Atodlen 2 – Y Berthynas Rhwng Yr Archwilydd Cyffredinol a Sac
Paragraff 1 – Paratoi a chymeradwyo etc
86.Rhaid i SAC ac ACC ar y cyd baratoi cod ymarfer sy’n ymwneud â’r berthynas rhyngddynt. Wrth wneud hynny, rhaid iddynt adlewyrchu’r egwyddor fod gan ACC ddisgresiwn lwyr ynglŷn â’r modd yr arferir swyddogaethau ei swydd o dan adran 8(1) ac 8(2) o’r Ddeddf hon. Rhaid adolygu’r cod yn rheolaidd a’i ddiwygio fel y bo’n briodol. Rhaid i’r cod, ac unrhyw ddiwygiad ohono, gael eu gosod gerbron y Cynulliad a’u cymeradwyo ganddo. Rhaid i SAC ac ACC gydymffurfio â’r cod a threfnu i’w gyhoeddi.
Paragraff 2 – Cynnwys
87.Rhaid i’r cod gynnwys darpariaethau ynglŷn â’r modd y bydd SAC yn monitro ac yn cynghori ACC, a darpariaeth ynglŷn â safonau ar gyfer llywodraethu corfforaethol. Mae paragraff 2 hefyd yn darparu y caiff y cod gynnwys unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r berthynas rhwng SAC ac ACC.
Paragraff 3 – Adroddiadau
88.Mae adrannau 25 i 27o’r Ddeddf yn nodi'r trefniadau ynghylch cynllun blynyddol ACC a SAC. Mae paragraff 3 yn nodi'r trefniadau ar gyfer adroddiad blynyddol ar arfer y swyddogaethau, sy'n cynnwys (ymhlith materion eraill) asesiad o'r graddau y cyflawnwyd blaenoriaethau’r cynllun blynyddol. Yn ychwanegol at yr adroddiad blynyddol, rhaid i ACC a chadeirydd SAC hefyd lunio o leiaf un adroddiad interim yn ystod pob blwyddyn ariannol ar y gwaith o arfer eu swyddogaethau, a rhaid cynnwys asesiad o'r graddau y cyflawnwyd blaenoriaethau’r cynllun blynyddol. Y Cynulliad fydd yn penderfynu ar nifer unrhyw adroddiadau interim eraill sydd i’w llunio o fewn blwyddyn ariannol.
89.Rhaid i'r adroddiadau interim a'r adroddiad blynyddol gael eu gosod gerbron y Cynulliad – yr adroddiad blynyddol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, a'r adroddiadau interim ar ddyddiadau a bennir gan y Cynulliad.
Paragraff 4 – Dogfennau a gwybodaeth
90.Mae’r paragraff hwn yn darparu y caiff unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae'n rhaid i berson ei darparu i ACC neu y caiff ei darparu i ACC, ei darparu i SAC. Mae hyn yn ategu'r cyfrifoldeb sydd ar SAC i gael a dal dogfennau a gwybodaeth ar gyfer yr ACC newydd ac i gynnal cofnodion (o dan adran 21).
Paragraffau 5 i 14 – Person arall, dros dro, yn arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol
91.Mae paragraffau 5 a 6 yn pennu’r amgylchiadau ar gyfer dynodi person i arfer swyddogaethau ACC dros dro yn lle ACC. Mae unrhyw ddynodiad dros dro i gael ei wneud gan SAC, gyda chytundeb y Cynulliad. Ni chaiff dynodiad dros dro fod am fwy na chwe mis, ond caniateir ei ymestyn unwaith (gyda chytundeb y Cynulliad) am gyfnod pellach o chwe mis.
92.Rhaid i unrhyw ddynodiad dros dro fod yn ddynodiad person a gyflogir gan SAC, ac a fyddai’n parhau i gael ei gyflogi gan SAC ar yr un telerau (paragraffau 9 a 10). Caiff SAC a’r Cynulliad gytuno ar delerau ychwanegol, gan gynnwys telerau talu cydnabyddiaeth, ond rhaid peidio â chynnwys cyflog ychwanegol na phensiwn yn y telerau hynny.