Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 40

ATODLEN 6Gorchmynion adran 97 a 102 o dan Ddeddf 1990

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.

2.  Nid yw rheoliadau 3, 7(2), 9, 10, 12(1), (2) ac (8), 13 ac 21 yn gymwys.

3.  Yn yr Atodlen hon ac wrth gymhwyso’r Rheoliadau hyn gan yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at yr “awdurdod cynllunio perthnasol” yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am wneud y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102, pa un ai hwy yw’r corff cychwyn ai peidio.

4.  Mae rheoliad 5 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (2)(a) heb fod yn gymwys;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “perthnasol” ei fod yn darllen “lleol”;

(c)paragraff (10) wedi ei hepgor.

5.  Mae rheoliadau 8, 11 a 12(3) i (8) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at—

(a)cais neu gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(b)y ceisydd yn gyfeiriadau at y corff cychwyn; ac

(c)cais AEA, yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA neu’n addasu caniatâd o’r fath.

6.  Mae rheoliad 12(8) i’w ddarllen fel pe bai “drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” yn darllen “drwy wrthod gwneud neu gadarnhau’r gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102”.

7.  Mae rheoliad 14 a’i bennawd i’w darllen fel pe baent yn darparu—

Barnau cwmpasu a chyfarwyddydau cwmpasu

14.(1) Pan fo gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol, caniateir i’r corff cychwyn ddatgan ei farn am gwmpas a manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.

(2) Cyn dyroddi barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (1) rhaid i’r corff cychwyn gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y mae’r corff cychwyn yn dymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3) Rhaid i gorff cychwyn beidio â mabwysiadu barn gwmpasu na chyfarwyddyd cwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.

(4) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu rhaid i’r corff cychwyn ystyried—

(a)yr wybodaeth a luniwyd gan y corff cychwyn am y datblygiad arfaethedig yn unol â pharagraff (2);

(b)nodweddion penodol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio arnynt gan y datblygiad.

(5) Caiff awdurdod cynllunio lleol ofyn i Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(1) wneud cyfarwyddyd ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.

(6) Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu o’u hewyllys eu hunain neu ar gais trydydd parti, rhaid iddynt anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol sydd wedi cychwyn y gorchymyn.

8.  Mae rheoliad 15 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

Cyfarwyddydau cwmpasu

15.(1) Rhaid i ofyniad a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(5) gynnwys—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2); a

(b)unrhyw sylwadau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno eu cyflwyno.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol.

(3) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae’n ofynnol cael gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu’r fath gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(5) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(4).

9.  Mae rheoliad 16 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

16.(1) Caiff corff cychwyn sy’n bwriadu llunio datganiad amgylcheddol ymgynghori ag ymgynghorai er mwyn penderfynu pa un a oes gan yr ymgynghorai unrhyw wybodaeth y mae’r ymgynghorai neu’r corff cychwyn yn ystyried ei bod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol.

(2) Os oes gan yr ymgynghorai y fath wybodaeth, rhaid i’r ymgynghorai drin yr ymgynghoriad gan y corff cychwyn fel pe bai’r awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1).

10.  Mae rheoliad 17 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff (3)(d), yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “corff cychwyn”;

(c)ym mharagraff (4)(b), yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “corff cychwyn”.

11.  Mae rheoliad 18 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

18.(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel datganiad amgylcheddol, wedi ei lunio gan gorff cychwyn mewn perthynas â datblygiad sy’n ymwneud â gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, rhaid i’r corff hwnnw—

(a)anfon copi o’r gorchymyn adran 97 drafft neu’r gorchymyn adran 102 drafft a’r datganiad at yr ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a

(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r corff yn ymwybodol ohono ac sy’n debygol o gael ei effeithio gan y gorchymyn drafft, neu sydd â diddordeb yn y gorchymyn drafft, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, o—

(i)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle gellir cael copi o’r gorchymyn drafft a’r datganiad; a

(ii)y cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.

(2) Ni chaiff y corff cychwyn wneud y gorchymyn hyd nes diwedd 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 19.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn llunio datganiad amgylcheddol, rhaid iddo anfon at Weinidogion Cymru, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl anfon y datganiad at yr ymgynghoreion, un copi o bob un o unrhyw farn sgrinio, datganiad o resymau a gorchymyn drafft perthnasol yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

12.  Mae rheoliad 19 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)paragraff (2) yn darllen—

(2) Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad y corff cychwyn;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod copi o’r gorchymyn drafft ac unrhyw blan neu ddogfennau eraill sy’n dod gydag ag ef, yn ogystal â chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(d)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(e)manylion gwefan a gynhelir gan neu ar ran yr awdurdod cynllunio perthnasol lle gellir gweld yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y maent ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad (pa un a yw’r un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (d) ai peidio) swyddfa’r corff cychwyn lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl; ac

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r gorchymyn eu cyflwyno i’r corff cychwyn cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (d).;

(c)paragraff (3) wedi ei hepgor;

(d)ym mharagraff (4), bod “ceisydd” yn darllen “corff cychwyn”; ac

(e)paragraffau (6) i (8) wedi eu hepgor.

13.  Mae rheoliad 20 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

20.  Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cyflwyno gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid i’r awdurdod hefyd gyflwyno un copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol ac unrhyw wybodaeth bellach.

14.  Mae rheoliad 22 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

22.(1) Pan mai’r awdurdod cynllunio lleol yw’r corff cychwyn, rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â’r datblygiad y mae’r awdurdod yn bwriadu gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas ag ef ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)yn y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

(2) Pan mai Gweinidogion Cymru yw’r corff cychwyn, rhaid iddynt anfon copi o’r datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â’r gorchymyn arfaethedig i’r awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â’r datblygiad sy’n dod o dan y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cael copi o ddatganiad amgylcheddol yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)yn y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

15.  Rhaid darllen rheoliad 24 fel pe bai—

(a)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo—

(a)datganiad amgylcheddol wedi ei lunio; a gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau; a

(b)Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol; a rhaid i’r awdurdod hwnnw sicrhau bod yr wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).;

(b)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;

(d)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad diweddaraf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod, neu ar ei ran lle gellir gweld yr wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y mae ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad y corff cychwyn (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle y gellir cael yr wybodaeth bellach;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraffau (e) ac (f);

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.;

(c)paragraff (4) yn darllen—

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac at Weinidogion Cymru.;

(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;

(e)paragraff (7) yn darllen—

(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 cyn diwedd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(a)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(b)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(c)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar wefan.;

(f)ym mharagraff (8)—

(i)“ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a

(ii)yn is-baragraff (a), ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn dweud “bellach”.

16.  Mae rheoliad 25(1) i’w ddarllen fel pe bai—

(a)“ar gais neu apêl” yn darllen “pa un ai i wneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102”; a

(b)“cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi” yn darllen “lluniwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef”.

17.  Mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai’n darllen—

27.(1) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol gadw cofnod sy’n cynnwys copi o bob gorchymyn adran 97 a gorchymyn adran 102 sy’n ymwneud â’i ardal, ynghyd â datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn; a rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi’n cael ei roi ar y cofnod hwnnw hefyd o unrhyw un o’r canlynol sy’n berthnasol—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);

(e)datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach;

(f)datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.

(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu, neu’n cael copi o gyfarwyddyd sgrinio neu gyfarwyddyd cwmpasu cyn i orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n dod gydag ef neu hi ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y cofnod.

(3) Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y’u gosodir ar y cofnod.

18.  Mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo corff cychwyn yn gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA, rhaid iddo lunio datganiad sy’n nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

19.  Mae rheoliad 29 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

29.(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad” (“decision”), mewn perthynas â gorchymyn sy’n cael effaith o dan adran 97(7) o Ddeddf 1990, yw’r penderfyniad i wneud y gorchymyn ac fel arall, y penderfyniad i gadarnhau’r gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102.

(2) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol yn cael effaith, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol pan fo’r gorchymyn yn cael ei wneud neu ei gadarnhau; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â gorchmynion adran 97 sy’n cael effaith heb gael eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru(2), ddarparu datganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (3)(c) i’r awdurdod.

(3) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol yn cael effaith, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)hysbysu’r cyhoedd am y penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy’r fath ddulliau eraill sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau; a

(b)sicrhau bod datganiad sy’n cynnwys y canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y mae’r cofnod o orchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102 yn cael eu cadw—

(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yw’n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;

(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau i osgoi, lleihau, ac os yn bosibl, wrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad a ganiateir gan y gorchymyn neu sy’n ofynnol gan y gorchymyn; a

(iv)gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

20.  Mae rheoliad 56 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)“penderfyniad” â’r un ystyr ag yn rheoliad 29 fel y’i haddaswyd gan baragraff 19;

(b)paragraff (1)(a) yn darllen—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru ac y mae corff cychwyn yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu drwy orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu ; ac

(c)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig”.

(2)

Gweler adran 99(7) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gorchmynion a gadarnhawyd gan Weinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill