Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 5

ATODLEN 5Telerau gwasanaethu ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig

Ymgorffori darpariaethau

1.  Mae unrhyw ddarpariaethau o'r canlynol sy'n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau contractwyr cyfarpar GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan o'r telerau gwasanaethu—

(a)y Rheoliadau;

(b)y Tariff Cyffuriau i'r graddau y mae'n rhestru cyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);

(c)cymaint o Ran II Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 ag y sy'n ymwneud ag—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol a'r cyd-bwyllgor disgyblu a chamau y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau o'r fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau'r Bwrdd Iechyd Lleol; a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(1) (mynd i mewn i fangreoedd a'u harchwilio) ag sy'n ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd sydd naill ai'n eiddo i gontractwr cyfarpar GIG neu dan ei reolaeth neu'n fangreoedd lle mae contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, ac archwilio mangreoedd o'r fath.

Rhaniad cyfrifoldebau rhwng unigolion a chyrff corfforaethol

2.—(1I'r graddau y mae'r Atodlen hon yn gosod ar gontractwr cyfarpar GIG ofyniad na ellid ei gyflawni gan neb ond person naturiol, neu a gyflawnid fel arfer gan berson naturiol—

(a)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn fferyllydd cofrestredig—

(i)rhaid i'r fferyllydd cofrestredig hwnnw gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw, neu

(ii)os yw'n cyflogi neu wedi cymryd ymlaen fferyllydd cofrestredig mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol, rhaid i'r fferyllydd cofrestredig hwnnw naill ai gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw neu sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofyniad hwnnw gan berson y mae'n ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen; a

(b)os nad yw'r contractwr cyfarpar GIG yn berson naturiol, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG hwnnw sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofyniad hwnnw gan berson y mae'n ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen,

a rhaid dehongli cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at gontractwr cyfarpar GIG yn unol â hynny.

(2Pan fo'r Atodlen hon yn gosod gofyniad ar gyfarwyddwr corff corfforaethol sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid ystyried toriad o'r gofyniad hwnnw yn doriad gan y corff corfforaethol o'i delerau gwasanaethu.

Gwasanaethau gweinyddu

3.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, i'r graddau y mae'n ofynnol gan baragraffau 4 i 8 ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny, ddarparu cyfarpar priodol a digonol i bersonau sy'n cyflwyno presgripsiynau am gyfarpar gan broffesiynolion gofal iechyd yn rhinwedd eu swyddogaethau.

Gweinyddu cyfarpar

4.—(1Yn y paragraff hwn, mae “wedi ei llofnodi” (“signed”) yn cynnwys llofnodi gyda llofnod electronig uwch y rhagnodydd.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, pan fo—

(a)unrhyw berson yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig sy'n cynnwys—

(i)archeb am gyfarpar, nad yw'n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, neu

(ii)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”, “Selected List Scheme” neu “Drug Tariff”; neu

(b)contractwr cyfarpar GIG yn cael presgripsiwn amlroddadwy electronig sy'n cydymffurfio â'r gwasanaeth TPE ac yn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) a (ii) ac—

(i)unrhyw berson yn gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â'r disgrifiad hwnnw, neu

(ii)y contractwr cyfarpar GIG wedi trefnu gyda'r claf yn flaenorol, y byddai'n gweinyddu'r presgripsiwn hwnnw pan ddeuai i law,

rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG, yn rhesymol brydlon, ddarparu'r cyfryw rai o'r cyfarpar a archebir felly a gyflenwir gan y contractwr cyfarpar GIG yng nghwrs arferol ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyfarpar i'w ystyried wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad yw'r person sy'n dymuno cael y cyfarpar yn cyflwyno'r presgripsiwn hwnnw, os yw—

(a)y presgripsiwn hwnnw gan y contractwr cyfarpar GIG yn ei feddiant; a

(b)swp-ddyroddiad cysylltiedig naill ai'n cael ei gyflwyno gan y person hwnnw, neu ym meddiant y contractwr cyfarpar GIG.

Cyflenwi ar frys heb bresgripsiwn

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhagnodydd, mewn achos brys, yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu cyfarpar.

(2Caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r cyfarpar y gofynnir amdano cyn cael ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn perthynas â'r cyfarpar hwnnw, ar yr amod bod y rhagnodydd yn ymrwymo i—

(a)rhoi i'r contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn perthynas â'r cyfarpar o fewn 72 awr ar ôl gwneud y cais; neu

(b)rhoi i'r contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn electronig sy'n cydymffurfio â'r gwasanaeth TPE o fewn 72 awr ar ôl gwneud y cais.

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyfarpar

6.—(1Os yw'r person a bennir yn is-baragraff (2) yn gofyn i'r contractwr cyfarpar GIG wneud hynny—

(a)rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif o'r amser pan fydd y cyfarpar yn barod; a

(b)os na fydd y cyfarpar yn barod erbyn yr amser hwnnw, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif diwygiedig o'r amser pan fydd yn barod.

(2Person a bennir yn yr is-baragraff hwn yw person—

(a)sy'n cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig; neu

(b)sy'n gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig.

(3Cyn darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ofyn i unrhyw berson, sy'n gwneud datganiad nad oes raid i'r person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy dalu'r ffioedd a bennir yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawl i esemptiad o dan reoliad 8 (esemptiadau) o'r Rheoliadau Ffioedd, neu

(ii)hawl i beidio â thalu ffioedd o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),

ddangos tystiolaeth foddhaol o'r cyfryw hawl, oni wneir y datganiad mewn perthynas â hawl i esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 o'r Rheoliadau Ffioedd neu mewn perthynas â hawl i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(d) neu (2) o'r Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, pan fo tystiolaeth o'r fath eisoes ar gael i'r contractwr cyfarpar GIG ar yr adeg y gwneir y datganiad;

(b)yn achos ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, os na ddangosir tystiolaeth foddhaol i'r contractwr cyfarpar GIG fel sy'n ofynnol gan baragraff (a), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG arnodi'r ffurflen y gwneir y datganiad arni, i'r perwyl hwnnw; ac

(c)yn achos ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gydymffurfio ag unrhyw ofynion gan y gwasanaeth TPE i ddarparu—

(i)cofnod o'r hawl o'r esemptiad neu'r hawl i beidio â thalu a hawliwyd, a pha un a ddangoswyd tystiolaeth foddhaol ai peidio, fel y cyfeirir ati ym mharagraff (a), a

(ii)mewn unrhyw achos pan fo ffi'n ddyledus, cadarnhad bod y ffi berthnasol wedi ei thalu.

Darparu cyfarpar

7.—(1Pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy i gontractwr cyfarpar GIG, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG beidio â darparu'r cyfarpar a archebir felly, ac eithrio—

(a)pan fo'r ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy wedi eu llofnodi a'u cwblhau yn briodol, fel a ddisgrifir ym mharagraff 4; a

(b)yn unol â'r archeb sydd ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985 a darpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

(2Os yw'r archeb yn archeb am fath o gyfarpar y mae'n ofynnol ei fesur a'i ffitio gan y contractwr cyfarpar GIG, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol—

(a)ar gyfer mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer y cyfarpar; a

(b)ar gyfer ffitio'r cyfarpar.

(3Os yw'r archeb yn archeb am gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd yn rhan o'r Fformiwlari hwnnw), Fformiwlari'r Ymarferydd Deintyddol, y Cyffuriadur Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain, rhaid i'r cyfarpar a ddarperir gydymffurfio â'r safon neu'r fformiwla a bennir yno.

Gwrthod darparu cyfarpar a archebir

8.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn credu, yn rhesymol, nad yw'r archeb yn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy;

(b)os yw'n ymddangos i'r contractwr cyfarpar GIG fod camgymeriad yn y ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy neu, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, yn ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparu'r cyfarpar, yn yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y contractwr cyfarpar GIG;

(c)os yw'r contractwr cyfarpar GIG neu bersonau eraill yn dioddef trais neu'n cael eu bygwth â thrais gan y person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy neu'n gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd gyda'r person hwnnw; neu

(d)os yw'r person sy'n cyflwyno'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy neu'n gofyn am ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig neu unrhyw berson arall sydd gyda'r person hwnnw, yn cyflawni neu'n bygwth cyflawni trosedd.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)os nad oes gan y contractwr cyfarpar GIG gofnod o'r presgripsiwn hwnnw;

(b)os nad oes gan y contractwr cyfarpar GIG, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, unrhyw swp-ddyroddiad cysylltiedig ac os na chyflwynir swp-ddyroddiad o'r fath i'r contractwr cyfarpar GIG;

(c)os nad yw wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy;

(d)os byddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn;

(e)os hwnnw fyddai'r tro cyntaf y darperid cyfarpar yn unol â'r presgripsiwn, ac os llofnodwyd y presgripsiwn (yn electronig neu fel arall) fwy na chwe mis yn gynharach;

(f)os llofnodwyd y presgripsiwn amlroddadwy (yn electronig neu fel arall) fwy na blwyddyn yn gynharach;

(g)os yw'r dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio; neu

(h)os hysbyswyd y contractwr cyfarpar GIG, gan y rhagnodydd amlroddadwy, nad oes angen y presgripsiwn bellach.

(3Pan fo claf yn gofyn am gyflenwi cyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrio'r tro cyntaf y gofynnir), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG beidio â darparu'r cyfarpar a archebir oni chaiff ei fodloni—

(a)bod y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer—

(i)yn defnyddio'r cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau i'w ddefnyddio felly, a

(ii)nad yw'n dioddef o unrhyw sgil effeithiau'r driniaeth sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf;

(b)nad yw'r modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer wedi newid mewn ffordd sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf; ac

(c)na ddigwyddodd unrhyw newidiadau yn iechyd y claf y mae'r presgripsiwn ar ei gyfer sy'n dynodi bod angen, neu y byddai'n fuddiol, adolygu triniaeth y claf.

Gweithgareddau pellach sydd i'w cyflawni mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau gweinyddu

9.—(1Mewn cysylltiad â'r gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 3, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG—

(a)sicrhau y rhoddir cyngor priodol i gleifion ynghylch unrhyw gyfarpar a ddarperir iddynt—

(i)i'w galluogi i ddefnyddio'r cyfarpar yn briodol, a

(ii)bodloni anghenion rhesymol y cleifion am wybodaeth gyffredinol ynglŷn â'r cyfarpar;

(b)darparu cyngor priodol i gleifion y mae'n cyflenwi cyfarpar iddynt ynglŷn â chadw'r cyfarpar yn ddiogel;

(c)wrth ddarparu cyfarpar i glaf yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(i)darparu cyngor priodol, yn benodol, ar y pwysigrwydd o ofyn am yr eitemau hynny, yn unig, sydd arno eu hangen mewn gwirionedd, a

(ii)at y dibenion hynny, rhoi sylw i'r manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff (f) mewn perthynas â darparu cyfarpar a'r patrwm presgripsiynu mewn cysylltiad â'r claf dan sylw;

(d)darparu i'r claf nodyn ysgrifenedig o unrhyw gyfarpar sy'n ddyledus iddo, a rhoi gwybod i'r claf pa bryd y disgwylir i'r cyfarpar fod ar gael;

(e)darparu i'r claf nodyn ysgrifenedig o enw, cyfeiriad a rhif teleffon y contractwr cyfarpar GIG;

(f)cadw a chynnal cofnodion—

(i)o'r cyfarpar a ddarparwyd, er mwyn hwyluso parhad gofal y claf,

(ii)mewn achosion priodol, o'r cyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (gan gynnwys ymyriadau o arwyddocâd clinigol mewn achosion sy'n ymwneud â phresgripsiynau amlroddadwy), a

(iii)o nodiadau a ddarperir o dan baragraff (d);

(g)dilyn hyfforddiant priodol ynglŷn ag amlweinyddu, gan roi sylw i unrhyw argymhellion ynglŷn ag hyfforddiant o'r fath a bennir yn y Tariff Cyffuriau;

(h)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn cymryd meddiant o bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig neu swp-ddyroddiad cysylltiedig, storio'r presgripsiwn amlroddadwy neu'r swp-ddyroddiad cysylltiedig hwnnw yn ddiogel;

(i)os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan bresgripsiwn electronig, darparu i'r claf, os yw'r claf yn gofyn amdano, gofnod ysgrifenedig o'r cyfarpar a archebwyd ar y presgripsiwn hwnnw, ac yn achos presgripsiwn amlroddadwy electronig, gofnod o'r nifer o droeon y caniateir ei weinyddu;

(j)cynnal cofnodion o bresgripsiynau amlroddadwy mewn ffurf a fydd yn darparu trywydd archwilio eglur o'r cyflenwadau o dan y presgripsiwn amlroddadwy (gan gynnwys dyddiadau a'r meintiau a gyflenwir);

(k)dinistrio unrhyw swp-ddyroddiadau dros ben mewn cysylltiad â chyfarpar—

(i)nad oes eu hangen, neu

(ii)y gwrthodwyd i glaf yn unol â pharagraff 8;

(l)sicrhau, pan wrthodir cyfarpar i berson yn unol â pharagraff 8(1)(b), (2) neu (3), y cyfeirir y claf yn ôl at y rhagnodydd am gyngor pellach;

(m)pan ddarperir cyfarpar i glaf o dan bresgripsiwn amlroddadwy, hysbysu'r rhagnodydd ynghylch unrhyw faterion o arwyddocâd clinigol sy'n codi mewn cysylltiad â'r presgripsiwn a chadw cofnod o'r hysbysiad hwnnw;

(n)hysbysu'r rhagnodydd ynghylch unrhyw wrthodiad i ddarparu cyfarpar yn unol â pharagraff 8(3); ac

(o)wrth ddarparu cyfarpar penodedig, cydymffurfio â'r gofynion ychwanegol a bennir ym mharagraff 10.

(2Pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn cysylltiad â gweinyddu cyfarpar o dan baragraff 4, os na all contractwr cyfarpar GIG ddarparu cyfarpar, neu os oes angen addasu cyfarpar stoma ac na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r addasiad hwnnw, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG—

(a)os yw'r claf yn cydsynio, atgyfeirio'r ffurflen bresgripsiwn neu'r presgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG arall neu at fferyllydd GIG; neu

(b)os nad yw'r claf yn cydsynio ag atgyfeirio, darparu i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i ddarparu'r cyfarpar neu'r addasiad cyfarpar stoma (yn ôl fel y digwydd), os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r contractwr cyfarpar GIG.

Gofynion ychwanegol mewn perthynas â chyfarpar penodedig

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn pennu'r gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 9(1)(o) ynglŷn â darparu cyfarpar penodedig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sy'n gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol ei fusnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn perthynas â'r cyfarpar hwnnw ac, yn rhan o'r gwasanaeth hwnnw—

(a)rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf;

(b)os yw'r claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg a gytunir gyda'r claf;

(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad yw'n arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddynodi ei gynnwys; a

(d)rhaid i'r modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol sy'n ofynnol gan is-baragraff (3) beidio â chyfleu'r math o gyfarpar a ddanfonir.

(3Mewn unrhyw achos pan ddarperir cyfarpar penodedig (drwy ei ddanfon i'r cartref neu fel arall), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—

(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os yw'r claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn â'r cyfarpar; neu

(b)os yw'r contractwr cyfarpar GIG o'r farn bod hynny'n briodol, rhaid iddo—

(i)cyfeirio'r claf at ragnodydd, neu

(ii)cynnig gwasanaeth i'r claf ar gyfer adolygu'r defnydd o'r cyfarpar.

(4Os na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaeth ar gyfer adolygu'r defnydd o'r cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i drefnu ar gyfer darparu'r gwasanaeth, os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r contractwr cyfarpar GIG.

(5Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu llinell gofal teleffon mewn perthynas â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—

(a)y bydd cyngor ar gael i gleifion drwy'r llinell gofal teleffon honno; neu

(b)bod rhif teleffon Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru, ar gael i gleifion drwy'r llinell gofal teleffon honno.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â phob un o'r mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, yw'r cyfnodau y tu allan i'r cyfnodau pan fo'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd paragraff 12;

ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddi'n briodol ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad â'r cyfarpar.

Cyfeirio defnyddwyr

11.—(1Os na all contractwr cyfarpar GIG, pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ddarparu cyfarpar neu addasu cyfarpar stoma, oherwydd nad yw darparu'r cyfarpar neu addasu yng nghwrs busnes arferol y contractwr cyfarpar GIG, rhaid iddo—

(a)os yw'r claf yn cydsynio, atgyfeirio'r ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG neu fferyllydd GIG arall; ac

(b)os nad yw'r claf yn cydsynio ag atgyfeirio, darparu i'r claf fanylion cyswllt dau, o leiaf, o bobl sy'n fferyllwyr GIG neu'n gontractwyr cyfarpar GIG gyda'r gallu i ddarparu'r cyfarpar neu'r addasiad cyfarpar stoma (yn ôl fel y digwydd), os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r contractwr cyfarpar GIG.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw wybodaeth a roddir neu atgyfeiriad a wneir o dan is-baragraff (1), a rhaid i'r cofnod hwnnw fod mewn ffurf sy'n hwyluso—

(a)cynnal archwiliad o'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y contractwr cyfarpar GIG; a

(b)gofal dilynol i'r person y rhoddwyd yr wybodaeth iddo neu y gwnaed yr atgyfeiriad mewn perthynas ag ef.

Oriau agor: cyffredinol

12.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob mangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni—

(a)am ddim llai na 30 awr bob wythnos;

(b)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 2A i Reoliadau 1992) y caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 awr yr wythnos ar yr amod y darperir y gwasanaethau hynny ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly;

(c)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Ran 3 o Atodlen 1) fod rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 awr yr wythnos ac ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly; neu

(d)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo o dan yr Atodlen hon fod rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 awr bob wythnos—

(i)am y cyfanswm oriau bob wythnos sy'n ofynnol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, a

(ii)o ran yr oriau ychwanegol y gwneir yn ofynnol bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd y mae'n ofynnol bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn ystod yr oriau ychwanegol hynny, fel a bennir yn y cyfarwyddyd hwnnw,

ond caiff Bwrdd Iechyd Lleol, mewn amgylchiadau priodol, gytuno i atal gwasanaethau dros dro am gyfnod penodedig, os yw wedi cael 3 mis o rybudd o'r bwriad i atal y gwasanaeth dros dro.

(2Ym mhob un o'r mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG arddangos hysbysiad sy'n pennu'r diwrnodau a'r amseroedd y bydd y fangre ar agor ar gyfer darparu cyfarpar.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, os gofynnir iddo, gyflwyno datganiad i'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n nodi—

(a)y diwrnodau a'r amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un o'r mangreoedd yr ymrwymodd y contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohonynt (gan gynnwys yr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol pan nad yw'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i wneud hynny yn rhinwedd is-baragraff (1)); a

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae'r contractwr cyfarpar GIG fel arfer yn eu darparu ym mhob un o'r mangreoedd hynny.

(4Os yw contractwr cyfarpar GIG yn newid—

(a)y diwrnodau neu'r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu o fangre yr ymrwymodd y contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae contractwr cyfarpar GIG fel arfer i'w darparu yn y fangre honno,

rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gyflenwi datganiad i'r Bwrdd Iechyd Lleol, i roi gwybod iddo am y newid.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os rhwystrir contractwr cyfarpar GIG, gan salwch neu achos rhesymol arall, rhag cydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan is-baragraff (1), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG, pan fo'n ymarferol, wneud trefniadau gydag un neu ragor o gontractwyr cyfarpar GIG, fferyllwyr GIG neu ddarparwyr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot sydd â'u mangreoedd wedi'u lleoli yn y gymdogaeth, ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol yn ystod y cyfnod hwnnw.

(6Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG wneud trefniant gyda darparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot o dan is-baragraff (5) ac eithrio pan fo'r darparwr hwnnw yn darparu gwasanaethau fferyllol lleol cyffelyb o ran disgrifiad a maint i'r gwasanaethau fferyllol a ddarperir fel arfer gan y contractwr cyfarpar GIG.

(7Pan fo'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan gontractwr cyfarpar GIG wedi ei hatal dros dro am reswm sydd y tu hwnt i reolaeth y contractwr cyfarpar GIG, ni fydd y contractwr cyfarpar GIG wedi torri is-baragraffau (1) a (2), ar yr amod ei fod—

(a)yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'r ataliad hwnnw cyn gynted ag y bo'n ymarferol; a

(b)yn gwneud pob ymdrech resymol i ailddechrau darparu gwasanaethau fferyllol cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

(8Nid yw gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw i ailwampio mangre yn “achos rhesymol” at ddibenion is-baragraff (5) nac yn “rheswm sydd y tu hwnt i reolaeth y contractwr cyfarpar GIG” at ddibenion is-baragraff (7).

(9At y dibenion o gyfrifo'r nifer o oriau y mae mangre ar agor yn ystod wythnos sy'n cynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg neu ŵyl banc, rhaid ystyried bod y fangre ar agor ar y diwrnod hwnnw yn ystod yr amseroedd y byddai wedi bod ar agor fel arfer ar y diwrnod hwnnw o'r wythnos.

(10Yn yr Atodlen hon, yr “oriau ychwanegol” (“additional hours”) pan wneir yn ofynnol bod contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yw'r oriau hynny pan na fyddai'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, pe bai'r contractwr cyfarpar GIG yn ddarostyngedig i'r amod a bennir yn is-baragraff (1)(a) ac nid yr amod a bennir yn is-baragraff (1)(d).

(11Er gwaethaf darpariaethau paragraffau 13 i 16, yn ystod argyfwng pan yw'n ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol mewn ffordd hyblyg, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, os gwneir cais gan gontractwr cyfarpar GIG, ganiatáu i'r contractwr cyfarpar GIG newid dros dro y diwrnodau neu'r amseroedd pan fo'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre yr ymrwymodd i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu ganiatáu cau'r fangre honno dros dro—

(a)os rhoddir 24 awr, o leiaf, o rybudd gan y contractwr cyfarpar GIG o'r newid neu'r cau; a

(b)os yw'r rhesymau a roddir gan y contractwr cyfarpar GIG dros wneud y cais yn rhesymau digonol ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(12Nid oes angen i'r Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyo'r cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (11) ymlaen llaw cyn y newid neu'r cau, ac os nad yw'r Bwrdd yn cymeradwyo ymlaen llaw, ond yn penderfynu yn ddiweddarach nad yw rhesymau'r contractwr cyfarpar GIG, ym marn y Bwrdd, yn rhesymau digonol, yna rhaid i'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre ddychwelyd i'r hyn oeddent cyn eu disodli, o'r diwrnod ar ôl y dyddiad yr hysbysir y contractwr cyfarpar GIG o'r penderfyniad hwnnw.

Materion i'w hystyried wrth ddyroddi cyfarwyddiadau mewn perthynas ag oriau agor

13.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd sy'n pennu unrhyw ddiwrnodau neu amseroedd o dan yr Atodlen hon, rhaid iddo, wrth wneud hynny, geisio sicrhau bod yr oriau pan fydd mangre ar agor i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhai sy'n sicrhau y darperir y gwasanaethau fferyllol ar y cyfryw ddiwrnodau ac amseroedd sy'n angenrheidiol er mwyn bodloni anghenion pobl y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol.

(2Wrth ystyried y materion a grybwyllir yn is-baragraff (1)—

(a)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol drin unrhyw wasanaethau fferyllol lleol a ddarperir yn y gymdogaeth honno ar y diwrnodau ac amseroedd dan sylw fel pe baent yn wasanaethau fferyllol a ddarperid felly; a

(b)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i unrhyw wasanaethau fferyllol a ddarperir yn y gymdogaeth honno mewn amgylchiadau pan nad oes rhwymedigaeth ar y person sy'n eu darparu i ddarparu'r gwasanaethau hynny.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi cyfarwyddyd y caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni fodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol fod y trefniadau ar gyfer cyflenwi cyfarpar yn y gymdogaeth yn debygol o fod yn ddigonol i ddiwallu'r angen am wasanaethau o'r fath ar yr adegau pan na fydd y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi cyfarwyddyd bod rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni fodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol y bydd y contractwr cyfarpar GIG yn cael cydnabyddiaeth ariannol resymol am yr oriau ychwanegol y gofynnir iddo ddarparu gwasanaethau fferyllol (a bydd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol sy'n daladwy o dan y Tariff Cyffuriau mewn perthynas â'r oriau hynny yn “gydnabyddiaeth ariannol resymol” at y dibenion hyn).

Penderfyniad ynghylch oriau agor a ysgogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol

14.—(1Os yw'n ymddangos i'r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol neu ar ôl ystyried y mater ar gais y Pwyllgor hwnnw, nad yw, neu na fydd, y diwrnodau neu'r amseroedd pan fo, neu pan fydd mangre ar agor i ddarparu cyfarpar bellach yn bodloni anghenion—

(a)y bobl yn y gymdogaeth; neu

(b)defnyddwyr tebygol eraill mangre'r contractwr cyfarpar GIG,

ar gyfer cyflenwi cyfarpar, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol asesu a ddylid dyroddi cyfarwyddyd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre ar amseroedd penodedig ac ar ddiwrnodau penodedig (gan gynnwys, o bosibl, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a gwyliau banc).

(2Cyn cwblhau'r asesiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad i'r contractwr cyfarpar GIG o unrhyw newidiadau arfaethedig yn y diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r fangre i fod ar agor; a

(b)caniatáu cyfnod o 60 diwrnod i'r contractwr cyfarpar GIG ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig.

(3Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir yn unol ag is-baragraff (2)(b), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) sy'n bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5); neu

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddai'r cyfarwyddyd presennol, boed wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 2A i Reoliadau 1992, yn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5) pe bai wedi ei ddyroddi o dan y paragraff hwn; neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, boed wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 2A i Reoliadau 1992, neu

(ii)mewn achos pan nad oes cyfarwyddyd presennol, peidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos o'r fath, yn rhinwedd paragraff 12(1)(a), rhaid i'r fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3), mewn perthynas â mangre y mae'n ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â'r oriau ychwanegol y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y bydd yn ofynnol i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, beidio â phennu ar ba ddiwrnodau nac ar ba amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol; neu

(b)am lai na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu yn y fangre honno.

(5Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol bod mangre ar agor am 30 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodedig ac ar amseroedd penodedig (hynny yw, rhaid i'r cyfarwyddyd gael yr effaith o wneud yn ofynnol bod y fangre ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 awr bob wythnos).

(6Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG, mewn ysgrifen, o unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam arall a gymerir, o dan is-baragraff (3), ac os yw'r cyfarwyddyd yn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad o'r canlynol—

(a)y rhesymau am y newid; a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (7).

(7Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 diwrnod ar ôl cael hysbysiad o dan is-baragraff (6), apelio mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddwyd neu unrhyw gam arall a gymerwyd o dan is-baragraff (3), sy'n pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai gadarnhau'r cam a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (3).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG o'u penderfyniad o dan is-baragraff (8) a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

(10Os yw'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol â'r paragraff hwn, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gyflwyno'r newidiadau—

(a)os nad yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (6); neu

(b)os yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (9).

Penderfyniad ynghylch oriau agor a ysgogir gan y contractwr cyfarpar GIG

15.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol mewn ysgrifen, gan roi 90 diwrnod o rybudd, am i'r Bwrdd newid y diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ei fangre, mewn ffordd sy'n—

(a)lleihau cyfanswm nifer yr oriau y mae'r contractwr cyfarpar GIG dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos; neu

(b)yn cadw cyfanswm nifer yr oriau hynny yn ddigyfnewid.

(2Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG, yn rhan o'r cais hwnnw, ddarparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch unrhyw newidiadau yn anghenion pobl y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol sy'n berthnasol i'r cais.

(3Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 diwrnod ar ôl cael y cais (gan gynnwys unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan y ceisydd yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynu'r cais, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) sy'n bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáu'r cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig;

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddai'r cyfarwyddyd presennol, boed wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Reoliadau 1992, yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6); neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn perthynas â pha ddiwrnodau ac amseroedd y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, boed y cyfarwyddyd wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Reoliadau 1992, pan fo hyn yn cael yr effaith naill ai o ganiatáu'r cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan nad oes cyfarwyddyd presennol, peidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos o'r fath, yn rhinwedd paragraff 12(1)(a), rhaid i'r fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4), mewn perthynas â mangre y mae'n ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae'n rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â'r oriau ychwanegol y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y mae'n ofynnol i'r contractwr cyfarpar GIG ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, beidio â phennu ar ba ddiwrnodau ac ar ba amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol; neu

(b)am lai na 30 awr bob wythnos, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yn y cyfarwyddyd hwnnw, bennu ar ba ddiwrnodau ac amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol i'w darparu yn y fangre honno.

(6Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol bod mangre ar agor am 30 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodedig ac ar amseroedd penodedig (hynny yw, rhaid i'r cyfarwyddyd gael yr effaith o wneud yn ofynnol bod y fangre ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 awr bob wythnos).

(7Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu (c)(i), rhaid iddo ymgynghori â'r Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynu'r cais.

(8Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG o unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), ac os effaith hynny yw gwrthod cais a wnaed o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu yn rhannol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon datganiad at y contractwr cyfarpar GIG, sy'n nodi—

(a)y rhesymau am y gwrthodiad neu, yn ôl fel y digwydd, am ganiatáu y cais yn rhannol yn unig; a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 diwrnod ar ôl cael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw weithred o dan is-baragraff (4) sy'n cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu yn rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai gadarnhau'r cam a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r contractwr cyfarpar GIG o'u penderfyniad mewn ysgrifen a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gyda'r hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os yw'r diwrnodau neu'r amseroedd y mae'r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol â'r paragraff hwn, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG gyflwyno'r newidiadau—

(a)os nad yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach nag 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (4); neu

(b)os yw'r contractwr cyfarpar GIG wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach nag 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Llywodraethu clinigol

16.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, mewn cysylltiad â'r holl wasanaethau a ddarperir ganddo, gyfranogi mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd y gofynnir iddo yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol.

(2Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os yw'n darparu ar gyfer—

(a)cydymffurfiaeth â'r cydrannau llywodraethu clinigol a bennir yn is-baragraff (3), a

(b)cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw.

(3Y cydrannau llywodraethu clinigol yw'r canlynol—

(a)rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion a'r cyhoedd, sy'n cynnwys—

(i)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn paratoi, mewn ffordd gymeradwy, ac yn rhoi ar gael, mewn ffordd briodol, taflen ymarfer mewn perthynas â phob mangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol ohoni,

(ii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn, neu o'r, fangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni,

(iii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG, wrth roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau GIG sydd ar gael yn, neu o'r, fangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni (pa un a yw'r contractwr cyfarpar GIG yn paratoi ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteu'n hysbysebu'r gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n dangos yn eglur mai fel rhan o'r gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau,

(iv)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cynnal arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, gan wneud hynny mewn ffordd a gymeradwyir, a chan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadau'r arolwg ac i unrhyw gamau priodol y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu eu cymryd,

(v)trefniadau ar gyfer monitro cyfarpar sy'n ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

(vi)system gwynion gymeradwy (sy'n bodloni gofynion y Rhan hon),

(vii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithredu'n briodol gydag ymweliadau'r Cyngor Iechyd Cymuned lleol ac yn cymryd camau priodol o ganlyniad i ymweliadau o'r fath,

(viii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithredu'n briodol gydag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno'i gynnal, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010(2);

(b)rhaglen o archwiliadau clinigol (pum diwrnod, fel arfer), sy'n cynnwys o leiaf un archwiliad mewn mangre ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol;

(c)rhaglen rheoli risg, sy'n cynnwys—

(i)trefniadau i sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drafod mewn ffordd briodol,

(ii)trefniadau i sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

(iii)system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi ac ymateb i ddigwyddiadau critigol, sy'n cynnwys y canlynol—

(aa)cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

(bb)cofnod o ddigwyddiadau 'croen dannedd',

(iv)trefniadau, sy'n cynnwys trefniadau cadw cofnodion, i ymdrin yn briodol ac yn brydlon â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(v)trefniadau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys trefniadau gweithredu safonol mewn perthynas â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

(vi)trefniadau gwaredu priodol ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

(vii)arweinydd llywodraethu clinigol ar gyfer pob mangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni, sy'n wybodus ynglŷn â'r naill a'r llall o weithdrefnau'r contractwr cyfarpar GIG a'r gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn yr ardal,

(viii)gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 1974(3);

(d)rhaglen effeithiolrwydd clinigol, sy'n cynnwys trefniadau i sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y contractwr cyfarpar GIG—

(i)mewn perthynas â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

(ii)i bobl sy'n gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau i sicrhau bod y contractwr cyfarpar GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(i), yn rhoi sylw i'r manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 9(1)(f) mewn perthynas â'r ddarpariaeth o gyfarpar a'r patrwm presgripsiynu ar gyfer y claf dan sylw;

(e)rhaglen staffio a rheoli staff, sy'n cynnwys—

(i)trefniadau i ddarparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i aelodau o'r staff gan gynnwys unrhyw locwm,

(ii)hyfforddiant priodol i'r holl staff ar gyfer pa bynnag rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

(iii)trefniadau i wirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

(iv)trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu pob aelod o'r staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau yn rhan o'r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu sydd ei angen mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

(v)trefniadau ar gyfer mynd i'r afael â pherfformiad gwael (ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd Lleol fel y bo'n briodol), a

(vi)trefniadau (y mae'n rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) i sicrhau bod yr holl staff gan gynnwys unrhyw locwm sydd, o ganlyniad i'w cyflogaeth gyda'r contractwr cyfarpar GIG—

(aa)yn gwneud yr hyn sy'n ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(4) (ystyr datgeliad gwarchodedig), yn cael yr hawliau a roddir mewn perthynas â datgeliadau o'r fath gan y Ddeddf honno, a

(bb)yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol, i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol, sy'n cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd er nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad i'r weithred honno;

(f)rhaglen lywodraethu gwybodaeth, sy'n darparu ar gyfer—

(i)cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

(ii)cyflwyno hunanasesiad blynyddol o'r gydymffurfiaeth (hyd at lefel gymeradwy) â'r gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy sy'n caniatáu i'r Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad i'r asesiad hwnnw; ac

(g)rhaglen safonau mangre sy'n cynnwys—

(i)system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fangre y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau ohoni, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau lleihau, mewn ffordd gymesur, y risg i bobl yn y fangre o'u heintio drwy gael gofal iechyd, a

(ii)trefniadau ar gyfer gwahanu'n eglur rhwng y mannau hynny yn y fangre sy'n amgylchedd gofal iechyd priodol (lle mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) a'r mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.

Safonau proffesiynol

17.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac arfer unrhyw farn broffesiynol mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny, mewn cydymffurfiaeth â'r safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y proffesiwn fferyllol.

Cymhellion

18.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ac unrhyw berson a gyflogir, neu a gymerwyd ymlaen, gan gontractwr cyfarpar GIG, beidio â rhoi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elw'r busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu rywfodd arall) fel cymhelliad neu gydnabyddiaeth i'r person arall gyflwyno archeb am gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu gwasanaeth danfon gartref yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG, nac unrhyw berson a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan gontractwr cyfarpar GIG, dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn perthynas, yn unig, ag—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG amgen yn unol â pharagraff 9(2)(b), 10(4) neu 11(1)(b); neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG neu fferyllydd GIG arall yn unol â pharagraff 9(2)(a) neu 11(1)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad â'r eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer wrth i'r materion godi

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 20, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ac os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforaethol, pob cyfarwyddwr y corff corfforaethol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol mewn ysgrifen, o fewn 7 diwrnod ar ôl y digwyddiad, os yw'r contractwr cyfarpar GIG neu gyfarwyddwr—

(a)yn cael ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn cael ei rwymo yn dilyn collfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig;

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig;

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn perthynas â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn i'w ryddhau'n ddiamod (heb fynd ymlaen i'w gollfarnu);

(e)wedi derbyn a chytuno i dalu naill ai dirwy procuradur ffisgal o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(5) (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur ffisgal) neu gosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(6) (cosb fel dewis arall yn lle erlyn);

(f)yn cael ei gollfarnu mewn man arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(g)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo mewn man arall o drosedd a fyddai wedi bod yn drosedd, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(h)yn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, a bod canfyddiad yn ei erbyn;

(i)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(j)yn mynd yn destun ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neu'n cael ei hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath ac unrhyw ganfyddiad yn ei erbyn;

(k)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll;

(l)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at dynnu ymaith o restr berthnasol; neu

(m)ar sail ei addasrwydd i ymarfer, yn cael ei dynnu ymaith, ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr o'r fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr o'r fath,

ac os felly, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi manylion am unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd i'w gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd neu y cynhelir yr ymchwiliad hwnnw neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 20, os yw person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, neu os oedd yn gyfarwyddwr corff corfforaethol ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, rhaid iddo, yn ychwanegol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 diwrnod os yw unrhyw gorff corfforaethol o'r fath—

(a)yn cael ei gollfarnu am unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn cael ei gollfarnu mewn man arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(c)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo mewn man arall o drosedd a fyddai wedi bod yn drosedd, pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(d)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod canfyddiad yn erbyn y corff corfforaethol;

(e)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall;

(f)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas â thwyll neu wedi ei hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath, a'r canlyniad hwnnw yn ei erbyn;

(g)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at dynnu ymaith y corff corfforaethol o restr berthnasol; neu

(h)ar sail ei addasrwydd i ymarfer, wedi ei dynnu ymaith, ei dynnu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodwyd mynediad iddo i restr o'r fath, neu os yw wedi ei gynnwys yn amodol mewn rhestr o'r fath,

ac os felly, rhaid i'r person hwnnw roi enw'r corff corfforaethol a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig a manylion am unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd i'w gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd neu y cynhelir yr ymchwiliad hwnnw neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i berson y mae is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo gydsynio i'r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i unrhyw gyflogwr neu gyngyflogwr neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw le arall, am wybodaeth ynghylch ymchwiliad cyfredol neu ymchwiliad â chanlyniad anffafriol.

Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforaethol

20.  Os yw contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforaethol sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caiff ddarparu'r wybodaeth, sydd i'w darparu o dan baragraffau 19 a 23(3) i (6), yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel y'i diffinnir yn rheoliad 46). Pan fo'r contractwr cyfarpar GIG yn darparu'r wybodaeth i'w Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo ddarparu, i'r Bwrdd Iechyd Lleol cartref, fanylion hefyd o'r holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn eu rhestrau fferyllol.

Cwynion

21.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG fod wedi sefydlu trefniadau sy'n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011, ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch mater sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol gan y contractwr cyfarpar GIG.

Gwasanaethau cyfeiriedig

22.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniant gydag ef ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig, gydymffurfio â thelerau ac amodau'r trefniant hwnnw.

Gwybodaeth sydd i'w chyflenwi

23.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi i'r Bwrdd Iechyd Lleol sydd â'r contractwr cyfarpar GIG hwnnw ar ei restr fferyllol hysbysiad ysgrifenedig o'r canlynol, o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn)—

(a)unrhyw ddigwyddiad sy'n ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd am y contractwr cyfarpar GIG yn y rhestr fferyllol, nad oedd y contractwr cyfarpar GIG wedi hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol ohono rywfodd arall yn unol â'r Rheoliadau hyn;

(b)yn achos contractwr cyfarpar GIG sy'n unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat; ac

(c)yn achos contractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, os gofynnir iddo, roi i'r Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd cofrestredig a gyflogir ganddo sy'n gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau ei gyfarwyddwyr.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw contractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y contractwr cyfarpar GIG am ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 diwrnod (neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn) o'r wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd contractwr cyfarpar GIG sy'n gorff corfforaethol, hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)os yw'r unigolyn hwnnw, neu'r corff corfforaethol y mae'n gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd ohono, yn gwneud cais am gael ei gynnwys mewn unrhyw un o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, ac o ganlyniad unrhyw gais o'r fath; a

(b)os daw'r unigolyn hwnnw yn gyfarwyddwr neu'n uwcharolygydd corff corfforaethol sydd ar unrhyw un o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu sy'n gwneud cais am ei gynnwys mewn rhestr o'r fath, ac o ganlyniad unrhyw gais o'r fath.

(6Os yw'r contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforaethol sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru, caiff ddarparu'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, yn unig, y lleolir y swyddfa gofrestredig yn ei ardal, ar yr amod bod y contractwr cyfarpar GIG yn darparu i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion hefyd o'r holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn eu rhestrau fferyllol, ac mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddo'r wybodaeth ymlaen i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—

(a)y cynhwysir y contractwr cyfarpar GIG yn ei restr fferyllol; neu

(b)y gwneir cais iddo gan y contractwr cyfarpar GIG am gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol, ac sy'n gofyn am yr wybodaeth.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” (“NHS performers or providers list”) yw—

(a)rhestr fferyllol; neu

(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol, deintyddol neu offthalmig.

Tynnu enwau yn ôl o restrau fferyllol

24.  Os yw contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu tynnu ei enw yn ôl o'r rhestr fferyllol mewn perthynas â mangre benodol, rhaid iddo hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol o'i fwriad, dri mis o leiaf cyn y dyddiad hwnnw, onid yw'n anymarferol i'r contractwr cyfarpar GIG wneud hynny, ac os felly, rhaid i'r contractwr cyfarpar GIG hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny.

Codi ffioedd am gyfarpar

25.  Yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 121 o Ddeddf 2006, rhaid darparu'r holl gyfarpar a ddarperir o dan y telerau gwasanaethu hyn yn ddi-dâl.

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

26.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ganiatáu i bersonau, a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i mewn i unrhyw fangre a ddefnyddir gan y contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol ac i'w harchwilio, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion canlynol—

(a)canfod a yw'r contractwr cyfarpar GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y contractwr cyfarpar GIG wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, o ran gofal a thriniaeth i gleifion gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir gyda pherson ynglŷn â darparu cyfarpar, a

(ii)y modd y mae'r contractwr cyfarpar GIG yn rheoli'r gwasanaethau fferyllol a ddarperir ganddo,

pan fo'r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw'r canlynol—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi o'r bwriad i fynd i mewn;

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, os gofynnodd y contractwr cyfarpar GIG am hynny;

(c)bod gan y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen dystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdodiad yn ei feddiant, a bod y person hwnnw'n dangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo; a

(d)na fydd y person a awdurdodwyd mewn ysgrifen yn mynd i mewn i unrhyw ran o'r fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig, heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen fel a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu i'r Bwrdd neu'r person hwnnw gael mynediad at unrhyw wybodaeth y gofynnant amdani yn rhesymol—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1); neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad â'i swyddogaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

(4)

1996 p.18; mewnosodwyd adran 43A gan adran 1 o Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (p.23) . Gweler hefyd adran 43K(1)(c) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 sy'n ehangu ystyr “worker” ar gyfer y Rhan o'r Ddeddf honno sy'n ymdrin â datgeliadau gwarchodedig, er mwyn iddo gynnwys pob unigolyn sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn unol â threfniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 80 o Ddeddf 2006.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill