Cyflwyniad
Adran 1 – Trosolwg
4.Mae'r Ddeddf yn cynnwys 36 o adrannau a 4 Atodlen. Fel y nodir yn adran 1 (na fwriedir iddi gael effaith gyfreithiol) o'r Ddeddf, mae'r prif ddarpariaethau yn gwneud y canlynol –
rhagnodi bod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (ACC) i barhau;
creu corff corfforaethol newydd, sef Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), ac yn rhoi swyddogaethau iddi;
rhagnodi trefniadau llywodraethu ar gyfer ACC a SAC, a gwneud darpariaeth arall yn ymwneud â’r berthynas rhwng y ddau;
rhagnodi sut y mae swyddogaethau ACC i’w harfer, ac yn gwneud ACC yn archwilydd i gyrff llywodraeth leol yng Nghymru.