Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/07/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 2.00 p.m. ar 11 Mai 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 3.00 p.m. ar 11 Mai 2020
Yn dod i rym
am 4.00 p.m. ar 11 Mai 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd a cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a deuant i rym am 4.00 p.m. ar 11 Mai 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.5.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (2), ar ôl “y Rheoliadau hyn” mewnosoder “, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt,”;
(b)hepgorer paragraffau (3), (4), (4A) a (5).
(3) Yn rheoliad 4, ym mharagraff (5)(c), yn lle “, oriel neu lyfrgell” rhodder “neu oriel”.
(4) Yn rheoliad 8, ym mharagraff (2)—
(a)ar ôl is-baragraff (aa) mewnosoder—
“(ab)i gasglu nwyddau sydd wedi eu prynu oddi wrth berson sy’n darparu gwasanaeth mewn ymateb i archebion neu ymholiadau yn rhinwedd yr eithriad i’r gofyniad yn rheoliad 6(2)(a) i beidio â chynnal busnes;”
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol)” rhodder “o fewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw”;
(c)ar ôl is-baragraff (i)—
“(ia)i ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu neu waredu gwastraff;
(ib)i ymweld â llyfrgell;”.
(5) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 10, hepgorer “, llyfrgelloedd”;
(b)ar ôl paragraff 33 mewnosoder—
“33A. Canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion.”;
(c)ar ôl paragraff 47 mewnosoder—
“48. Llyfrgelloedd.”
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.5.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1
3. Hepgorer rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.5.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1
4. Mae rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 wedi eu gwneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 11.5.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.00 p.m. ar 11 Mai 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).
Mae’r diwygiadau fel a ganlyn—
(a)diwygio rheoliad 3 o’r prif Reoliadau i ychwanegu cymesuredd y gofynion a’r cyfyngiadau fel ystyriaeth pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu’r prif Reoliadau, ac i ddileu darpariaethau sy’n ymwneud â therfynu gofynion neu gyfyngiadau drwy gyfarwyddyd gweinidogol (sy’n golygu bod rhaid eu terfynu drwy ddiwygio’r prif Reoliadau);
(b)diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau, ac Atodlen 1 iddynt, i ganiatáu i lyfrgelloedd agor yn ddarostyngedig i ofynion i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr gan bersonau yn y fangre a phersonau sy’n aros i fynd i’r fangre;
(c)diwygio rheoliad 8 o’r prif Reoliadau i wneud y canlynol—
(i)pennu bod gadael y man lle yr ydych yn byw i gasglu nwyddau a archebir o siop sy’n gweithredu ar sail “archebu a chasglu” yn esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1);
(ii)dileu’r cyfyngiad ym mharagraff (2)(b) ar beidio â gwneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd (fel y mae’n ymwneud ag ymarfer corff fel esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1));
(iii)pennu bod gwneud defnydd o gyfleuster ailgylchu neu waredu gwastraff neu ymweld â llyfrgell yn esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1) (sylwer, er hynny, nad yw’r newid hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfleusterau hyn agor oherwydd mater i awdurdodau lleol yw hynny);
(d)ychwanegu canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion at Ran 4 o Atodlen 1 sy’n golygu y caniateir iddynt agor yn ddarostyngedig i ofynion i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr gan bersonau yn y fangre a phersonau sy’n aros i fynd i’r fangre.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”) O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/353 (Cy. 80) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeiwrs) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399 (Cy. 88)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452 (Cy. 102)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys