Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 2

YR ATODLENDiwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

1.  Yn erthygl 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “map a adneuwyd”, yn lle “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 23 Mehefin 2017” rhodder “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru a Lloegr” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 15 Rhagfyr 2023(1)”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “ardal risg uchel yn Lloegr” (“high-risk area in England”) yw’r holl dir sydd wedi ei arlliwio a’i nodi’n “Ardal Risg Uchel” ar y map a adneuwyd;”;

(c)yn y diffiniad o “uned besgi drwyddedig”, ar ôl “arolygydd” mewnosoder “milfeddygol”;

(d)yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol” (“officially tuberculosis-free status”) yw’r statws sy’n deillio o fodloni’r amodau a bennir gan Weinidogion Cymru i alluogi masnachu gwartheg heb gyfyngiadau ar symud yn ymwneud â thwbercwlosis;”.

2.  Yn erthygl 8 (hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i berson, heblaw am y ceidwad, sy’n gwneud hysbysiad o dan baragraff (1) hysbysu’r ceidwad am ei amheuaeth hefyd.

3.  Yn erthygl 13A (profion ar ôl symud)—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan symudir anifail buchol i’r ardal TB ganolradd o fuches a leolir yn—

(a)yr ardal TB uchel,

(b)yr ardal risg uchel yn Lloegr, neu

(c)Gogledd Iwerddon,

rhaid i’r ceidwad sy’n cael yr anifail drefnu i brawf ar ôl symud gael ei gynnal arno gan filfeddyg cymeradwy ddim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y fangre sy’n ei gael.;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “paragraff (2)” rhodder “paragraffau (2) na (2A)”.

4.  Yn erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ba mor hir y mae buches wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol ar unrhyw ffurf y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas at ddibenion helpu personau eraill i ddiogelu rhag lledaeniad pellach twbercwlosis.

5.  Yn erthygl 14A (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—

(a)yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;

(b)ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);

(c)ym mharagraff (2), yn is-baragraff (b) hepgorer “uned besgi eithriedig neu’r”;

(d)ym mharagraff (3) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;

(e)ym mharagraff (4) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;

(f)ym mharagraff (5) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;

(g)ym mharagraff (6) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;

(h)yn lle paragraff (7) rhodder—

(7) Mae uned besgi yn Lloegr sydd wedi ei chymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd anifeiliaid buchol sydd wedi eu symud heb brawf cyn symud yn uned besgi eithriedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.

6.  Yn erthygl 15 (gwaharddiadau)—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Ni chaiff unrhyw berson gymryd sampl o anifail buchol at ddiben rhoi diagnosis o dwbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.

(b)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail buchol, ni chaiff person, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, symud yr anifail hwnnw o’r fangre lle cynhaliwyd y prawf hyd nes bod canlyniad negatif wedi cael ei ddarllen gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy a hyd nes bod y ceidwad wedi cael gwybod am y canlyniad hwnnw.

7.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5 (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—

(a)yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;

(b)yn is-baragraff (1)(a) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”.

8.  Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 5 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;

(b)hepgorer paragraff 8 (symud o fewn yr ardal TB isel neu ohoni).

9.  Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 3 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;

(b)ar ôl paragraff 6 (symud i sioeau amaethyddol) mewnosoder—

(6A) Symud anifail buchol i sioe amaethyddol yn yr ardal TB ganolradd, neu ddychwelyd anifail i’r ardal TB ganolradd o sioe amaethyddol y tu allan i’r ardal TB ganolradd, ar yr amod—

(a)nad yw’r symud yn golygu aros am fwy na 24 awr neu letya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, a

(b)bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.;

(c)yn lle paragraff 7 (symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel) rhodder—

Symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel

7.  Symud anifail buchol o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel. Mae i “ardal risg isel” yr ystyr a roddir i “low-risk area” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021(2) ac Atodlen 1 iddo.

(1)

Mae’r map wedi ei adneuo ac ar gael i edrych arno yn Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir cael gafael ar gopi o’r map ar www.llyw.cymru/tb-mewn-gwartheg.

(2)

O.S. 2021/1001 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2023/867.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill