- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
7.—(1) Rhaid i berson sy’n gofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 6(8) (“person sy’n gwneud cais”) gyflwyno’r canlynol gyda’r cais—
(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 6(1) a’r dogfennau a ddaeth ynghyd â’r cais;
(b)copi o unrhyw hysbysiad a gafwyd o dan reoliad 6(5) ac unrhyw ymateb a anfonwyd;
(c)copi o unrhyw farn sgrinio a gafwyd gan yr awdurdod ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau a ddaeth ynghyd â’r farn; a
(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person eu gwneud.
(2) Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw a’r sylwadau a wneir gan y person hwnnw i Weinidogion Cymru i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.
(4) Rhaid i’r hysbysiad bennu’r pwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn—
(a)21 o ddiwrnodau; neu
(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n fwy na 90 o ddiwrnodau a all fod yn rhesymol ofynnol,
yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (1).
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynodd am gyfarwyddyd sgrinio.
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (7) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.
(9) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (6) at y person a ofynnodd amdano, yr apelydd (os nad hwy yw’r person a ofynnodd amdano) a’r awdurdod cynllunio perthnasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys