Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Newidiadau dros amser i: PENNOD 2

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 13/05/2022

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/05/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, PENNOD 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU [F1LLYWODRAETHU AC] ARCHWILIO

81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau [F2llywodraethu ac] archwilioLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor [F3(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)]

(a)i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,

(b)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.

(c)i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol [F4, asesu perfformiad] a llywodraethu corfforaethol,

(d)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,

[F5(da)i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(db)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,]

(e)i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac

(f)i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.

[F6(1A)Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.]

(2)Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor [F7llywodraethu ac] archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.

(3)Y pwyllgor [F8llywodraethu ac] archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.

82AelodaethLL+C

(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor [F9llywodraethu ac] archwilio.

(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod dwy ran o dair F10... o [F11aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelodau o'r awdurdod;

[F12(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;]

(c)nad oes mwy nag un o [F13aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F14neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth];

(d)nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod [F15o’r pwyllgor hwnnw].

(3)Nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodaeth pwyllgor [F16llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gynnwys aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F17neu gynorthwyydd i’w weithrediaeth].

(4)Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor [F18llywodraethu ac] archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).

(5)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F19llywodraethu ac] archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F19“llywodraethu ac] archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).

[F20(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—

(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a

(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).

(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.

(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.]

F21(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F22(7)Mae pwyllgor [F23llywodraethu ac] archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 82 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

83Trafodion etcLL+C

[F24(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.]

(3)Caiff holl aelodau pwyllgor [F25llywodraethu ac] archwilio bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu.

(4)Caiff pwyllgor [F26llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(5)Mae dyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (4)(a).

(6)Nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn orfodol i berson ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hawl i wrthod ei ateb mewn achosion llys, neu at ddibenion achosion llys, yng Nghymru a Lloegr.

(7)Mae pwyllgor [F27llywodraethu ac] archwilio i'w drin fel pe bai'n bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

F28(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

84Cynnal cyfarfodydd: pa mor amlLL+C

(1)Rhaid i bwyllgor [F29llywodraethu ac] archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2)Rhaid i bwyllgor [F30llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—

(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.

(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor [F31llywodraethu ac] archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor [F32llywodraethu ac] archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.

85CanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol—

(a)ynghylch swyddogaethau pwyllgorau [F33llywodraethu ac] archwilio ac arfer y swyddogaethau hynny, neu

(b)ynghylch aelodaeth o bwyllgorau [F34o’r fath] .

(2)Rhaid i awdurdod lleol a'i bwyllgor [F35llywodraethu ac] archwilio roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1).

86Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdodLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—

(a)a benodir yn aelod o bwyllgor [F36llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol, a

(b)sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.

(2)Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor [F37llywodraethu ac] archwilio.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os bydd P—

(a)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a

(b)yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.

(4)Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor [F38llywodraethu ac] archwilio.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 86 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

87Dehongli etcLL+C

(1)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Bennod hon ac yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (neu mewn offeryn a wneir o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno) yr un ystyr yn y Bennod hon â'r ystyr sydd i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn y Rhan honno o'r Ddeddf honno (neu sydd i'r ymadroddion Cymraeg neu i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn yr offeryn hwnnw).

(2)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “aelod hŷn awdurdod lleol” (“senior member of a local authority”) yw—

    (a)

    yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), yr arweinydd gweithrediaeth;

    (b)

    yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer;

  • F39...

  • F40...

  • [F41“ystyr “lleygwr” (“lay person”) yw person—

    (a)

    nad yw’n aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol,

    (b)

    nad yw, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dod i ben â’r dyddiad y penodir y person hwnnw, wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol, ac

    (c)

    nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod na swyddog o unrhyw awdurdod lleol;]

F42(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F42A. 87(3) wedi ei diddymu (10.7.2011) gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (nawm 4), aau. 36(2), 178(2), Atod. 4 Rhn. B (ynghyd ag a. 36(5)-(8))

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 87 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure as a PDF

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Measure without Schedules as a PDF

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure

The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Measure without Schedules

The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources