Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

18.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad sy’n dechrau gyda “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””, yn lle “, “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) a “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”)” rhodder “a “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”)”.

(3Yn rheoliad 22, yn y diffiniad o “cynnyrch”, yn lle “Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i’w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC” rhodder “Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i’w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC(2)”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, yn lle “, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad 702/2013 (“Regulation 702/2013”)” rhodder “a Rheoliad 669/2009”;

(b)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 702/2013”.

(5Yn Atodlen 3, yn y diffiniad o “cyfraith bwyd berthnasol” , ym mharagraff (a)—

(a)yn is-baragraff (iii), yn lle “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(3)”;

(b)yn is-baragraff (iv), yn lle “Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd”;

(c)yn lle is-baragraff (vi) rhodder—

(vi)rheoleiddio labelu cig eidion a chig llo o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011(4),;

(d)yn lle is-baragraff (vii) rhodder—

(vii)rheoleiddio mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o dan Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(5), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 32(3)(b) o’r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth,.

(1)

O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/2714 (Cy. 271); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 116, 4.5.2007, t. 9, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196 (OJ Rhif L 197, 22.7.2016, t. 10).

(3)

OJ Rhif L 343, 14.12.2012, t. 1, fel y’i cywirwyd gan y Corigendwm a nodir yn OJ Rhif L 55, 27.2.2013, t. 27.

(4)

O.S. 2011/991 (Cy. 145), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill