- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
12. Mae rheoliad 24 i’w ddarllen fel pe bai—
(a)paragraff (1) yn darllen—
“(1) Pan fo datganiad amgylcheddol wedi ei lunio a bod yr awdurdod cynllunio lleol o’r farn, er mwyn bodloni gofynion rheoliad 17(3), ei bod yn angenrheidiol ategu’r datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod sicrhau bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu, ac y cyfeirir at y fath wybodaeth yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).”;
(b)paragraff (3) yn darllen—
“(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—
(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod;
(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;
(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu’n barod;
(d)bod copi o’r wybodaeth bellach ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;
(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad olaf y mae ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y maent ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(g)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach;
(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;
(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;
(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraffau (e) ac (f);
(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.”;
(c)paragraff (4) yn darllen—
“(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall at bob person, yn unol â’r Rheoliadau hyn, yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi ac at Weinidogion Cymru.”;
(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;
(e)paragraff (7) yn darllen—
“(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol beidio â gwneud y gorchymyn datblygu lleol cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—
(a)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;
(b)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu
(c)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar wefan.”;
(f)ym mharagraff (8)—
(i)yn lle “ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” ei fod yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a
(ii)yn is-baragraff (a), ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn darllen “bellach neu wybodaeth arall”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys