Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 31 Hydref 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid” (“the Refugee Convention”) yw’r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951, fel y’i hymestynnwyd gan Erthygl 1(2) o’r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996;

ystyr “noddwr” (“sponsor”) yw person sydd wedi rhoi ymgymeriad ysgrifenedig at ddibenion y Rheolau Mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety person arall;

ystyr “y Rheolau Mewnfudo” (“the Immigration Rules”) yw’r rheolau a osodir fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(1) (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheolaeth);

ystyr “Rheoliadau Ymaelodaeth 2013” (“the Accession Regulations 2013”) yw Rheoliadau Ymaelodaeth Croatia (Mewnfudo ac Awdurdodi Gweithwyr) 2013(2); ac

ystyr “Rheoliadau yr AEE” (“the EEA Regulations”) yw Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006(3).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae i “ceisiwr gwaith”, “person hunangyflogedig”, a “gweithiwr” yr un ystyr ag a roddir i “jobseeker”, “self-employed person” a “worker”, yn y drefn honno, at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o Reoliadau yr AEE(4); a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae cyfeiriadau at aelod o deulu ceisiwr gwaith, person hunangyflogedig neu weithiwr i’w dehongli yn unol â rheoliad 7 o’r Rheoliadau hynny.

(3At ddibenion rheoliadau 4(2)(d) a 6(2)(d) nid yw “aelod o deulu” (“family member”) yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel aelod o deulu yn rhinwedd rheoliad 7(3) o Reoliadau yr AEE.

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai

3.  Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ganlyn sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

(a)Dosbarth A – person a gofnodir fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(b)Dosbarth B – person—

(i)sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;

(ii)sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu’r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a

(iii)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;

(d)Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo; ac

(e)Dosbarth E – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo.

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai

4.—(1Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;

(b)os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—

(i)yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu

(ii)yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE(5); neu

(iii)yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan reoliad 15A(1) o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn rheoliad 15A(4A) o’r Rheoliadau hynny(6); neu

(iv)yn deillio o Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, mewn achos pan fo’r hawl i breswylio yn codi gan y byddai dinesydd Prydeinig fel arall yn cael ei amddifadu o fwynhad gwirioneddol sylwedd ei hawliau fel dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd; neu

(c)mae unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon—

(i)yn hawl cyfwerth ag un o’r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i), (ii) neu (iii) sy’n deillio o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd; neu

(ii)yn deillio o Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd mewn achos pan fo’r hawl i breswylio—

(aa)yng Ngweriniaeth Iwerddon yn codi gan y byddai dinesydd Gwyddelig; neu

(bb)yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn codi gan y byddai dinesydd Prydeinig sydd hefyd â’r hawl i breswylio yno,

fel arall yn cael ei amddifadu o fwynhad gwirioneddol sylwedd ei hawliau fel dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd.

(2Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)gweithiwr;

(b)person hunangyflogedig;

(c)person sy’n cael ei drin fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o Reoliadau yr AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth 2013 (hawl preswylio gwladolyn o Wladwriaeth ymaelodol sy’n ddarostyngedig i awdurdodiad gweithiwr);

(d)person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau (a)-(c);

(e)person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac

(f)person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.

Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai

5.—(1Mae’r dosbarthiadau canlynol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—

(a)Dosbarth A – person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(b)Dosbarth B – person—

(i)sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a

(ii)nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

(i)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;

(ii)sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu ar y dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a

(iii)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;

(d)Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo;

(e)Dosbarth E – person sy’n geisiwr lloches y mae ei hawliad lloches wedi ei gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un a wnaed cyn 3 Ebrill 2000 ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn un o’r paragraffau canlynol—

(i)wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig o wlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon (ac eithrio wrth i’r person ddod yn ôl i’r Deyrnas Unedig);

(ii)o fewn tri mis i’r diwrnod y gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ddatganiad perthnasol, ac yr oedd y ceisydd ym Mhrydain Fawr ar y diwrnod y gwnaed y datganiad; neu

(iii)ar 4 Chwefror 1996 neu cyn hynny gan geisydd a oedd â’r hawl, ar 4 Chwefror 1996, i fudd-dal o dan reoliad 7A o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987(7) (personau o dramor); ac

(f)Dosbarth F – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo.

(2At ddiben paragraff (1)(e)—

(a)ystyr “ceisiwr lloches” (“asylum-seeker”) yw person sy’n 18 oed o leiaf, sydd yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi gwneud hawliad lloches;

(b)ystyr “hawliad lloches” (“claim for asylum”) yw hawliad y byddai’n groes i rwymedigaethau’r Deyrnas Unedig o dan y Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid i’r hawlydd gael ei symud ymaith o’r Deyrnas Unedig, neu i’w gwneud yn ofynnol iddo ymadael â’r Deyrnas Unedig;

(c)ystyr “datganiad perthnasol” (“relevant declaration”) yw datganiad i’r perwyl bod newid mor sylfaenol i amgylchiadau’r wlad y mae’r ceisydd yn un o’i gwladolion fel na fyddai’r Ysgrifennydd Gwladol fel arfer yn gorchymyn i’r person ddychwelyd i’r wlad honno; a

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn peidio â bod yn geisiwr lloches pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cofnodi bod penderfyniad wedi ei wneud ar ei hawliad lloches (ac eithrio ar apêl) neu ei fod wedi ei ollwng.

(3At ddibenion paragraff (1)(e)(iii), nid yw person yn peidio â bod yn geisiwr lloches fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(d) tra bo’n gymwys i gael budd-dal tai yn rhinwedd—

(a)rheoliad 10(6) o Reoliadau Budd-dal Tai 2006(8); neu

(b)rheoliad 10(6) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(9),

fel y’u haddaswyd yn y ddau achos gan baragraff 6 o Atodlen 3 i Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (Darpariaethau Canlyniadol) 2006(10).

Personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai

6.—(1Mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i’w drin fel person o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), os nad yw’r person yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon;

(b)os yw unig hawl person i breswylio yn y Deyrnas Unedig—

(i)yn deillio o statws y person fel ceisiwr gwaith neu aelod o deulu ceisiwr gwaith; neu

(ii)yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan reoliad 13 o Reoliadau yr AEE; neu

(iii)yn hawl deilliannol i breswylio sydd gan y person o dan reoliad 15A(1) o Reoliadau yr AEE, ond dim ond mewn achos pan fo’r hawl yn bodoli o dan y rheoliad hwnnw gan fod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf yn rheoliad 15A(4A) o’r Rheoliadau hynny; neu

(iv)yn deillio o Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, mewn achos pan fo’r hawl i breswylio yn codi gan y byddai dinesydd Prydeinig fel arall yn cael ei amddifadu o fwynhad gwirioneddol sylwedd ei hawliau fel dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd; neu

(c)os yw unig hawl y person i breswylio yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon—

(i)yn hawl cyfwerth ag un o’r rhai hynny a grybwyllir yn is-baragraff (b)(i), (ii) neu (iii) sy’n deillio o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd; neu

(ii)yn deillio o Erthygl 20 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd mewn achos pan fo’r hawl i breswylio—

(aa)yng Ngweriniaeth Iwerddon yn codi gan y byddai dinesydd Gwyddelig; neu

(bb)yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn codi gan y byddai dinesydd Prydeinig sydd hefyd â’r hawl i breswylio yno,

fel arall yn cael ei amddifadu o fwynhad gwirioneddol sylwedd ei hawliau fel dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd.

(2Nid yw’r canlynol i gael eu trin fel personau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)gweithiwr;

(b)person hunangyflogedig;

(c)person sy’n cael ei drin fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o Reoliadau yr AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth 2013 (hawl preswylio gwladolyn o Wladwriaeth ymaelodol sy’n ddarostyngedig i awdurdodiad gweithiwr);

(d)person sy’n aelod o deulu person a bennir yn is-baragraffau (a)-(c);

(e)person sydd â hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd rheoliad 15(1)(c), (d) neu (e) o Reoliadau yr AEE; ac

(f)person sydd yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i allgludo, diarddel neu waredu fel arall y person drwy orfodaeth y gyfraith o wlad arall i’r Deyrnas Unedig.

Dirymiadau

7.  Yn ddarostyngedig i reoliad 8, mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003(11);

(b)Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006(12);

(c)Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006(13); a

(d)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2009(14).

Darpariaethau trosiannol

8.  Nid yw’r dirymiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisydd y gwnaed ei gais am—

(a)dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996; neu

(b)cymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996,

cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2014

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys