- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
26.—(1) Caniateir i unrhyw ofyniad gan y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt, i berson anfon dogfen at berson arall gael ei fodloni drwy gyfathrebiad electronig—
(a)os yw’n peri bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen honno ar gael i’r person arall ar ffurf sy’n debyg i’r ffurf y byddai’n ymddangos mewn dogfen a anfonir ar ffurf brintiedig; a
(b)os yw’r person arall, ac eithrio pan mai’r person arall yw’r awdurdod sy’n dyfarnu, yn cydsynio i’r hysbysiad neu’r ddogfen gael eu hanfon drwy’r ffurfiau hynny.
(2) Mae person sydd wedi darparu cyfeiriad e-bost i’w drin fel ei fod yn rhoi cydsyniad i ddogfen gael ei hanfon drwy e-bost.
(3) Caniateir i sylw ysgrifenedig, yn unol â rheoliad 14 neu 16 neu ymateb o dan reoliad 14, gael ei anfon ar ffurf cyfathrebiad electronig.
(4) Nid yw unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i ddogfen gael ei llofnodi yn gymwys yn achos dogfen a anfonir drwy gyfathrebiad electronig.
(5) Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas â phenodi personau i gyflawni swyddogaethau awdurdod cofrestru ac unrhyw ddirymiad dilynol o benodiad o’r fath (rheoliad 4) na chyflwyno ffurflen gais i awdurdod cofrestru (rheoliad 5).
(6) At ddibenion y paragraff hwn, mae “dogfen” yn cynnwys hysbysiad, dogfen, gwybodaeth neu dystiolaeth.
27. Mae unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i gyflwyno dogfen i berson arall wedi ei fodloni, os na ellir canfod y person hwnnw, drwy—
(a)gadael y ddogfen yn ei gyfeiriad olaf sy’n hysbys; neu
(b)anfon y ddogfen drwy bost cofrestredig i’r cyfeiriad hwnnw.
28.—(1) Rhaid i’r awdurdod cofrestru drin unrhyw gais i archwilio neu wneud copïau o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn adran 20(1)(b) neu (c) o Ddeddf 2006 fel cais am wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.
(2) Pan nad yw’r ddeddfwriaeth berthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen gael ei chyfleu neu fod ar gael, caiff yr awdurdod cofrestru wrthod caniatáu i’r ddogfen gael ei harolygu, neu i gopïau gael eu gwneud ohoni.
(3) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 29, ystyr “deddfwriaeth berthnasol” yw Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1) neu Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(2).
29.—(1) Caiff unrhyw berson wneud cais i awdurdod cofrestru ddarparu copi swyddogol o unrhyw gofrestr neu ddogfen, neu unrhyw ran ohoni, y cyfeirir ati yn adran 21(1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff awdurdod cofrestru godi ffi am ddarparu copi swyddogol, nad yw’n uwch na’r gost o ddarparu copïau swyddogol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar ôl cael cais am gopi swyddogol, a thaliad o unrhyw ffi, rhaid i awdurdod cofrestru ddarparu darn o’r gofrestr neu gopi o’r ddogfen, a ardystiwyd ar ran yr awdurdod cofrestru fel darn neu gopi cywir ar y dyddiad dyroddi.
(4) Caiff awdurdod cofrestru wrthod cais i ddarparu copi swyddogol o ddogfen, neu unrhyw ran ohoni, y cyfeirir ati yn adran 20(1)(b) neu (c) o Ddeddf 2006 pan nad yw’r ddeddfwriaeth berthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen gael ei chyfleu neu fod ar gael.
30.—(1) Rhaid i bob awdurdod cofrestru gael stamp swyddogol at ddibenion Deddf 2006, y mae ei argraff yn rhoi’r wybodaeth a ganlyn—
DEDDF TIROEDD COMIN 2006
[Enw’r awdurdod cofrestru]
AWDURDOD COFRESTRU TIROEDD COMIN
[Dyddiad].
(2) Mae gofyniad i awdurdod cofrestru stampio unrhyw ddogfen yn ofyniad i achosi bod argraff y stamp swyddogol wedi ei gosod arni, sy’n rhoi’r dyddiad a grybwyllir yn y gofyniad neu (pan na chrybwyllir dyddiad yn y gofyniad) y dyddiad y gosodwyd y stamp.
31.—(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau 1966 wedi eu dirymu—
(a)rheoliad 26 (cyfeiriadau newydd);
(b)rheoliad 33 (copïau a rhannau ardystiedig);
(c)rheoliad 34 (ffioedd ar gyfer chwiliadau etc.); a
(d)rheoliad 36 (camgymeriadau a hepgoriadau).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—
(a)cais i ddiwygio cofrestr wedi ei wneud i awdurdod cofrestru cyn 5 Mai 2017, yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau 1966; a
(b)yr awdurdod cofrestru heb ddyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Bydd yr awdurdod cofrestru yn parhau i ymdrin â’r cais ar ac ar ôl 5 Mai 2017 fel pe na bai rheoliad 26 o Reoliadau 1966 wedi ei ddiddymu.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo—
(a)camgymeriad neu hepgoriad yn cael ei ddarganfod, cyn 5 Mai 2017, yn unol â rheoliad 36 o Reoliadau 1966; a
(b)yr awdurdod cofrestru heb gywiro’r gofrestr cyn y dyddiad hwnnw.
(5) Bydd yr awdurdod cofrestru yn parhau i ymdrin ag unrhyw gywiriad angenrheidiol ar ac ar ôl 5 Mai 2017 fel pe na bai rheoliad 36 o Reoliadau 1966 wedi ei ddiddymu.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys