Adran 7 – Penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gallu i dalu
14.Mae is-adran (1) yn gymwys pan fo asesiad modd yn cael ei gynnal. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benderfynu, yng ngoleuni’r asesiad, a yw’n rhesymol ymarferol i’r defnyddiwr gwasanaeth dalu’r ffi safonol Os nad yw, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol benderfynu pa ffi (os o gwbl) y byddai’n rhesymol ymarferol iddynt ei thalu.
15.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1) yn unol â’r ddarpariaeth a wnaed yn rheoliadau Gweinidogion Cymru. Mae is-adran (3) yn rhoi rhai enghreifftiau o sut y gellid arfer y pŵer hwn.
16.Mae is-adran (4) yn diffinio’r term ‘ffi safonol’, y cyfeirir ato yn is-adran (1) ac yn adran 10.