Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005

Isafswm arwynebedd a dimensiynau parseli neilltir

3.  At ddibenion ail frawddeg Erthygl 54(4) o Reoliad y Cyngor, caniateir i dir gael ei neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —

(a)os yw'n gymwys ar gyfer hawl neilltir yn unol ag Erthygl 54(2) o Reoliad y Cyngor neu'n cael ei gyfrif yn gymwys ar gyfer hawl neilltir o ganlyniad i gais a ganiateir o dan reoliad 5;

(b)os yw o leiaf 6 metr (ond yn llai na 10 metr) ei led;

(c)os yw o leiaf 0.05 hectar o ran maint; ac

(ch)os yw'n ffinio —

(i)â pherth;

(ii)â choetir;

(iii)â chwrs dŵ r; neu

(iv)â darn o dir yr hysbyswyd o dan adran 28(1)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.