- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
16.—(1) Rhaid i’r canfyddiad a bennir yn y dystysgrif dadansoddiad sylfaenol gael ei gyfeirio gan swyddog awdurdodedig at labordy a gymeradwywyd ar gyfer dadansoddiad cyfeirio ynghyd â gweddill y sampl swyddogol a gadwyd gan y dadansoddydd yn unol â rheoliad 14(2) neu 14(3), fel y bo’n briodol—
(a)os yw’r canfyddiad yn dangos bod y sampl swyddogol, p’un a yw’n echdynnyn o safle unrhyw fewnblaniad solet neu bigiad neu beidio, yn cynnwys sylwedd a bennir o dan y pennawd “Group A” yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/23; neu
(b)os bydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu gwneud hynny beth bynnag.
(2) Rhaid i’r dadansoddydd gofnodi canlyniadau’r dadansoddiad cyfeirio mewn tystysgrif dadansoddiad cyfeirio a darparu copi o’r dystysgrif honno i swyddog awdurdodedig y mae’n rhaid wedyn iddo roi copi i’r person perthnasol.
(3) Caiff y person perthnasol, ar sail dadansoddiad croes a thrwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i swyddog awdurdodedig, herio’r canfyddiad a bennir mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol mewn perthynas â sampl swyddogol unrhyw bryd cyn i’r sampl honno, neu ran ohoni, gael ei chyfeirio ar gyfer dadansoddiad cyfeirio.
(4) Pan fo’r person perthnasol, yn unol â pharagraff (3), yn herio’r canfyddiad a bennir mewn tystysgrif dadansoddiad sylfaenol, y person hwnnw sy’n atebol i dalu costau unrhyw ddadansoddiad cyfeirio sy’n cadarnhau’r canfyddiad a bennir yn y dystysgrif honno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys