- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo gan gyn-blentyn perthnasol yn union cyn y diwrnod perthnasol drefniant byw pan fydda i’n barod a wneir yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi.
(2) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys bydd y trefniant byw pan fydda i’n barod yn cael ei ystyried ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny yn drefniant byw ôl-18 a wneir mewn perthynas â pherson ifanc categori 3 yn unol â Rhan 6 o’r Ddeddf.
(3) Yn y paragraff hwn—
mae i “cyn-blentyn perthnasol” yr ystyr a roddir i “former relevant child” yn adran 23C(1) o Ddeddf 1989;
mae i “cyn-riant maeth” a “trefniant byw ôl-18” yr ystyron a roddir yn adran 108 o’r Ddeddf;
ystyr “person ifanc categori 3” (“category 3 young person”) yw person ifanc categori 3 o fewn ystyr adran 104 o’r Ddeddf;
ystyr “trefniant byw pan fydda i’n barod” (“when I’m ready living arrangement”) yw trefniant byw a therfyn amser iddo a hwylusir gan awdurdod lleol pan fo cyn-blentyn perthnasol yn parhau i fyw gyda ei gyn-riant maeth ar ôl i’r cyn-blentyn perthnasol beidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys