- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
93.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr ei ysgwyddo, mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig, oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant y mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys i’w gael o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a)£15,885 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c)y gwariant ychwanegol sy’n cael ei ysgwyddo—
(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad;
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;
(d)£1,338 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy’n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
(5) Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
(6) Pan fo rheoliad 87(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 87(4) ddigwydd y caiff myfyriwr rhan-amser cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.
(9) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys nad yw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw’r dwysedd astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.
(10) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw’r dwysedd astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 25 y cant.
(11) At ddibenion paragraffau (9) a (10), mae’r dwysedd astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 90(2) a (3).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys