- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
23.—(1) Cyflawnir trosedd os yw ceidwad, ac eithrio cludwr, yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 5(1), (3) a (5) o Reoliad y Cyngor.
(2) Pan symudir anifail i’w ddaliad neu ohono, rhaid i’r ceidwad gofnodi—
(a)yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Adran B o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor; a
(b)nifer yr anifeiliaid a symudwyd.
(3) Rhaid i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) mewn cysylltiad ag anifeiliaid a symudir i ddaliad gael ei chofnodi gan y ceidwad gyda chofnod yn y gofrestr ond, fel dewis arall, caniateir i god adnabod unigol pob anifail gael ei gofnodi drwy gadw copi deublyg neu gopi ardystiedig o’r dogfennau symud yn nhrefn eu dyddiadau a chroesgyfeirio’r rheini â’r cofnodion symud perthnasol yng nghofrestr y daliad.
(4) Rhaid i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) mewn cysylltiad ag anifeiliaid a symudir o ddaliad gael ei chofnodi gan y ceidwad drwy naill ai—
(a)ei chofnodi yn y gofrestr; neu
(b)cadw copi deublyg neu gopi ardystiedig o’r ddogfen symud a chadw’r copi deublyg neu’r copi ardystiedig hwnnw gyda’r gofrestr yn eu trefn gronolegol ar y cyd ag unrhyw ddogfennau symud eraill a gedwir.
(5) Cyflawnir trosedd os cedwir y gofrestr mewn ffurf ac eithrio ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
(6) Rhaid i’r ceidwad lenwi’r gofrestr—
(a)yn achos symud anifail i ddaliad neu ohono ac eithrio drwy bwynt cofnodi canolog, o fewn 36 awr ar ôl ei symud;
(b)yn achos symud anifail i ddaliad neu ohono drwy bwynt cofnodi canolog, o fewn 48 awr ar ôl ei symud;
(c)yn achos amnewid marc adnabod, o fewn 36 awr ar ôl ei amnewid;
(d)yn achos cod adnabod anifail, blwyddyn ei eni, dyddiad ei adnabod ac, os yw’n hysbys, ei frîd a’i genoteip, o fewn 36 awr ar ôl ei adnabod;
(e)yn achos marwolaeth anifail, o fewn 36 awr ar ôl darganfod ei farwolaeth.
(7) Pan fo’r ceidwad yn symud ei anifeiliaid i ddaliad arall ac yntau’n parhau yn geidwad yr anifeiliaid, nid oes rhaid iddo gadw’r gofrestr ar y daliad arall hwnnw ond rhaid iddo allu dangos y gofrestr o fewn amser rhesymol i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.
(8) At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod pan fo rhaid sicrhau bod y gofrestr, gan gynnwys y copïau deublyg neu’r copïau ardystiedig o’r dogfennau symud os cânt eu cadw yn unol â pharagraff (4)(b), ar gael yw tair blynedd o’r diwrnod olaf y bydd anifail y cyfeirir ato yn y ddogfen naill ai’n marw neu’n ymadael â’r daliad.
(9) Pan ailadnabyddir anifail rhaid i’r ceidwad gofnodi dyddiad ei ailadnabod yn y gofrestr.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys