- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 75
1.—(1) At ddibenion rheoliad 75(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—
(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu
(b)pan fo person perthnasol yn bartner busnes i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu
(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys priod y person hwnnw, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004(1) neu rywun sy’n byw gyda’r person hwnnw fel petai’r person hwnnw’n briod neu’n bartner sifil iddo), a’r person hwnnw’n gwybod hynny, fuddiant o’r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o’r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 75(2) nid yw person perthnasol i’w drin fel petai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—
(a)ar yr amod nad yw buddiant y person hwnnw yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;
(b)yn unig oherwydd i’r person hwnnw gael ei enwebu neu ei benodi i’r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o’r fath, neu’n cael ei gyflogi gan gorff o’r fath; neu
(c)yn unig oherwydd bod y person hwnnw yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes gan y person hwnnw unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo’r gorfforaeth honno neu gorff arall.
(3) Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd buddiant ariannol y person hwnnw yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i’r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu’r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy’n deillio o’u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o’r fath a thalu’r premiymau.
(4) Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy’n ymwneud â lwfansau sydd i’w talu’n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(2) oherwydd bod gan y person hwnnw fuddiant mewn taliadau o lwfansau o’r fath i aelodau’r corff llywodraethu yn gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir a ddylai’r person hwnnw gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad iddo neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi ei dalu i’r llywodraethwr hwnnw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar y mater.
2.—(1) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal ac un o’r canlynol yn fater i’w ystyried—
(a)penodiad, ailbenodiad, ataliad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel aelod o’r corff llywodraethu neu bwyllgor;
(b)penodiad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel clerc, neu gadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;
(c)os yw’r person hwnnw yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 5 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid trin buddiannau’r person perthnasol at ddibenion rheoliad 75(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau’r corff llywodraethu.
3.—(1) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, y telir iddo am weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal, ac eithrio fel pennaeth, yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu’r ysgol ffederal yn fater sydd o dan ystyriaeth.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad y person hwnnw ei hunan yn fater sydd o dan ystyriaeth.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid trin buddiannau’r person perthnasol at ddibenion rheoliad 75(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau’r corff llywodraethu.
4. Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal a phenodi olynydd i’r person hwnnw yn fater dan ystyriaeth, rhaid i’r person hwnnw adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad â’r mater hwnnw.
5. Nid yw’r ffaith bod person yn llywodraethwr neu’n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ffederasiwn i’w ystyried, o dan unrhyw amgylchiadau, yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys