gwladol i gynnal, astudiaethau gweinyddu budd-dal);

(iii)adran 51 (cyfeirio materion sy’n ymwneud â nawdd cymdeithasol at yr Ysgrifennydd Gwladol);

(e)y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—

(i)paragraff 17 (mynediad at ddogfennau);

(ii)paragraff 20 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff).

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â’r cod.

(4)Rhaid i’r cod ymgorffori’r hyn yr ymddengys i’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer proffesiynol gorau o ran y safonau, gweithdrefnau a’r technegau sydd i’w mabwysiadu wrth gyflawni swyddogaethau o’r math a bennir yn is-adran (2).

(5)Caiff y cod wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

(6)Cyn dyroddi’r cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddo ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(7)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol drefnu bod y cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) yn cael ei gyhoeddi.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Swyddogaethau mewn perthynas â llywodraeth leol

11Archwilio cyrff llywodraeth leol

(1)Yn lle adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru), rhodder—

13Audit of accounts of local government bodies in Wales

(1)A local government body in Wales—

(a)must make up its accounts each year to 31 March or such other date as the Welsh Ministers may generally or in any special case direct;

(b)must ensure that its accounts are audited in accordance with this Chapter.

(2)The Auditor General for Wales must audit the accounts of local government bodies in Wales..

(2)Yn adran 16 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”), hepgorer paragraff (e) o is-adran (2).

Darpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru

12Trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori

Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, yn adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)But before making an order under subsection (1), the Welsh Ministers must consult the Wales Audit Office..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources