- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
1 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
4 Mawrth 2022
Yn dod i rym
1 Ebrill 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 12 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd ar y Cyd ac Unigol Personau sy’n Ymadael â Gofal) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2022.
2.—(1) Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 6 (personau sy’n atebol i dalu’r dreth gyngor), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A) Subsection (3) also does not apply in relation to a chargeable dwelling in Wales as respects any day on which one or more of the persons mentioned fall to be disregarded for the purposes of discount for a relevant reason and one or more of them do not; and liability to pay the council tax in respect of the dwelling and that day is determined as follows—
(a)if only one of those persons does not fall to be so disregarded, that person is solely liable;
(b)if two or more of those persons do not fall to be so disregarded, they are each jointly and severally liable.
(4B) For the purposes of subsection (4A), a person falls to be disregarded for the purposes of discount for a relevant reason if that person falls within, and meets the conditions prescribed in, Class G (care leavers) as prescribed in regulation 5(7) of the Council Tax (Additional Provisions for Discount Disregards) Regulations 1992 (S.I. 1992/552).”
(3) Yn adran 7 (atebolrwydd mewn cysylltiad â charafannau a chychod) yn is-adran (5) yn lle “Subsection (4)” rhodder “Subsections (4) and (4A)” ac yn lle “it applies” rhodder “they apply”.
(4) Yn adran 8 (atebolrwydd mewn achosion rhagnodedig) yn is-adran (5) yn lle “Subsection (4)” rhodder “Subsections (4) and (4A)” ac yn lle “it applies” rhodder “they apply”.
(5) Yn adran 9 (atebolrwydd priodau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A) Subsection (1) also does not apply in relation to a chargeable dwelling in Wales as respects any day on which the other person mentioned falls to be disregarded for the purposes of discount by virtue of falling within, and meeting the conditions prescribed in, Class G (care leavers) as prescribed in regulation 5(7) of the Council Tax (Additional Provisions for Discount Disregards) Regulations 1992 (S.I. 1992/552).”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 6, 7, 8 a 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i ddarparu, mewn perthynas ag anheddau trethadwy yng Nghymru, nad yw personau sy’n ymadael â gofal sy’n 24 oed neu’n iau sy’n dod o fewn rheoliad 5(7) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992, ac sy’n bodloni’r amodau a ragnodir yn y rheoliad hwnnw, yn atebol ar y cyd nac yn unigol i dalu’r dreth gyngor, pa un a ydynt yn briod neu mewn partneriaeth sifil ai peidio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1992 p. 14; mewnosodwyd paragraff 12 o Atodlen 1 gan adran 156 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc. 1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys