Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 3DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

21.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 22 i 38.

22.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “aelod o’r lluoedd arfog” (“member of the armed forces”) yw aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron;;

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;;

ystyr “perthynas agos” (“close relative”) (mewn perthynas â pherson (“P”)) yw—

(a)

priod neu bartner sifil P;

(b)

person sy’n byw fel arfer gyda P fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil i P;

(c)

rhiant P, pan fo P o dan 25 oed;

(d)

plentyn P, pan fo P yn ddibynnol ar y plentyn hwnnw;; ac

ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;; a

(b)yn lle paragraffau (a) a (b) yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(2) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;.

23.  Yn rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(9A) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo(3) yn yr arfaeth,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(b)ym mharagraff (11) yn lle “paragraffau (9) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A) a (10)”.

24.  Yn rheoliad 6 (cyfnod cymhwystra)—

(a)ym mharagraffau (8) ac (11), yn lle “neu grant at gostau byw” rhodder “, grant at deithio, grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig”;

(b)ym mharagraff (10)—

(i)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “neu 3” rhodder “, 3 neu 4”; a

(ii)yn lle is-baragraff (c)(i) rhodder—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs gradd sylfaen llawnamser neu gwrs gradd arferol;.

25.  Yn rheoliad 13 (cymorth at ffioedd yn gyffredinol)—

(a)ym mharagraff (5), ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;

(b)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Nid yw paragraff (5) yn gymwys pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.; ac

(c)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(7) Ond nid yw paragraff (6) yn gymwys pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.

26.  Yn rheoliad 15 (digwyddiadau), paragraff (b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

27.  Yn rheoliad 23 (amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw), paragraff (12)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

28.  Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)—

(a)ym mharagraff (4), ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A),”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.; ac

(c)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Ond nid yw paragraff (5) yn gymwys pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.

29.  Yn rheoliad 41 (amodau’r hawl i gael benthyciadau at gostau byw), hepgorer paragraff (4).

30.  Yn rheoliad 49 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd), paragraff (2)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

31.  Yn rheoliad 64 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(10A) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo(4) yn yr arfaeth,

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(b)ym mharagraff (12), yn lle “paragraffau (10) ac (11)” rhodder “paragraffau (10), (10A) ac (11)”.

32.  Yn rheoliad 65 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ym mharagraff (4)(b) ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

33.  Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(9A) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo(5) yn yr arfaeth,

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(b)ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A) a (10)”;

(c)ar ôl paragraff (14) mewnosoder—

(14A) Ond nid yw paragraff (14) yn gymwys i gymorth o dan reoliadau 85 i 88 pan—

(a)bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,

(b)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac

(c)na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.; a

(d)ar ôl paragraff (15) mewnosoder—

(15A) Ond nid yw paragraff (15) yn gymwys i gymorth o dan reoliadau 85 i 88 pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.

34.  Yn rheoliad 82 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ym mharagraff (4)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

35.  Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—

(a)ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

(11A) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â’r hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo(6) yn yr arfaeth,

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(b)ym mharagraff (12)(a), yn lle “ffoadur” rhodder “berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn y ddau le y mae’n digwydd.

36.  Yn rheoliad 111 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ym mharagraff (2)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

37.  Yn Atodlen 1—

(a)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd

4A.(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.;

(b)ym mharagraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—

(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;;

(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;;

(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—

(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;; a

(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

38.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6(a), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

(1)

O.S. 2017/47 (Cy. 21) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42).

(2)

Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.

(3)

Gweler “Appendix AR: administrative review”.

(4)

Gweler “Appendix AR: administrative review”.

(5)

Gweler “Appendix AR: administrative review”.

(6)

Gweler “Appendix AR: administrative review”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill