Search Legislation

Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

1Gofalwyr

Explanatory NotesShow EN

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy'n darparu neu'n bwriadu darparu cyfran sylweddol o ofal yn rheolaidd ar gyfer—

(a)plentyn sydd yn anabl o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989, neu

(b)unigolyn sy'n 18 oed neu drosodd.

(2)Ond nid yw “gofalwr” yn cynnwys unigolyn sy'n darparu neu'n bwriadu darparu'r gofal hwnnw—

(a)yn rhinwedd contract cyflogaeth neu gontract arall gydag unrhyw berson, neu

(b)fel gwirfoddolwr i unrhyw gorff (p'un a ydyw'n un corfforedig ai peidio).

(3)Yn y Mesur hwn mae unrhyw gyfeiriad, mewn perthynas â gofalwr, at “y person y gofelir amdano” yn gyfeiriad at y person y mae'r gofalwr yn darparu neu'n bwriadu darparu'r gofal iddo.

2Dyletswydd i lunio strategaeth

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdod perthnasol, neu ddau neu fwy o awdurdodau perthnasol baratoi a chyhoeddi strategaeth yn nodi sut y bydd yr awdurdod yn gweithio neu'r awdurdodau yn cydweithio—

(a)i ddarparu gwybodaeth briodol a chyngor priodol i ofalwyr,

(b)i sicrhau, pan fo'n dod i ran unrhyw awdurdod i benderfynu pa wasanaethau (os o gwbl) sydd i'w darparu i ofalwr neu'r person y gofelir amdano, neu ar gyfer y naill neu'r llall ohonynt, yr ymgynghorir â'r gofalwr cyn bod y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud, ac

(c)i sicrhau bod pob awdurdod yn ymgynghori â gofalwyr cyn ei fod yn gwneud penderfyniadau cyffredinol eu natur ynghylch darparu gwasanaethau i ofalwyr a'r personau y maent yn gofalu amdanynt, neu ynghylch darparu gwasanaethau ar eu cyfer.

(2)Rhaid i bob awdurdod perthnasol sy'n gyfrifol o dan is-adran (1) am baratoi a chyhoeddi strategaeth weithredu'r strategaeth.

(3)Yr “awdurdodau perthnasol” yw—

(a)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(b)unrhyw ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o'r Ddeddf honno;

(c)unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno;

(d)unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(4)At ddibenion is-adran (1)(b) ac (c) nid yw o bwys pwy sy'n darparu'r gwasanaethau.

(5)Yn y Mesur hwn, ystyr “awdurdod cyfrifol”, mewn perthynas â strategaeth, yw awdurdod y mae'n ddyletswydd arno o dan is-adran (1) i baratoi a chyhoeddi'r strategaeth.

3Gwybodaeth briodol a chyngor priodol

Explanatory NotesShow EN

(1)Yn adran 2(1)(a) ystyr “gwybodaeth briodol a chyngor priodol” yw gwybodaeth a chyngor sy'n debyg o fod o ddiddordeb neu fudd i ofalwyr yn eu rôl fel y cyfryw, neu i'r person y gofelir amdano.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch beth sy'n wybodaeth briodol a chyngor priodol at ddibenion yr adran honno.

(3)Mae gwybodaeth a chyngor a ddarperir i ofalwyr yn unol â strategaeth i'w darparu'n ddi-dâl.

4Ymgynghori

Explanatory NotesShow EN

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy'n pennu'r camau y mae'n rhaid, neu y caniateir, i awdurdodau perthnasol eu cymryd er mwyn ymgynghori â gofalwyr fel a grybwyllir yn adran 2(1)(b) ac (c).

5Darpariaeth bellach ynghylch strategaethau

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch paratoi a chyhoeddi strategaethau o dan adran 2.

(2)Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys (ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r canlynol)—

(a)darpariaeth bellach ynghylch y gwasanaethau y mae'r ddyletswydd i baratoi strategaeth yn gymwys iddynt;

(b)darpariaeth ynghylch y materion sydd i'w trin yn y strategaeth;

(c)darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae'r strategaeth i'w chyhoeddi;

(d)darpariaeth ynghylch adolygu'r strategaeth yn gyson (gan gynnwys pennu cyfnod y bydd yn rhaid adolygu neu amnewid y strategaeth ar ei ôl);

(e)darpariaeth ynghylch yr ymgynghori y mae'n rhaid ymgymryd ag ef cyn paratoi, gweithredu neu adolygu'r strategaeth neu wrth wneud hynny;

(f)darpariaeth ar gyfer trefniadau i fonitro a gwerthuso'r broses o weithredu'r strategaeth.

(3)Caiff Gweinidogion ddynodi, ar gyfer pob strategaeth pan fo mwy nag un awdurdod cyfrifol, un ohonynt yn awdurdod arweiniol at ddibenion cydlynu a goruchwylio gwaith paratoi a chyhoeddi'r strategaeth (a chydlynu a goruchwylio unrhyw adolygiad dilynol ohoni).

6Cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru

Explanatory NotesShow EN

(1)Rhaid i bob strategaeth gael ei chyflwyno ar ffurf drafft i Weinidogion Cymru gan—

(a)yr awdurdod cyfrifol, os dim ond un awdurdod cyfrifol sydd;

(b)yr awdurdod arweiniol, os oes mwy nag un awdurdod cyfrifol (neu, pan na fo unrhyw awdurdod arweiniol, yr awdurdodau cyfrifol yn gweithredu ar y cyd).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu'r awdurdod neu awdurdodau cyfrifol eu bod wedi eu bodloni bod y strategaeth ddrafft yn cydymffurfio â'r gofynion a osodir gan neu o dan y Mesur hwn, neu

(b)os na chânt eu bodloni felly, rhoi i'r awdurdod neu awdurdodau cyfrifol unrhyw gyfarwyddyd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cydymffurfio â'r gofynion hynny.

(3)Rhaid i'r awdurdod neu awdurdodau cyfrifol beidio â chyhoeddi strategaeth onid ydys wedi cydymffurfio—

(a)ag is-adran (2)(a), neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b), â'r cyfarwyddyd hwnnw.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae'n rhaid cydymffurfio â gofynion yr adran hon.

7Cyfle i'r cyhoedd gael gweld y strategaeth

Explanatory NotesShow EN

Rhaid i bob awdurdod sy'n gyfrifol am strategaeth drefnu bob copi ohoni ar gael i'w harchwilio, yn ddi-dâl, ar bod adeg resymol ym mhrif swyddfa'r awdurdod.

8Pŵer i ychwanegu awdurdodau perthnasol pellach

Explanatory NotesShow EN

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio adran 2(3) drwy ychwanegu cyrff neu awdurdodau ychwanegol neu ddisgrifiadau ychwanegol o gyrff neu awdurdodau.

9Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 1970

Explanatory NotesShow EN

(1)Diwygir Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 1970 (p. 42) fel a ganlyn.

(2)Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 1 i'r Ddeddf mewnosoder—

Carers Strategies (Wales) Measure 2010Preparation and implementation of carers strategies.

10Gorchmynion a rheoliadau

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Caiff unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn—

(a)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu at ddibenion gwahanol,

(b)gwneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys pan fo is-adran (5) yn gymwys.

(5)Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys—

(a)gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 o'r Mesur hwn, neu

(b)y rheoliadau cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan unrhyw un o adrannau 2(1), 3(2), 4, 5(1) a 6(4), (p'un a yw'r offeryn hefyd yn cynnwys darpariaeth a wnaed o dan unrhyw adran arall ai peidio) gael ei wneud oni bai bod drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

11Cychwyn

Explanatory NotesShow EN

Daw'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

12Enw byr

Explanatory NotesShow EN

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources