- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Yn ystod y cyfnod trosiannol, bydd cofrestriad darparwr DSG o dan Ddeddf 2000 yn parhau ac, er gwaethaf unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2000 a wneir gan Ran 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a fyddai fel arall yn eithrio ei gais, bydd darpariaethau Rhan 2 yn parhau i fod yn gymwys i—
(a)darparwr DSG;
(b)Gweinidogion Cymru;
(c)y Tribiwnlys Haen Gyntaf;
(d)Llys Ynadon,
fel pe na bai’r diwygiadau canlyniadol hynny wedi cael eu gwneud.
(2) Mae adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (arbedion cyffredinol) yn gymwys mewn cysylltiad â datgymhwyso’r darpariaethau yn Neddf 2000 i sefydliadau neu asiantaethau perthnasol fel y byddai pe bai Rhan 2 o Ddeddf 2000 wedi ei diddymu.
(3) Pan fo cofrestriad darparwr DSG yn ddarostyngedig i amodau yn union cyn y diwrnod penodedig, bydd yr amodau hynny yn gymwys i’r cofrestriad yn ystod y cyfnod trosiannol.
(4) Darpariaethau Rhan 2 yw—
(a)adrannau 14, 14A, 15, 17(4) i (6), 18, 19(3) i (6), 20A, 20B, 21, 23(1), 23(4), 24, 24A, 25(2), 26, 28, 29, 30, 30A, 31, 32, 36 a 37 o Ddeddf 2000;
(b)unrhyw un neu ragor o’r rheoliadau a ganlyn sy’n gymwys i’r asiantaeth y mae cofrestriad y darparwr DSG wedi ei gynnal mewn cysylltiad â hi—
(i)Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003(2);
(ii)Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(3);
(iii)Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(4);
(iv)Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(5);
(v)Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011(6);
(c)unrhyw un neu ragor o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a wneir yn unol ag adran 23(1) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i’r asiantaeth o dan sylw.
O.S. 2003/367 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3341, O.S. 2007/603 ac O.S. 2013/235.
O.S. 2005/1514 (Cy. 118) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/3251 (Cy. 295) ac O.S. 2013/235.
O.S. 2003/237 (Cy. 35) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2004/1016 (Cy. 113), O.S. 2005/3302, O.S. 2006/3251 (Cy. 295), O.S. 2010/746 (Cy. 75), O.S. 2012/2404, 2016/216 (Cy. 85) ac 2016/481.
O.S. 2004/1756 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3302, O.S. 2006/3251 (Cy. 295), O.S. 2006/878 (Cy. 83), O.S. 2010/2585 (Cy. 217), O.S. 2012/2404, O.S. 2014/107 ac 2016/481. Dylid darllen cyfeiriadau at gynlluniau lleoli oedolion, a chymhwysiad y darpariaethau yn Neddf 2000 i’r cynlluniau hynny, ar y cyd â’r addasiadau a gynhwysir yn Rheoliadau 2004.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys