Adran 4 – Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd
8.Mae adran 4A(1) yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wahodd defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad modd pan fydd yn cynnig gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano neu cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol wedi hynny. Mae hefyd yn rhoi rhwymedigaeth ar awdurdod lleol y darperir gwasanaeth i berson y caniateir codi ffi amdano i roi gwahoddiad yn yr achosion a nodir yn y rheoliadau.
9.Mae is-adran (2) yn gwneud darpariaeth, pan fo’n ofynnol rhoi gwahoddiad, na all awdurdod lleol osod na newid ffi oni bai bod gofynion penodol wedi’u bodloni. Y gofynion yw bod y gwahoddiad wedi’i roi ac, os ymatebwyd iddo yn unol â’r darpariaethau i’w nodi mewn rheoliadau, fod yr awdurdod wedi cynnal asesiad modd ac wedi gwneud penderfyniad ynghylch y gallu i dalu.
10.Mae’r adran hon hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau ffurf a chynnwys gwahoddiadau a’r dull o roi’r gwahoddiadau hynny.