- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
23 Mawrth 2022
Yn dod i rym
1 Ebrill 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 12A(13)(a), 12B(12) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 12A(14) a 12B(13) o’r Ddeddf honno(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2022.
2. Yn adrannau 12A(1)(b) a 12B(1)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, yn lle “100” rhodder “300”.
3. At ddiben y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 yn unig, mae’r cyfeiriadau at “300” a fewnosodir gan reoliad 2 yn adran 12A(1)(b) a 12B(1)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i’w dehongli fel cyfeiriadau at “100”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i ddarparu, ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, y caiff awdurdod bilio yng Nghymru benderfynu mewn perthynas â’i ardal, os yw annedd ar unrhyw ddiwrnod yn annedd wag hirdymor neu’n annedd a feddiennir yn gyfnodol, fod swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw wedi ei gynyddu gan ganran nad yw’n fwy na 300.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1992 p. 14. Mewnosodwyd adrannau 12A a 12B o’r Ddeddf gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).
Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys