Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cronfa ddŵr risg uchel” (“high risk reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “high-risk reservoir” yn adran 2C o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;

mae i “cyforgronfa ddŵr fawr” (“large raised reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “large raised reservoir” yn adran A1 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;

ystyr “CANC(“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru

ystyr “Deddf 1975” (“the 1975 Act”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975;

mae i “ymgymerwr” (“undertaker”) yr un ystyr ag a roddir i “undertakers” yn adran 1(4) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Pethau penodedig ddim i’w drin fel cyforgronfeydd dŵr mawr

3.—(1Yn unol ag adran A1(8) o Ddeddf 1975, nid yw’r pethau a ganlyn i’w drin fel cyforgronfeydd dŵr mawr at ddibenion y Ddeddf honno—

(a)lagŵn mwynfa sy’n dip o fewn ystyr Rheoliadau Mwynfeydd 2014(1);

(b)lagŵn chwarel sy’n—

(i)dip o fewn ystyr Rheoliadau Chwareli 1999(2); neu

(ii)dip segur o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Mwynfeydd a Chwareli (Tipiau) 1969(3);

(c)camlas neu fordwyaeth mewndirol arall;

(d)strwythurau a ddyluniwyd ac a adeiladwyd â’r prif ddiben o amddiffyn tir rhag y môr; neu

(e)arglawdd ffordd neu arglawdd rheilffordd ac eithrio —

(i)pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei flocio neu eu blocio mewn ffordd artiffisial at ddibenion defnyddio ardaloedd i fyny’r afon i storio dŵr; neu

(ii)pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei adeiladu neu eu hadeiladu fel bod dŵr yn cael ei storio yn uwch na lefel naturiol y tir.

(2Nid yw paragraff (1)(c) yn cynnwys cronfa ddŵr sy’n ffurfio rhan o gamlas neu fordwyaeth fewndirol arall.

Hawl i apelio dynodiad cyforgronfa ddŵr fawr yn gronfa ddŵr risg uchel

4.—(1Caiff ymgymerwr sydd wedi ei gyflwyno ag hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975(4) apelio yn erbyn y dynodiad ar unrhyw sail i Weinidogion Cymru.

(2Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai gadarnhau neu ganslo’r dynodiad.

Hawl i apelio yn erbyn gofyniad mewn hysbysiad

5.—(1Caiff ymgymerwr y mae hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno iddo apelio i Weinidogion Cymru ar unrhyw sail yn erbyn gofyniad yn yr hysbysiad i benodi peiriannydd neu i roi effaith i argymhelliad peiriannydd.

(2Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cadarnhau’r gofyniad;

(b)addasu’r gofyniad; neu

(c)penderfynu rhoi’r gorau i’r gofyniad cael effaith.

(3Pan fo apêl yn cael ei gwneud, caiff y gofyniad ei atal tra bo’r apêl yn cael ei phenderfynu.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “hysbysiad gorfodi” yw hysbysiad a roddir o dan adran 8(1), 8(3A)(5), 9(7), 10(7), 12(4), 13(5) neu 14(4) o Ddeddf 1975.

Apeliadau

6.—(1Rhaid i apêl o dan reoliad 4 neu 5—

(a)cael ei gwneud yn ysgrifenedig;

(b)datgan seiliau’r apêl; ac

(c)dod i law Gweinidogion Cymru ddim mwy na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynir hysbysiad gorfodi, neu hysbysiad a gyflwynir o dan adran 2B o’r Ddeddf, i’r ymgymerwr.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r apêl at berson penodedig iddo ei hystyried a phenderfynu arni.

(3Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael apêl rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r apêl a’r wybodaeth ategol at CANC.

Trafodion gerbron y person penodedig

7.—(1Os yw’r person penodedig wedi ei fodloni bod apêl wedi ei chyflwyno yn unol â rheoliad 6 rhaid i’r person penodedig benderfynu ar y cais.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (10), mae’r person penodedig i benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer penderfynu ar apêl.

(3Cyn penderfynu ar apêl rhaid i’r person penodedig—

(a)caniatáu 21 o ddiwrnodau i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i CANC o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd o dan is-baragraff (a);

(c)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i’r apelydd o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan CANC o dan is-baragraff (a);

(d)caniatáu 14 o ddiwrnodau pellach i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a’r llall i’r person penodedig.

(4Caiff y person penodedig ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu CANC ar unrhyw adeg.

(5Ar ôl ystyried y sylwadau a’r dogfennau a gyflwynwyd o dan baragraff (3) rhaid i’r person penodedig benderfynu a fydd yr apêl yn cael ei chynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad a rhaid hysbysu’r partïon am y penderfyniad.

(6Os yw apêl i’w phenderfynu drwy wrandawiad rhaid i’r person penodedig bennu’r dyddiad a rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau o rybudd i’r apelydd ac i CANC.

(7Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu galw neu roi tystiolaeth gan dyst yn y gwrandawiad rhaid iddynt, o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, anfon proflen o’r dystiolaeth y bwriedir ei rhoi at y person penodedig.

(8Rhaid i’r person penodedig sicrhau bod gan y ddau barti gopïau o’r holl broflenni tystiolaeth a gyflwynwyd o dan baragraff (7).

(9Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person penodedig ar unrhyw adeg cyn i’r person penodedig benderfynu arni.

(10Mae’r holl bartïon i’r apêl i ddwyn eu costau eu hunain.

Effaith penderfyniad gan y person penodedig

8.  Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan benderfyniad gan y person penodedig.

Arolygiad cyfnodol o gronfeydd dŵr risg uchel

9.—(1At ddibenion adran 10(2) o Ddeddf 1975, mae cronfa ddŵr risg uchel i’w harolygu ar bob un o’r adegau a ganlyn—

(a)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cwblhau unrhyw addasiad i’r gronfa ddŵr—

(i)nad yw’n cynyddu neu’n lleihau ei chynhwysedd;

(ii)y gallai’r fath addasiad effeithio ar ei diogelwch; a

(iii)sydd heb ei ddylunio na’i oruchwylio gan beiriannydd sifil cymwysedig;

(b)ar unrhyw adeg a argymhellir gan y peiriannydd sy’n goruchwylio o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975;

(c)ar unrhyw adeg a argymhellir yn adroddiad y peiriannydd sy’n arolygu a luniwyd o dan adran 10(3) o Ddeddf 1975;

(d)o fewn blwyddyn i’w dynodi o dan adran 2B o Ddeddf 1975;

(e)yn ddim hwyrach na 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr arolygiad diweddaraf a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac unwaith bob 10 mlynedd wedi hynny.

(2Nid yw paragraff (1)(d) yn gymwys i unrhyw gronfa ddŵr a gofrestrwyd fel cyforgronfa ddŵr fawr yn flaenorol o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985(6).

(3Nid yw’r gofyniad i arolygu cronfa ddŵr risg uchel o dan adran 10(2) o Ddeddf 1975 wedi ei gyflawni pan bod yr arolygiad wedi ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo peiriannydd sy’n arolygu sy’n gweithredu o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975 neu beiriannydd sy’n goruchwylio sy’n gweithredu o dan adran 10(3) o’r Ddeddf honno yn argymell bod arolygiad yn cael ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill