Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1208 (Cy. 245)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

20 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1). Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(2) at ddibenion y Ddeddf honno mewn perthynas â’r mesurau sy’n ymwneud ag asesu, rheoli a rheolaeth sŵn amgylcheddol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2018.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996”.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “gyfrwng” hyd at y diwedd rhodder “gyfrifo (yn y safle asesu) a thrwy gyfrwng y dulliau asesu a nodir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Ym mharagraff (3), ystyr “safle asesu” yw’r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb.;

(c)hepgorer paragraffau (4) a (5).

(4Hepgorer Atodlen 2.

(5Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 1, hepgorer y diffiniad o “LA10, 18h”;

(b)hepgorer paragraff 2(a).

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

20 Tachwedd 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629 (Cy. 225)) (“Rheoliadau 2006”) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996 dyddiedig 19 Mai 2015 sy’n sefydlu dulliau cyffredin o asesu sŵn yn unol â Chyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 168, 1.7.2015, t. 1).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dulliau cyffredin newydd o asesu sŵn fel y nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy’n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol (OJ Rhif L 189, 18.7.2002, t. 12) (“y Gyfarwyddeb”), fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996.

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r diffiniad o “Cyfarwyddeb” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006.

Mae rheoliad 2(3)(a) yn diwygio paragraff (3) o reoliad 4 o Reoliadau 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol canfod gwerthoedd Lden, Lnight a dangosyddion sŵn atodol yn y safle asesu ac yn unol â’r fethodoleg yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.

Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod paragraff (3A) newydd yn rheoliad 4 o Reoliadau 2006, sy’n diffinio’r term “safle asesu” at ddibenion paragraff (3).

Mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 4 o Reoliadau 2006, ac Atodlen 2 iddynt, wedi eu hepgor.

Mae rheoliad 2(5) yn hepgor y dangosydd sŵn atodol “LA10, 18h” yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(2)

O.S. 2004/706. Yn rhinwedd paragraffau 28(1) a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae O.S. 2004/706 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill