Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: RHAN 13

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 13:

  • Regulations text amended by S.I. 2020/143 reg. 2-17 (These amendments not applied to legislation.gov.uk. Affecting Regulations revoked (14.2.2020) without ever being in force by S.I. 2020/154, regs. 2, 3)

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 13LL+CCYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwysLL+C

110.—(1Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys fynd iddo oherwydd anabledd sydd ganddo, mewn perthynas ag ymgymryd ohono â chwrs ôl-radd dynodedig.

(2Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi ei hepgor gan baragraff (4).

(3Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth o dan reoliad 115, wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r person fynd i wariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â’r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

(a)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan sefydliad A sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol yr aed iddo gan A oherwydd ei anabledd; neu

(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol yr aed iddo gan A oherwydd ei anabledd; neu

(vi)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2) sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol yr aed iddo gan A oherwydd ei anabledd; neu

(b)os yw A wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(5At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

y bydd paragraff (4)(c) yn gymwys.

(7Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod odano.

(8Ac eithrio pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 117(3)(c)(ii) yn gymwys, fel bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â rhan o’i gwrs dramor, nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) ac er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4) mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10)(a) neu (b).

(10Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

(b)bod—

(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol;

(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

(11Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu statws ffoadur ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef bod y myfyriwr yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

(14Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

(a)mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(c)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

(d)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 110 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaiddLL+C

111.—(1Os digwydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2) yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a

(b)nid oes grant o’r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn un o’i dinasyddion yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(g)y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 111 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyrsiau ôl-radd dynodedigLL+C

112.—(1Mae cwrs ôl-radd yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 110—

(a)os yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu’n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw’n gwrs—

(i)sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol; neu

(iii)yn achos cwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(d)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; ac

(e)os nad yw’n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus;

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3); a

(d)mae cwrs wedi ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

(3At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a)ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw’r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i’w ystyried yn un—

(i)sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

(ii)nad yw wedi ei esgusodi o unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(4At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 110, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

(5Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 112 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfnod cymhwystraLL+C

113.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 110.

(2Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 110, mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—

(a)yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 114; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(6Pan fo’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n gwrs rhan-amser, mae’r cyfnod cymhwystra’n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â’n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 112(1)(b)(ii).

(7Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau a ganlyn y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 119.

(8Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar y dyddiad y daw’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 113 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Trosglwyddo statwsLL+C

114.—(1Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

(b)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawlogaeth i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo, gweddill y cymorth o dan y Rhan hon, y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod ganddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo ohono.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth ar ôl y trosglwyddo, yn unol â’r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1), ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 114 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau am gymorthLL+C

115.—(1Rhaid i berson wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy’n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd—

(a)pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

(b)os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

(c)sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 115 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

GwybodaethLL+C

116.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â rhoi gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 116 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Swm y grantLL+C

117.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y grant sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan y Rhan hon yw’r cyfryw swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

(3At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw’r “mathau o wariant cymwys”—

(a)gwariant ar gynorthwyydd nad yw’n gynorthwyydd meddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

(c)gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o’r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu’r Athrofa.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant o dan y Rhan hon yn daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(5Pan fo grant o dan y Rhan hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(6Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 111(2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 117 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Talu’r grantLL+C

118.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant y mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i’w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon fe gânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i’w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau’r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 118 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

GordaliadauLL+C

119.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

(3Dyma’r dulliau ar gyfer adennill—

(a)tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(4Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(6Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7) ac (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(7Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

(b)pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)pan nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

(a)pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a

(b)pan wneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.

(9Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

(10At ddiben y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 119 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

(3)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill