- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
45.—(1) Caiff y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol adolygu’r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.
(2) Os bydd y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio’r offeryn llywodraethu, rhaid i’r corff llywodraethu neu (yn ôl y digwydd) yr awdurdod lleol roi gwybod i’r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â’i resymau dros gynnig amrywiad o’r fath.
(3) Pan fo’r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol a yw’n fodlon â’r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw’n fodlon, am ba resymau.
(4) Pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i’r corff llywodraethu beidio ag—
(a)rhoi i’r awdurdod lleol unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2); na
(b)hysbysu’r awdurdod lleol o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â’r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod lleol;
oni fo’r personau a restrir yn rheoliad 44(3) wedi cymeradwyo’r amrywiad a gynigir.
(5) Os—
(a)yw y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol, pa un bynnag sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â’r amrywiad a gynigir; neu
(b)os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu a’r personau eraill (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a restrir yn rheoliad 44(3) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach;
rhaid i’r awdurdod lleol amrywio’r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.
(6) Yn achos ffederasiwn sydd â llywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a restrir yn rheoliad 44(3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â’r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o’r personau hynny ei gyfeirio at Weinidogion Cymru ac o gyfeirio felly, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.
(7) Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ffederasiwn nad oes ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)rhoi gwybod i’r corff llywodraethu y rhesymau—
(i)pam nad yw’n fodlon â’r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu neu, yn ôl y digwydd;
(ii)pam y mae’n dymuno mynd ymlaen â’i amrywiad ei hun; a
(b)rhoi cyfle rhesymol i’r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â’r amrywiad;
a rhaid i’r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a’r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o’r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.
(8) Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn i olygu ei bod yn ofynnol i’r awdurdod lleol amrywio’r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.
(9) Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn rhaid i’r offeryn nodi’r dyddiad y daw’r amrywiad i rym.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys