Adrannau 25 i 27 – yn ymwneud â’r Cynllun Blynyddol
41.Rhaid i ACC a SAC ar y cyd baratoi cynllun blynyddol. Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi'r gwaith a gynlluniwyd ar gyfer ACC a SAC fel ei gilydd; yr adnoddau sydd ar gael ac a allai ddod ar gael i SAC; a’r modd y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn cyflawni’r gwaith a gynlluniwyd ar eu cyfer (adran 25(2)).
42.Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi hefyd uchafswm yr adnoddau y rhagwelir y bydd SAC yn eu dyrannu i ACC at y diben o ymgymryd â rhaglen waith ACC (gweler adran 25(2)(f))
43.Er nad yw ACC na SAC wedi eu rhwymo gan y cynllun blynyddol, rhaid iddynt roi sylw iddo (adran 27). Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ACC a SAC, wrth arfer eu swyddogaethau (gan gynnwys darparu'r adnoddau sy'n ofynnol gan ACC), roi i'r cynllun blynyddol y pwysigrwydd priodol o dan yr holl amgylchiadau. Os bydd rhyw waith nas rhagwelwyd yn codi, yna rhaid pwyso â mesur yn briodol yr angen i gyflawni'r gwaith hwnnw (a goblygiadau hynny i adnoddau) o’i gymharu â’r gwaith a gynlluniwyd (a'r adnoddau a ddyrannwyd i'r gwaith hwnnw).
44.Rhaid i’r cynllun blynyddol gael ei baratoi gan ACC a SAC cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r gwaith i'w gyflawni ynddi (adran 25(1)). Unwaith y'i llunnir, rhaid ei osod gerbron y Cynulliad (adran 26), a bydd y Cynulliad o dan ddyletswydd i'w gyhoeddi yn rhinwedd adran 144 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd gan baragraff 73 o Atodlen 4 i’r Ddeddf hon).