Search Legislation

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 1

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/09/2022

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, Adran 1 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Awst 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

1Trosolwg ar y Ddeddf honLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae 6 Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2 wedi ei rhannu’n 3 Pennod sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chynnal a gwella safonau—

(a)mewn ysgolion a gynhelir, a

(b)yn y modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdodau lleol.

(3)Mae Pennod 1 o Ran 2 (gan gynnwys Atodlen 1)—

(a)yn nodi’r seiliau dros ymyrraeth gan awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir sy’n peri pryder, a

(b)yn darparu amrediad o bwerau ymyrryd i alluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i ymdrin ag achosion y pryder.

(4)Mae Pennod 2—

(a)yn nodi’r seiliau dros ymyrraeth gan Weinidogion Cymru ym materion arfer swyddogaethau addysg gan awdurdodau lleol sy’n peri pryder, a

(b)yn darparu amrediad o bwerau ymyrryd i alluogi Gweinidogion Cymru i ymdrin ag achosion y pryder.

(5)Mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru roi canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, penaethiaid ysgolion o’r fath ac awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai swyddogaethau gael eu harfer gyda golwg ar wella safon yr addysg sy’n cael ei darparu mewn ysgolion a gynhelir.

(6)Mae Rhan 3 wedi ei rhannu’n 6 Phennod sy’n cynnwys darpariaeth am drefniadaeth ysgolion a gynhelir.

(7)Mae Pennod 1 o Ran 3 yn darparu ar gyfer Cod Trefniadaeth Ysgolion ynghylch arfer swyddogaethau o dan Ran 3.

(8)Mae Pennod 2 (gan gynnwys Atodlenni 2 i 4) yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir yn unol â phroses benodedig.

(9)Mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer rhesymoli lleoedd ysgol os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir.

(10)Mae Pennod 4 yn darparu ar gyfer gwneud darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion [F1addysgol arbennig] [F1dysgu ychwanegol].

(11)Mae Pennod 5 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru ailstrwythuro addysg chweched dosbarth.

(12)Mae Pennod 6 yn darparu ar gyfer materion amrywiol ac atodol sy’n ymwneud â threfniadaeth ysgolion.

(13)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sydd—

(a)i’w paratoi gan awdurdodau lleol,

(b)i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, ac

(c)i’w cyhoeddi a’u gweithredu gan awdurdodau lleol (adrannau 84, 85 a 87).

(14)Mae Rhan 4 hefyd yn darparu pŵer sy’n arferadwy drwy reoliadau i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud asesiad o’r galw ymhlith rhieni am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant (adran 86).

(15)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth am swyddogaethau amrywiol sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir, gan gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu brecwast ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd a gynhelir ar gais cyrff llywodraethu’r ysgolion hynny (adrannau 88 i 90);

(b)sy’n diwygio pwerau presennol awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i godi tâl am brydau ysgol, fel bod—

(i)gofyniad cysylltiedig i godi’r un pris ar bob person am yr un maint o’r un eitem yn cael ei ddileu, a

(ii)gofyniad newydd na fydd y pris a godir am eitem yn fwy na chost darparu’r eitem honno yn cael ei osod (adran 91);

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth resymol am wasanaeth sy’n cwnsela mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol i ddisgyblion ysgol penodedig a phlant eraill (adran 92);

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gynnal cyfarfod os gofynnir iddynt wneud hynny gan rieni mewn deiseb (adran 94) ac yn diddymu dyletswydd sy’n bodoli eisoes i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni (adran 95);

(e)yn diddymu dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi cod ymarfer ar gyfer sicrhau perthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir (adran 96).

(16)Mae Rhan 6—

(a)yn cyflwyno Atodlen 5, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall sy’n codi o ddarpariaethau’r Ddeddf hon;

(b)yn cynnwys diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf hon yn gyffredinol a mynegai o ddiffiniadau sy’n gymwys i nifer o ddarpariaethau, ond nid yr holl Ddeddf (adran 98);

(c)yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 1(10) wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(2); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 5.3.2013, gweler a. 100(1)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?