- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
10 Chwefror 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Chwefror 2022
Yn dod i rym
9 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pŵer a roddir gan Erthygl 25(b) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 3(5)(c)(i)(bb) o’r Rheoliad hwnnw(2).
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ceisiadau am Gymorth Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Mawrth 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39 ar reolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymorth Undeb ar gyfer cyflenwi ffrwythau a llysiau, bananas a llaeth mewn sefydliadau addysgol(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 4(5), ym mharagraff 6—
(a)ar ôl “evidence” yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “held available for the relevant authority”,
(b)hepgorer y geiriau o “The relevant authority shall specify” hyd at “aid applications.”
(3) Yn Erthygl 9(6), hepgorer paragraff 2.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
10 Chwefror 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan y pŵer sydd wedi ei gynnwys yn Erthygl 25(b) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (“y Rheoliad CMO”), fel y’i darllenir gydag Erthygl 3(5)(c)(i)(bb) o’r Rheoliad hwnnw. Maent yn gymwys yng Nghymru yn unig.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthyglau 4 a 9 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39. Maent yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol sy’n ategu ceisiadau am gymorth o dan y cynllun a sefydlwyd gan Erthyglau 22 i 25 o’r Rheoliad CMO. O ganlyniad i’r diwygiadau hyn, rhaid nad yw ymgeiswyr ond yn dal y dystiolaeth ddogfennol honno sydd ar gael i’r awdurdod perthnasol. Yn flaenorol, roedd rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth ddogfennol ategol gyda’r cais am gymorth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
EUR 2013/1308. Diwygiwyd Erthygl 25 gan O.S. 2019/831. Diffinir “appropriate authority” yn Erthygl 3(5)(c). Mewnosodwyd y diffiniad o “appropriate authority” gan O.S. 2019/821, ac fe’i diwygiwyd wedi hynny gan O.S. 2019/1422.
Mae Erthygl 3(5)(c)(i)(bb) yn diffinio Gweinidogion Cymru fel yr “appropriate authority” o ran Cymru.
EUR 2002/178. Nid oes diwygiadau perthnasol.
EUR 2017/39. Diwygiwyd Erthyglau 4 a 9 gan O.S. 2019/1422. Diffinir “relevant authority” yn Erthygl 1(3). Mewnosodwyd y diffiniad o “relevant authority” gan O.S. 2019/1422. Mae Erthygl 1(3)(a)(ii) yn diffinio Gweinidogion Cymru fel y “relevant authority” o ran Cymru.
Diwygiwyd Erthygl 4 gan O.S. 2019/1422.
Diwygiwyd Erthygl 9 gan O.S. 2019/1422.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys