Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5Swyddogaethau disgyblu

Sefydlu Pwyllgorau Ymchwilio

20.  Rhaid i’r Cyngor sefydlu un neu fwy o bwyllgorau i gael eu hadnabod fel Pwyllgorau Ymchwilio at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau yn adran 26(1) a (2) o Ddeddf 2014.

Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio

21.—(1Caiff Pwyllgor Ymchwilio ddirprwyo’r swyddogaethau a ganlyn i un o gyflogeion y Cyngor

(a)penderfynu pa un ai i ymchwilio, ac ymchwilio, i honiadau o nodwedd neu ddisgrifiad penodol, neu honiadau penodol—

(i)yn erbyn person cofrestredig; neu

(ii)bod person cofrestredig wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol;

(b)penderfynu a oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb mewn perthynas â mater yr ymchwiliwyd iddo o dan is-baragraff (a); ac

(c)terfynu achos yn erbyn person cofrestredig pan fo’r cyflogai wedi penderfynu o dan is-baragraff (b) nad oes achos i’w ateb.

(2Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i arfer swyddogaeth gan un o gyflogeion y Cyngor yn yr un modd ag y byddent yn gymwys i arfer y swyddogaeth honno gan Bwyllgor Ymchwilio.

Sefydlu Addasrwydd i Ymarfer

22.—(1Rhaid i’r Cyngor sefydlu un neu fwy o bwyllgorau i gael eu hadnabod fel Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer at ddibenion cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(2Mae swyddogaethau Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer fel a ganlyn—

(a)penderfynu ar achosion a gyfeirir ato gan Bwyllgor Ymchwilio pan ymddengys i’r Pwyllgor Ymchwilio fod gan y person cofrestredig achos i’w ateb ynglŷn ag—

(i)ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(ii)anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu

(iii)collfarn am drosedd berthnasol;

(b)ystyried pa un ai i wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person cofrestredig hwnnw ac os bydd yn ystyried y dylid gwneud gorchymyn o’r fath, gwneud gorchymyn o’r fath pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn canfod bod person cofrestredig—

(i)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol;

(ii)yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu

(iii)wedi ei gael yn euog o drosedd berthnasol; ac

(c)penderfynu ar geisiadau o dan reoliadau 37, 39 neu 40, neu faterion yn codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliadau 38 neu 41.

Ffurf a chynnwys y cod ymddygiad ac ymarfer

23.  Rhaid i’r cod ymddygiad ac ymarfer gynnwys y materion a ganlyn fel darpariaeth sylfaenol—

(a)seilio’r berthynas rhwng dysgwyr a phersonau cofrestredig ar ymddiriedaeth a pharch o’r ddwy ochr;

(b)bod yn ystyriol o ddiogelwch a lles dysgwyr;

(c)gweithio mewn modd cydweithredol gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill;

(d)datblygu a chynnal perthynas dda â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr;

(e)gweithredu â gonestrwydd ac unplygrwydd;

(f)bod yn sensitif i’r angen am gyfrinachedd, pan fo’n briodol;

(g)cymryd cyfrifoldeb dros gynnal ansawdd ymarfer proffesiynol; ac

(h)cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Defnyddio’r cod ymddygiad ac ymarfer mewn materion disgyblu

24.  Rhaid i Bwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer roi ystyriaeth i unrhyw fethiant gan berson cofrestredig i gydymffurfio â’r cod ymddygiad ac ymarfer mewn unrhyw achos disgyblu yn erbyn y person hwnnw.

Darparu copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer

25.—(1Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar gael am ddim i bob person cofrestredig—

(a)pan fo’r cod ymddygiad ac ymarfer yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf neu pan fydd person yn cofrestru am y tro cyntaf (os nad oedd y person yn berson cofrestredig pan gyhoeddwyd y cod ymddygiad ac ymarfer am y tro cyntaf); a

(b)pan fo’r cod ymddygiad ac ymarfer yn cael ei adolygu.

(2Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod copi o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar gael ar unrhyw wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (1) rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, ddarparu copïau o’r cod ymddygiad ac ymarfer ar ôl talu pa bynnag ffi resymol y caiff benderfynu arni.

Aelodaeth a gweithdrefn Pwyllgorau

26.—(1Ar Bwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer (“Pwyllgor”) rhaid i’r Cyngor gynnwys—

(a)un neu fwy aelod lleyg; a

(b)un neu fwy aelod sy’n berson cofrestredig.

(2Y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor yw tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy’n berson cofrestredig.

(3Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Cyngor gael ei benodi’n aelod o Bwyllgor.

(4Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Pwyllgor Ymchwilio sy’n ymchwilio i achos gael ei benodi’n aelod o’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n penderfynu ar yr achos hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 37, 39 a 40, caiff y Cyngor wneud darpariaeth fel y gwêl yn addas ar gyfer—

(a)aelodaeth Pwyllgor;

(b)ar ba delerau y mae aelodau Pwyllgor i ddal a gadael swydd; ac

(c)gweithdrefn Pwyllgor.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “aelod lleyg” (“lay member”) yw aelod o’r Pwyllgor nad ydyw—

(i)yn berson cofrestredig;

(ii)yn gyflogedig, nac wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol o fewn y cyfnod o 5 mlynedd a fydd yn dod i ben ar ddyddiad penodi’r person hwnnw ar y Pwyllgor;

(iii)wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1));

(iv)yn destun gorchymyn disgyblu a wnaed o dan Ddeddf 2014 ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw bod y person yn anghymwys i gofrestru; neu

(v)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n gyfystyr â chategori cofrestru;

(b)ystyr “aelod sy’n berson cofrestredig” (“registered person member”) yw person—

(i)sy’n berson cofrestredig o’r un categori cofrestru â’r person cofrestredig sy’n destun yr achos disgyblu; a

(ii)sy’n gyflogedig, neu sydd wedi ei gymryd ymlaen ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw sy’n berson cofrestredig i’r Pwyllgor.

(7Rhaid i aelod sy’n berson cofrestredig ac sy’n peidio â bod yn berson cofrestredig neu sy’n peidio â bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru beidio â bod yn aelod sy’n berson cofrestredig.

(8Mae aelod lleyg sy’n dod yn berson cofrestredig yn peidio â chael ei ystyried yn aelod lleyg.

Hepgor neu gyfyngu ar bwerau Pwyllgorau

27.—(1Hepgorir swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn mewn achos—

(a)pan honnir bod person cofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) am drosedd berthnasol, neu pan ymddengys iddo y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny neu wedi ei gollfarnu am hynny; a

(b)pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod yr achos yn ymwneud â diogelwch a lles personau nad ydynt eto’n 18 oed a’i fod yn dymuno ystyried yr achos gyda’r bwriad o arfer ei bwerau o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002—

(i)ar y sail bod person yn anaddas i weithio gyda phlant, neu

(ii)ar sail sy’n ymwneud â chamymddygiad neu iechyd person; neu

(c)pan fo’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a sefydlwyd gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(1), wedi cynnwys, neu yn ystyried pa un ai i gynnwys, person cofrestredig yn y naill neu’r llall o’r rhestrau gwahardd a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2).

(2Hepgorir swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn mewn achos—

(a)pan honnir bod person cofrestredig yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu pan ymddengys iddo y gallai person cofrestredig fod yn euog o hynny; a

(b)pan na ddarparwyd i’r Cyngor yn unol â Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn wybodaeth y mae’r Pwyllgor Ymchwilio yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 5 o’r Rheoliadau hyn.

Achosion Pwyllgorau Ymchwilio

28.—(1Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu cynnal ymchwiliad mewn perthynas â pherson cofrestredig, ar adeg yn ystod yr ymchwiliad y mae’n ei ystyried yn briodol, mae’n rhaid iddo—

(a)hysbysu’r person cofrestredig o natur yr honiad neu’r achos yn ei erbyn, a’i hawliau o dan reoliad 30;

(b)rhoi’r cyfle i’r person cofrestredig gyflwyno tystiolaeth a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig; ac

(c)ystyried tystiolaeth a sylwadau o’r fath ac unrhyw dystiolaeth a deunydd arall sydd ar gael iddo.

(2Caiff Pwyllgor Ymchwilio benderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad ar unrhyw adeg cyn i’r achos gael ei atgyfeirio i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno.

(3Ar ôl cwblhau ei ymchwiliad rhaid i’r Pwyllgor Ymchwilio gymryd un o’r camau a ganlyn—

(a)atgyfeirio’r achos i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu arno; neu

(b)peidio â pharhau â’r achos.

(4Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu peidio â pharhau ag ymchwiliad neu achos mae’n rhaid iddo hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—

(a)ei fod yn peidio â pharhau â’r achos; a

(b)nad oes gan y person cofrestredig dan sylw achos i’w ateb.

(5Pan fo Pwyllgor Ymchwilio yn penderfynu nad oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb, rhaid iddo gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person dan sylw.

(6Caiff y Cyngor wneud darpariaethau eraill ynghylch y weithdrefn i’w dilyn gan Bwyllgor Ymchwilio mewn cysylltiad ag ymchwiliadau’r Pwyllgor Ymchwilio ac achosion eraill fel y gwêl yn addas, a chaiff adolygu unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan y paragraff hwn o bryd i’w gilydd.

Achosion Pwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer

29.—(1Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer benderfynu ar achosion yn erbyn personau cofrestredig a atgyfeirir ato gan Bwyllgor Ymchwilio yn unol â’r Rheoliadau hyn a rheolau a wneir gan y Cyngor o dan reoliad 34.

(2Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu peidio â pharhau ag achos ar unrhyw adeg ar ôl i’r achos hwnnw gael ei atgyfeirio ato gan Bwyllgor Ymchwilio, rhaid iddo hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—

(a)ei fod yn peidio â pharhau â’r ymchwiliad; a

(b)nad oes gan y person cofrestredig dan sylw achos i’w ateb.

(3Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu nad oes gan berson cofrestredig achos i’w ateb, rhaid iddo gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person dan sylw.

(4Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer atgyfeirio achos at Bwyllgor Ymchwilio.

Hawl i ymddangos a chael cynrychiolaeth mewn gwrandawiadau

30.—(1Mae gan berson cofrestredig hawl i ymddangos a chyflwyno sylwadau ar lafar a chael ei gynrychioli, gan ba bynnag berson neu bersonau a ddymuna, mewn unrhyw wrandawiad Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer lle y caiff ei achos ei ystyried.

(2Pan nad yw person cofrestredig yn ymddangos mewn gwrandawiad Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer lle y caiff ei achos ei ystyried, mae gan y person cofrestredig yr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

Presenoldeb tystion

31.  Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson fynychu a rhoi tystiolaeth neu gyflwyno dogfennau neu dystiolaeth berthnasol arall mewn unrhyw wrandawiad.

Gofyniad i wrandawiadau gael eu cynnal yn gyhoeddus

32.—(1Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyhoeddi ei benderfyniad ynglŷn â chanlyniad pob gwrandawiad yn gyhoeddus ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid i holl wrandawiadau Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gael eu cynnal yn gyhoeddus.

(2Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer drafod yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod neu ar ôl gwrandawiad.

(3Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer wahardd y cyhoedd o wrandawiad neu unrhyw ran o wrandawiad—

(a)pan ymddengys i’r pwyllgor ei bod yn angenrheidiol gwahardd y cyhoedd er lles cyfiawnder;

(b)pan fo’r person cofrestredig y mae’r achos disgyblu yn cael ei weithredu yn ei erbyn yn gwneud cais ysgrifenedig y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat, ac nad yw’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn ystyried ei bod yn groes i les y cyhoedd i gynnal y gwrandawiad yn breifat; neu

(c)pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn lles plant.

Gweinyddu llwon a chadarnhadau

33.  Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst mewn gwrandawiad roi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad ac i’r diben hwnnw gellid gweinyddu llw neu gadarnhad yn y man.

Darpariaethau eraill ynglŷn â Phwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer

34.  Caiff y Cyngor wneud darpariaethau eraill ynghylch y weithdrefn i’w dilyn gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer mewn cysylltiad â phenderfyniadau’r pwyllgor a gweithdrefnau eraill fel y gwêl yn addas, ac o bryd i’w gilydd caiff adolygu unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan y paragraff hwn.

Gorchmynion disgyblu

35.—(1Rhaid i orchymyn disgyblu gofnodi penderfyniad y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, y dyddiad y gwneir y gorchymyn, a’r dyddiad y mae’r gorchymyn yn cael effaith.

(2Daw gorchymyn disgyblu i rym ar y dyddiad y caiff hysbysiad ohono ei gyflwyno i’r person y caiff y gorchymyn disgyblu ei wneud mewn perthynas ag ef ac eithrio pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu fel arall.

(3Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno i’r person y gwneir y gorchymyn disgyblu mewn perthynas ag ef hysbysiad o’r gorchymyn disgyblu sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)testun y gorchymyn;

(b)disgrifiad o effaith y gorchymyn;

(c)rhesymau’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer dros wneud y gorchymyn;

(d)hysbysiad o hawl y person cofrestredig i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y gorchymyn a’r cyfnod amser ar gyfer gwneud apêl o’r fath;

(e)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn cofrestru amodol, eglurhad—

(i)o’r camau y mae gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yr awdurdod i’w cymryd pe byddai’r person cofrestredig yn methu â chydymffurfio ag amod a nodir ynddo, a

(ii)o hawl y person i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn a’r dull o wneud cais o’r fath;

(f)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn atal dros dro sy’n pennu amodau, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn hwnnw a’r dull o wneud cais o’r fath; ac

(g)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn gwahardd, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais am benderfyniad ei fod yn gymwys i gael ei gofrestru a’r dull o wneud cais o’r fath.

(4Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn i’r personau cofrestredig sy’n bresennol neu i’r cyflogwr diwethaf a, phan fo’n berthnasol, i’r asiant.

(5Pan fydd Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, ar ôl penderfynu ar achos, yn penderfynu peidio â gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â pherson cofrestredig, rhaid i’r pwyllgor hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—

(a)am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto; a

(b)a benderfynodd nad oedd yr achos yn ei erbyn wedi ei brofi.

(6Pan nad yw’n canfod bod yr achos yn erbyn person cofrestredig wedi ei brofi, rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person cofrestredig.

Cyhoeddi gorchmynion disgyblu

36.—(1Yn unol â pharagraff (2) rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (3) mewn cysylltiad â gorchymyn disgyblu—

(a)ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd am y cyfnod y bydd y gorchymyn mewn grym neu am gyfnod o chwe mis yn cychwyn ar y dyddiad y mae’r gorchymyn i gael effaith (pa un bynnag yw’r diweddaraf); neu

(b)mewn modd arall fel y gwêl yn addas.

(2Nid yw’r ddyletswydd i gyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (3) yn gymwys pan ymddengys ym marn y Cyngor ei bod yn angenrheidiol peidio â chyhoeddi—

(a)er lles cyfiawnder; neu

(b)er mwyn amddiffyn lles plant.

(3Yr wybodaeth i gael ei chyhoeddi yw—

(a)enw’r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef ac enw—

(i)yr ysgol yr oedd y person yn gyflogedig ynddi yn fwyaf diweddar;

(ii)y sefydliad addysg bellach neu’r sefydliad addysg uwch yr oedd y person yn gyflogedig ynddi yn fwyaf diweddar, neu

(iii)yr awdurdod lleol pan oedd y person wedi ei gyflogi yn fwyaf diweddar gan awdurdod lleol heblaw mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu addysg uwch;

(b)y math o orchymyn disgyblu;

(c)y dyddiad y gwnaed y gorchymyn a’r dyddiad y mae’n cael effaith;

(d)y cyfnod y mae’r gorchymyn disgyblu yn cael effaith ar ei gyfer (pan bennir hynny);

(e)pa un ai cafwyd y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu ei gollfarnu am drosedd berthnasol;

(f)pan ganfyddir bod y person wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol, natur a dyddiad y gollfarn dan sylw; ac

(g)pan ganfyddir bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, mynegiant o natur yr ymddygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn.

Cais i amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol neu i’w roi o’r naill du

37.—(1Rhaid i gais gan berson cofrestredig sydd wedi derbyn gorchymyn cofrestru amodol i amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac

(c)cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.

(2Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Canlyniadau methiant i gydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol

38.  Pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn fodlon bod person cofrestredig y gwnaed gorchymyn cofrestru amodol yn ei erbyn wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw amod ynddo, caiff weithredu gorchymyn atal dros dro neu wahardd mewn perthynas â’r person cofrestredig.

Cais i amrywio amod mewn gorchymyn atal dros dro neu i’w roi o’r naill du

39.—(1Rhaid i gais gan berson cofrestredig sydd wedi derbyn gorchymyn atal dros dro i amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac

(c)cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.

(2Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Cais i adolygu gorchymyn gwahardd

40.—(1Rhaid i gais gan berson sydd wedi derbyn gorchymyn gwahardd gan y Cyngor i benderfynu a yw’n gymwys i gofrestru—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)pennu ar ba sail y mae’r person cofrestredig yn ceisio cael amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn; ac

(c)cael ei gyflwyno gyda phob dogfen y dibynnir arni er mwyn cefnogi’r cais.

(2Pan fo cais yn cael ei wneud o dan baragraff (1) rhaid i’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n ystyried y cais hwnnw beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a oedd yn aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Adolygu gorchmynion disgyblu

41.  Caiff Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ddirymu gorchymyn disgyblu a wnaed ganddo ar unrhyw adeg—

(a)pan mai’r unig neu’r prif reswm dros wneud y gorchymyn oedd bod y person y gwnaed y gorchymyn mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu am drosedd berthnasol, a bod y gollfarn gan sylw wedi ei diddymu ar ôl y dyddiad y gwnaed y gorchymyn; neu

(b)pan fo’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud, yn cael tystiolaeth na chafodd ei hystyried ganddo cyn iddo wneud y gorchymyn, a’i fod yn fodlon na fyddai wedi gwneud y gorchymyn pe byddai’n ymwybodol o’r dystiolaeth honno cyn iddo ei wneud.

Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion

42.  Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion achos disgyblu gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 54.

Cyhoeddi a darparu copïau o ddogfennau

43.—(1Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan reoliad 28(6) neu 34—

(a)ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd; a

(b)mewn unrhyw ddull arall y gwêl yn addas.

(2Rhaid i’r Cyngor, ar gais unrhyw berson cofrestredig, ddarparu copi o reolau gweithredu a wnaed o dan reoliad 28(6) neu 34 i’r person hwnnw.

(3Caiff y Cyngor godi ffi resymol am ddarparu rheolau gweithredu yn unol â pharagraff (2) ond ni chaiff ffi o’r fath fod yn uwch na chost eu cyflenwi.

(4Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw ddatganiad y mae’n ofynnol iddo ei gyhoeddi o dan reoliad 28(5), 29(3) neu 35(6) ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd, a chaiff gyhoeddi’r datganiad mewn unrhyw ddull arall y gwêl yn addas os yw’n dymuno gwneud hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill