- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D(3) o Ddeddf 1990 os yw’n un o’r canlynol—
(a)adeiladu, estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu sy’n cynhyrchu trydan;
(b)datblygiad sy’n ymwneud â chyfleusterau storio nwy tanddaearol;
(c)adeiladu neu addasu cyfleuster nwy naturiol hylifedig (LNG);
(d)adeiladu neu addasu cyfleuster derbyn nwy;
(e)datblygiad mewn perthynas â maes awyr;
(f)adeiladu neu addasu rheilffordd;
(g)adeiladu neu addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd;
(h)adeiladu neu addasu argae neu gronfa ddŵr;
(i)datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr;
(j)adeiladu neu addasu gwaith trin dŵr gwastraff neu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff;
(k)adeiladu neu addasu cyfleuster gwastraff peryglus.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).
(3) Nid yw datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D(3) o Ddeddf 1990 os yw’n ddatblygiad a ganiateir yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn 1995 ac Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw (1).
(4) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 14.
4.—(1) Nid yw adeiladu gorsaf gynhyrchu o fewn rheoliad 3(1)(a) ac eithrio pan ddisgwylir iddi (ar ôl ei hadeiladu) fod â gallu cynhyrchu gosodedig sydd rhwng 10 a 50 megawat.
(2) Nid yw estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu o fewn rheoliad 3(1)(a) ac eithrio pan ddisgwylir i effaith estyn neu addasiad gynyddu’r gallu cynhyrchu gosodedig o 10 megawat o leiaf, ond heb achosi i’r gallu cynhyrchu gosodedig fod yn fwy na 50 megawat.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gallu cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”) yw’r gallu cynhyrchu trydan uchaf (mewn megawatau) y gellir gweithredu’r orsaf gynhyrchu yn unol â hi am gyfnod estynedig heb beri difrod i’r orsaf (gan ragdybio bod y ffynhonnell ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor);
ystyr “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) yw gorsaf, gwaith neu adeiladau sy’n cynhyrchu trydan.
5.—(1) Nid yw datblygiad sy’n ymwneud â chyfleusterau storio nwy tanddaearol o fewn rheoliad 3(1)(b) ac eithrio pan fo’r datblygiad o fewn paragraffau (2), (3), (4) neu (6) o’r rheoliad hwn.
(2) Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os y datblygiad yw cyflawni gweithrediadau at y diben o greu cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol, ac os bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).
(3) Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os—
(a)y datblygiad yw dechrau defnyddio cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy ac eithrio mewn strata mân-dyllog naturiol;
(b)trawsgludwr nwy yw’r datblygwr arfaethedig; ac
(c)bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).
(4) Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os —
(a)y datblygiad yw dechrau defnyddio cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol;
(b)nad trawsgludwr nwy yw’r datblygwr arfaethedig; ac
(c)bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).
(5) Yr amodau yw—
(a)bod cynhwysedd gweithredol disgwyliedig y cyfleusterau yn 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf;
(b)bod cyfradd llif uchaf ddisgwyliedig y cyfleusterau yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.
(6) Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os —
(a)y datblygiad yw cyflawni gweithrediadau at y diben o addasu cyfleusterau tanddaearol at y diben o storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol, a
(b)effaith ddisgwyliedig yr addasu yw—
(i)cynyddu cynhwysedd gweithredol y cyfleusterau o 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf, neu
(ii)cynyddu cyfradd llif uchaf y cyfleusterau o 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleusterau yn unol â hi, gan ragdybio—
bod y cyfleusterau wedi eu llenwi hyd at eu cynhwysedd mwyaf, a
y mesurir y gyfradd ar ôl unrhyw brosesu sy’n ofynnol ar y nwy wrth ei adfer o’r storfa;
ystyr “cynhwysedd gweithredol” (“working capacity”) yw cynhwysedd y cyfleusterau ar gyfer storio nwy yn danddaearol, gan ddiystyru unrhyw gynhwysedd sydd ar gyfer storio nwy clustogi; ac
ystyr “nwy clustogi” (“cushion gas”) yw nwy a gedwir mewn cyfleusterau tanddaearol at y diben o alluogi adfer o’r storfa nwy arall a storiwyd ynddi.
6.—(1) Nid yw adeiladu cyfleuster LNG o fewn rheoliad 3(1)(c) ac eithrio (ar ôl adeiladu’r cyfleuster) pan fo—
(a)cynhwysedd storio disgwyliedig y cyfleuster yn 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf, neu
(b)cyfradd llif uchaf ddisgwyliedig y cyfleuster yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.
(2) Nid yw addasu cyfleuster LNG o fewn rheoliad 3(1)(c) ac eithrio pan fo effaith ddisgwyliedig yr addasiad yn cynyddu—
(a)y cynhwysedd storio yn y cyfleuster o 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf, neu
(b)cyfradd llif uchaf y cyfleuster o 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleuster yn unol â hi, gan ragdybio—
bod y cyfleuster wedi ei lenwi hyd at ei gynhwysedd mwyaf, a
y mesurir y gyfradd ar ôl ail-nwyeiddio’r nwy hylifedig naturiol ac unrhyw brosesu arall sy’n ofynnol wrth adfer y nwy o’r storfa;
ystyr “cyfleuster LNG” (“LNG facility”) yw cyfleuster ar gyfer—
derbyn nwy hylifedig naturiol o’r tu allan i Gymru,
storio’r nwy hwnnw, ac
ail-nwyeiddio’r nwy hwnnw;
ystyr “cynhwysedd storio” (“storage capacity”) yw cynhwysedd y cyfleuster ar gyfer storio’r nwy naturiol hylifedig, a fesurir fel pe bai’r nwy wedi ei storio yn ei ffurf ail-nwyeiddiedig.
7.—(1) Nid yw adeiladu cyfleuster derbyn nwy o fewn rheoliad 3(1)(d) ac eithrio (ar ôl adeiladu’r cyfleuster) pan fo—
(a)y cyfleuster o fewn paragraff (3), a
(b)cyfradd llif uchaf ddisgwyliedig y cyfleuster yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.
(2) Nid yw addasu cyfleuster derbyn nwy o fewn rheoliad 3(1)(d) ac eithrio pan fo—
(a)y cyfleuster o fewn paragraff (3), a
(b)effaith ddisgwyliedig yr addasiad yn cynyddu cyfradd llif uchaf y cyfleuster o 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.
(3) Mae cyfleuster derbyn nwy o fewn y paragraff hwn os—
(a)nad yw’r nwy a drinnir yn y cyfleuster yn tarddu o Gymru, Lloegr neu’r Alban,
(b)nad yw’r nwy yn cyrraedd y cyfleuster o Loegr neu’r Alban, ac
(c)nad yw’r nwy wedi ei drin eisoes mewn cyfleuster arall ar ôl cyrraedd Cymru.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfleuster derbyn nwy” (“gas reception facility”) yw gyfleuster ar gyfer—
derbyn nwy naturiol yn ei ffurf nwyol o’r tu allan i Gymru, a
trin nwy naturiol (rywfodd ac eithrio drwy ei storio);
ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleuster yn unol â hi.
8.—(1) Nid yw datblygiad mewn perthynas â maes awyr o fewn o fewn rheoliad 3(1)(e) ac eithrio pan y datblygiad yw—
(a)adeiladu maes awyr o fewn paragraff (2),
(b)addasu maes awyr o fewn paragraff (3), neu
(c)gwneud cynnydd, sydd o fewn paragraff (4), yn y defnydd a ganiateir o faes awyr.
(2) Nid yw adeiladu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir y gall y maes awyr (ar ôl ei adeiladu) ddarparu—
(a)gwasanaethau cludiant teithwyr awyr ar gyfer o leiaf un filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu
(b)gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau bob blwyddyn.
(3) Nid yw addasu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir i’r addasiad gynyddu—
(a)nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, o un filiwn y flwyddyn, o leiaf, neu
(b)nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar eu cyfer, o 5,000 y flwyddyn, o leiaf.
(4) Nid yw cynnydd yn y defnydd a ganiateir o faes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan fo’n gynnydd o—
(a)un filiwn y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, neu
(b)5,000 y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr iddynt.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae “addasu”/“addasiad” (“alteration”) yn cynnwys adeiladu, estyn neu addasu—
rhedfa yn y maes awyr,
adeilad yn y maes awyr, ac
mast radar neu radio, antena neu gyfarpar arall yn y maes awyr;
ystyr “awyren nwyddau” (“cargo aircraft”) yw awyren sydd—
wedi ei chynllunio i gludo nwyddau ond nid teithwyr, a
sy’n ymgymryd â chludo nwyddau ar delerau masnachol;
ystyr “gwasanaethau cludiant nwyddau awyr” (“air cargo transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo nwyddau drwy’r awyr;
ystyr “gwasanaethau cludiant teithwyr awyr” (“air passenger transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo teithwyr drwy’r awyr;
mae “nwyddau” (“cargo”) yn cynnwys post;
ystyr “symudiad cludiant awyr” (“air transport movement”) yw glaniad neu esgyniad awyren.
9.—(1) Nid yw adeiladu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio pan fo’r rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu)—
(a)yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru (yn ddarostyngedig i baragraff (2)),
(b)yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr cymeradwy, ac
(c)yn cynnwys darn o drac di-dor sydd â’i hyd yn fwy na dau gilometr,
yn ddarostyngedig i baragraff (5).
(2) Yn achos rheilffordd sydd (ar ôl ei hadeiladu) yn rhannol yng Nghymru, ni fydd adeiladu’r rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio i’r graddau y mae darn o drac di-dor sy’n fwy na dau gilometr o hyd yng Nghymru.
(3) Nid yw addasu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio pan fo—
(a)y rhan o’r rheilffordd sydd i’w haddasu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru (yn ddarostyngedig i baragraff (4)),
(b)y rheilffordd yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr cymeradwy, ac
(c)yr addasiad i’r rheilffordd yn cynnwys gosod darn o drac di-dor sydd â’i hyd yn fwy na dau gilometr,
yn ddarostyngedig i baragraff (5).
(4) Yn achos rheilffordd sydd (ar ôl ei haddasu) yn rhannol yng Nghymru nid yw’r addasiad i’r rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio i’r graddau y mae’r darn o drac addasedig yng Nghymru yn ddarn di-dor o fwy na dau gilometr.
(5) Nid yw adeiladu neu addasu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) i’r graddau y mae’r rheilffordd yn ffurfio rhan (neu y bydd yn ffurfio rhan ar ôl ei hadeiladu) o gyfnewidfa nwyddau rheilffordd.
(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gweithredwr cymeradwy” (“approved operator”) yw person—
a awdurdodwyd i fod yn weithredwr rhwydwaith gan drwydded a roddwyd o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(2) (trwyddedau ar gyfer gweithredu asedau rheilffordd), neu
sydd yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr cwmni sydd yn berson o’r fath.
mae i “is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr” yr ystyr a roddir i “wholly-owned subsidiary” yn Neddf Cwmnïau 2006(3);
ystyr “rheilffordd” yw—
rheilffordd;
tramffordd; neu
system drafnidiaeth sy’n defnyddio dull arall o drafnidiaeth gyfeiriedig, nad yw’n system o gerbydau troli.
mae i “rhwydwaith” yr ystyr a roddir i “network” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(4);
mae “trac addasedig” (“altered track”) yn cynnwys trac ychwanegol, amnewidiol neu wyredig.
10.—(1) Nid yw adeiladu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(g) ac eithrio pan ddisgwylir (ar ôl ei hadeiladu) y bodlonir mewn perthynas â hi bob un o’r amodau ym mharagraffau (3) i (5).
(2) Nid yw addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(g) ac eithrio pan ddisgwylir (ar ôl yr addasu) y bodlonir mewn perthynas â hi bob un o’r amodau ym mharagraffau (3) i (5).
(3) Yr amod cyntaf yw bod y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn gallu trin—
(a)llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un derbynnydd, a
(b)o leiaf ddau drên nwyddau bob dydd.
(4) Yr ail amod yw bod y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn cynnwys warysau y gellir anfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd, naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth.
(5) Y trydydd amod yw nad yw’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn rhan o sefydliad milwrol.
(6) Yn y rheoliad hwn—
mae i “rhwydwaith”, “stoc rholio” a “trên”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “network”, “rolling stock” a “train” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993;
ystyr “sefydliad milwrol” (“military establishment”) yw sefydliad a fwriedir ar ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr, neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn; ac
ystyr “trên nwyddau” (“goods train”) (os diystyrir unrhyw locomotif) yw trên a gyfansoddir o eitemau o stoc rholio a gynlluniwyd ar gyfer cludo nwyddau.
11.—(1) Nid yw adeiladu argae neu gronfa ddŵr o fewn rheoliad 3(1)(h) ac eithrio pan fo cyfaint disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu sydd wedi ei storio yn y gronfa yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.
(2) Nid yw addasu argae neu gronfa ddŵr o fewn rheoliad 3(1)(h) ac eithrio pan fo cyfaint ychwanegol disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a fydd wedi ei storio yn y gronfa, o ganlyniad i’r addasiad, yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.
12.—(1) Nid yw datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr o fewn rheoliad 3(1)(i) ac eithrio pan—
(a)cyflawnir y datblygiad gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr,
(b)disgwylir y bydd cyfaint y dŵr sydd i’w drosglwyddo o ganlyniad i’r datblygiad yn fwy na 100 miliwn metr ciwbig y flwyddyn,
(c)bydd y datblygiad yn galluogi trosglwyddo adnoddau dŵr—
(i)rhwng basnau afonydd yng Nghymru,
(ii)rhwng ardaloedd ymgymerwyr dŵr yng Nghymru, neu
(iii)rhwng basn afon yng Nghymru ac ardal ymgymerwr dŵr yng Nghymru, a
(d)nad yw’r datblygiad yn ymwneud â throsglwyddo dŵr yfed.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “basn afon” (“river basin”) yw arwynebedd o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd;
ystyr “ymgymerwr dŵr” (“water undertaker”) yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (penodi ymgymerwyr perthnasol)(5);
ystyr “ardal ymgymerwr dŵr” (“water undertaker’s area”) yw’r ardal y penodwyd ymgymerwr dŵr ar ei chyfer o dan y Ddeddf honno.
13.—(1) Nid yw adeiladu gwaith trin dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan fo capasiti disgwyliedig y gwaith trin (ar ôl ei adeiladu) yn fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.
(2) Nid yw adeiladu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan—
(a)prif ddiben y seilwaith yw—
(i)trosglwyddo’r dŵr gwastraff ar gyfer ei drin, neu
(ii)storio dŵr gwastraff cyn ei drin,
neu’r ddau, a
(b)disgwylir i’r seilwaith fod â’r gallu i storio mwy na 350,000 metr ciwbig o ddŵr gwastraff.
(3) Nid yw addasu gwaith trin dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynnydd yng nghapasiti’r gwaith trin o fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.
(4) Nid yw addasu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan—
(a)prif ddiben y seilwaith yw—
(i)trosglwyddo’r dŵr gwastraff ar gyfer ei drin, neu
(ii)storio dŵr gwastraff cyn ei drin,
neu’r ddau, a
(b)effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynnydd yng nghapasiti’r seilwaith ar gyfer storio dŵr gwastraff o fwy na 350,000 metr ciwbig.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae “dŵr gwastraff” (“waste water”) yn cynnwys dŵr gwastraff domestig, dŵr gwastraff diwydiannol a dŵr gwastraff trefol; ac
mae i’r termau “dŵr gwastraff domestig”, “dŵr gwastraff diwydiannol”, “cyfwerth poblogaeth” a “dŵr gwastraff trefol”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “domestic waste water”, “industrial waste water”, “population equivalent” ac “urban waste water” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994(6).
14.—(1) Nid yw adeiladu cyfleuster gwastraff peryglus o fewn rheoliad 3(1)(k) ac eithrio pan—
(a)prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, a
(b)disgwylir i’r cyfleuster fod â’r capasiti a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y capasiti yw—
(a)yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, mwy na 100,000 tunnell y flwyddyn;
(b)mewn unrhyw achos arall, mwy na 30,000 tunnell y flwyddyn.
(3) Nid yw addasu cyfleuster gwastraff peryglus o fewn rheoliad 3(1)(k) ac eithrio pan—
(a)prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, a
(b)disgwylir i’r addasiad gynyddu capasiti’r cyfleuster—
(i)yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, o fwy na 100,000 tunnell y flwyddyn;
(ii)mewn unrhyw achos arall, o fwy na 30,000 tunnell y flwyddyn.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfleuster storio dwfn” (“deep storage facility”) yw cyfleuster ar gyfer storio gwastraff yn danddaearol mewn ceudod daearegol dwfn; ac
mae i’r termau “gwaredu”, “gwastraff peryglus” ac “adfer”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “disposal”, “hazardous waste” a “recovery” yn Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005(7).
Diwygiwyd erthygl 3 gan: rheoliadau 34(1) a 35(3) a (4) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293); rheoliad 15(3) o Reoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draeniad Tir) 1999 (O.S. 1999/1793) ac adran 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27). Gwnaed diwygiadau i Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1993 p. 43. Diwygiwyd adran 8 gan: adran 216 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno; adran 16 o Ddeddf Diogelwch y Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 (p. 20), a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno; a chan adrannau 1 a 59 o Ddeddf Rheilffyrdd 2005 (p. 14) a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 1, a Rhan 1 Atodlen 13 i’r Ddeddf honno.
2006 p. 46. Gweler adran 1159.
Gwnaed diwygiadau i adran 83(1) nad ydynt yn berthnasol i’r rheoliad hwn.
1991 p. 56. Diwygiwyd adran 6 gan adran 36 o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37). Gwnaed diwygiadau eraill i adran 6 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1994/2841. Gwnaed diwygiadau i reoliad 2(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/894. Gweler rheoliad 5.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys