- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
13.—(1) Pan ymddengys i Weinidogion Cymru, wrth ystyried apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) bod—
(a)y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2; a
(b)y datblygiad dan sylw—
(i)heb fod yn destun barn sgrinio na chyfarwyddyd sgrinio; neu
(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo i’r perwyl nad yw’n ddatblygiad AEA; ac
(c)y cais perthnasol heb gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,
mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r apêl yn rhywbeth y gofynnodd yr apelydd amdani yn unol â rheoliad 6(8).
(2) Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl ac mae cwestiwn yn codi ynghylch pa un a yw’r cais perthnasol yn gais AEA ac yr ymddengys i’r arolygydd y gallai fod yn gais o’r fath, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru ac ni chaiff benderfynu ar yr apêl cyn y gwneir cyfarwyddyd sgrinio, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.
(3) Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys i gwestiwn a atgyfeirir o dan baragraff (2) fel pe bai atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw yn gais a wneir gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6(8).
(4) Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—
(a)ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a
(b)ceisiadau dilynol, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),
ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(8).
(5) Pan ymddengys i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.
(6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd am unrhyw berson o’r fath.
(7) Caiff apelydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (5), gadarnhau i Weinidogion Cymru o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.
(8) Os nad yw’r apelydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (7), nid oes gan Weinidogion Cymru, na’r arolygydd pan fo hynny’n berthnasol, ddyletswydd i ymdrin â’r apêl; ac ar ddiwedd y 21 o ddiwrnodau, rhaid i Weinidogion Cymru, neu’r arolygydd, hysbysu’r apelydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran yr apêl.
(9) Pan—
(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (5), a
(b)nad yw’r apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6),
rhaid i Weinidogion Cymru neu, pan fo hynny’n berthnasol, yr arolygydd benderfynu ar yr apêl drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys