- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
25.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y cyfalaf y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth yn achos ceisydd(1) yw’r cyfan o gyfalaf y ceisydd, fel y’i cyfrifir yn unol â’r Rhan hon.
(2) Wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd o dan is-baragraff (1), rhaid diystyru, pan fo’n gymwys, unrhyw gyfalaf a bennir yn Atodlen 5 (symiau cyfalaf a ddiystyrir), mewn perthynas â phensiynwyr.
(3) Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr, rhaid trin cyfalaf y ceisydd drwy gynnwys unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd ar gyfer ôl-ddyledion o’r canlynol—
(a)credyd treth plant;
(b)credyd treth gwaith;
(c)credyd pensiwn y wladwriaeth,
os gwnaed y taliad mewn perthynas â chyfnod y caniatawyd gostyngiad o dan gynllun awdurdod ar gyfer y cyfan neu ran ohono cyn talu’r ôl-ddyledion hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
26. Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan geisydd yn y Deyrnas Unedig yn ôl ei werth presennol ar y farchnad neu ei werth ildio, llai—
(a)10 y cant, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, a
(b)swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
27. Rhaid cyfrifo cyfalaf a feddir gan geisydd mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—
(a)mewn achos pan nad oes gwaharddiad yn y wlad honno ar drosglwyddo i’r Deyrnas Unedig swm sy’n hafal i werth presennol y cyfalaf ar y farchnad, neu ei werth ildio yn y wlad honno, yn ôl y gwerth hwnnw;
(b)mewn achos pan fo gwaharddiad o’r fath yn bodoli, yn ôl y pris y byddai’r cyfalaf yn ei gyrraedd pe gwerthid i brynwr parod yn y Deyrnas Unedig,
llai, os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, 10 y cant, a swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
28.—(1) Rhaid trin ceisydd fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono at y diben o sicrhau hawlogaeth i ostyngiad neu gynyddu swm y gostyngiad hwnnw, ac eithrio i’r graddau y lleiheir y cyfalaf hwnnw yn unol â pharagraff 29 (rheol lleihau cyfalaf tybiannol).
(2) Yn achos ceisydd sy’n bensiynwr ac yn gwaredu cyfalaf at y diben—
(a)o leihau neu dalu dyled sydd arno; neu
(b)o brynu nwyddau neu wasanaethau pan fo’r gwariant arnynt yn rhesymol yn amgylchiadau’r ceisydd,
rhaid ystyried nad yw’n amddifadu ei hunan o’r cyfalaf hwnnw.
(3) Os yw ceisydd, mewn perthynas â chwmni, mewn safle cyfatebol i safle unig berchennog neu bartner ym musnes y cwmni hwnnw, caniateir trin y ceisydd fel pe bai’n unig berchennog neu’n bartner o’r fath, ac mewn achos o’r fath—
(a)er gwaethaf paragraff 25 (cyfrifo cyfalaf) rhaid diystyru gwerth daliad y ceisydd yn y cwmni hwnnw; a
(b)rhaid trin y ceisydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), fel pe bai’n meddu swm o gyfalaf sy’n hafal i werth, neu, yn ôl fel y digwydd, cyfran y ceisydd o werth, cyfalaf y cwmni hwnnw ac y mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo’r swm hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddid gan y ceisydd.
(4) Am gyhyd ag y bo’r ceisydd yn ymgymryd â gweithgareddau yng nghwrs busnes y cwmni, rhaid diystyru’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu o dan is-baragraff (3).
(5) Pan drinnir ceisydd fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan is-baragraff (1), mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm y cyfalaf hwnnw, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
29.—(1) Pan drinnir ceisydd sy’n bensiynwr fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff 28(1) (cyfalaf tybiannol), rhaid lleihau’r swm y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu—
(a)yn achos wythnos sy’n dilyn—
(i)yr wythnos berthnasol y bodlonir mewn perthynas â hi yr amodau a bennir yn is-baragraff (2); neu
(ii)wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol honno ac yn bodloni’r amodau hynny,
o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (3);
(b)yn achos wythnos nad yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddi, ond pan fo—
(i)yr wythnos honno’n wythnos sy’n dilyn yr wythnos berthnasol; a
(ii)yr wythnos berthnasol honno’n wythnos y bodlonir ynddi’r amod yn is-baragraff (4),
o swm sydd i’w benderfynu o dan is-baragraff (5).
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i wythnos ostyngiad pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amodau canlynol—
(a)bod y ceisydd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod; a
(b)oni bai am baragraff 28(1), byddai’r ceisydd wedi cael gostyngiad mwy yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod yn yr wythnos honno.
(3) Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(a) fod yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—
(a)swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o ostyngiad yn y dreth gyngor, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);
(b)os yw’r ceisydd wedi hawlio credyd pensiwn y wladwriaeth yn ogystal, swm unrhyw gredyd pensiwn y wladwriaeth neu unrhyw swm ychwanegol o gredyd pensiwn y wladwriaeth y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 21(1) o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(2) (cyfalaf tybiannol);
(c)os yw’r ceisydd wedi hawlio budd-dal tai yn ogystal, swm unrhyw fudd-dal tai neu unrhyw swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(3) (cyfalaf tybiannol);
(d)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith yn ogystal, swm unrhyw lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(4) (cyfalaf tybiannol); ac
(e)os yw’r ceisydd wedi hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth yn ogystal, swm unrhyw lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm y byddai’r ceisydd wedi bod â hawl i’w gael mewn perthynas â’r wythnos ostyngiad y cyfeirir ati yn is-baragraff (2) pe na fyddid wedi cymhwyso rheoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(5) (cyfalaf tybiannol).
(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), at ddibenion is-baragraff (1)(b) yr amod yw fod y ceisydd yn bensiynwr ac y byddai hawl ganddo i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 28(1).
(5) Mewn achos o’r fath, mae swm y gostyngiad yn swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu at ddibenion is-baragraff (1)(b) yn hafal i swm cyfanredol y canlynol—
(a)swm y gostyngiad mewn treth gyngor y byddai hawl gan y ceisydd i’w gael yn yr wythnos berthnasol oni bai am baragraff 28(1);
(b)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 21 o Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002, i gael credyd pensiwn y wladwriaeth mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;
(c)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 47(1) o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006, i gael budd-dal tai neu swm ychwanegol o fudd-dal tai mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm sy’n hafal i—
(i)mewn achos pan nad oes budd-dal tai yn daladwy, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; neu
(ii)mewn unrhyw achos arall, y swm sy’n hafal i’r swm ychwanegol o fudd-dal tai y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael;
(d)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 113 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996, i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 1(3) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael; ac
(e)os byddai hawl wedi bod gan y ceisydd, oni bai am reoliad 115 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm mewn perthynas â’r wythnos fudd-dal, o fewn yr ystyr a roddir i “benefit week” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny (dehongli), sy’n cynnwys diwrnod olaf yr wythnos berthnasol, y swm y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i’w gael.
(6) Ond os yw’r swm a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), (c), (d) neu (e) o is-baragraff (5) (“y swm perthnasol”) mewn perthynas â rhan-wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan y paragraff hwnnw drwy—
(a)rhannu’r swm perthnasol gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y rhan-wythnos honno, a
(b)lluosi canlyniad y cyfrifiad hwnnw gyda 7.
(7) Rhaid ailbenderfynu’r swm a benderfynwyd o dan is-baragraff (5), o dan yr is-baragraff hwnnw, os yw’r ceisydd yn gwneud cais pellach am ostyngiad yn y dreth gyngor a’r amodau yn is-baragraff (8) wedi eu bodloni, ac mewn achos o’r fath—
(a)mae paragraffau (a) i (e) o is-baragraff (5) yn gymwys fel pe rhoddid y geiriau “wythnos ddilynol berthnasol” yn lle’r geiriau “wythnos berthnasol”; a
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), mae’r swm fel y’i hailbenderfynwyd yn cael effaith o’r wythnos gyntaf sy’n dilyn yr wythnos ddilynol berthnasol sydd dan sylw.
(8) Yr amodau yw—
(a)y gwneir cais pellach 26 neu ragor o wythnosau ar ôl—
(i)y dyddiad y gwnaeth y ceisydd y cais am ostyngiad yn y dreth gyngor y triniwyd y ceisydd gyntaf mewn perthynas ag ef, fel pe bai’n meddu’r cyfalaf dan sylw o dan baragraff 28(1);
(ii)mewn achos pan wnaed o leiaf un ailbenderfyniad yn unol ag is-baragraff (7), y dyddiad y gwnaeth y ceisydd gais ddiwethaf am ostyngiad yn y dreth gyngor a arweiniodd at ailbenderfynu’r swm wythnosol, neu
(iii)y dyddiad y peidiodd ddiwethaf hawl y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun yr awdurdod,
pa un bynnag ddigwyddodd ddiwethaf; a
(b)y byddai hawl wedi bod gan y ceisydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor o dan gynllun awdurdod, oni bai am baragraff 28(1).
(9) Rhaid i’r swm a ailbenderfynir yn unol ag is-baragraff (7) beidio â chael effaith os yw’n llai na’r swm a oedd yn gymwys yn yr achos hwnnw yn union cyn ailbenderfynu ac mewn achos o’r fath rhaid i’r swm uchaf barhau i gael effaith.
(10) At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “rhan-wythnos” (“part-week”) yw—
mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(a), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y caniateir gostyngiad yn y dreth gyngor ar ei gyfer o dan gynllun awdurdod;
mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(b), yw cyfnod sy’n llai nag wythnos ac y mae budd-dal tai yn daladwy ar ei gyfer;
mewn perthynas â swm a grybwyllir yn is-baragraff (5)(c), (d) neu (e) yw—
cyfnod o lai nag wythnos, sydd y cyfan o’r cyfnod y mae cymhorthdal incwm, neu, yn ôl fel y digwydd, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, yn daladwy ar ei gyfer; a
unrhyw gyfnod arall o lai nag wythnos y mae’n daladwy ar ei gyfer;
ystyr “wythnos berthnasol” (“relevant week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos pan gymerwyd i ystyriaeth y cyfalaf dan sylw, yr amddifadodd y ceisydd ei hunan ohono o fewn ystyr paragraff 28(1)—
am y tro cyntaf, at y diben o benderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad o dan gynllun awdurdod; neu
ar achlysur dilynol at y diben o benderfynu neu ailbenderfynu hawlogaeth y ceisydd i ostyngiad ar yr achlysur dilynol hwnnw, a phan barodd y penderfyniad neu’r ailbenderfyniad hwnnw fod y ceisydd naill ai’n dechrau cael neu’n peidio â chael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;
ac os pennir mwy nag un wythnos ostyngiad drwy gyfeirio at baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad hwn, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw wythnosau gostyngiad neu, yn ôl fel y digwydd, y ddiweddaraf neu’r ddiweddarach o’r cyfryw ran-wythnosau, yw’r wythnos berthnasol;
ystyr “wythnos ddilynol berthnasol” (“relevant subsequent week”) yw’r wythnos ostyngiad neu’r rhan-wythnos sy’n cynnwys y diwrnod pan wnaed y cais pellach, neu, os gwnaed mwy nag un cais pellach, pan wnaed y cais olaf o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
30. Ac eithrio pan fo ceisydd yn meddu cyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 28(3) (cyfalaf tybiannol), os oes gan y ceisydd, ac un neu ragor o bersonau eraill, hawl fuddiannol mewn meddiant unrhyw ased cyfalaf, rhaid eu trin, yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb, fel pe bai gan bob un ohonynt, mewn cyfrannau cyfartal, hawl mewn meddiant o’r holl fuddiant llesiannol yn yr ased, ac mae darpariaethau blaenorol y Bennod hon yn gymwys at y diben o gyfrifo swm y cyfalaf y trinnir y ceisydd fel pe bai’n ei feddu, fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
31. Rhaid trin cyfalaf ceisydd sy’n bensiynwr, a gyfrifwyd yn unol â’r Atodlen hon, fel pe bai’n incwm wythnosol o—
(a)£1 am bob £500 uwchlaw £10,000 ond nid uwchlaw £16,000; a
(b)£1 am unrhyw swm dros ben nad yw’n £500 cyflawn.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
Y terfyn cyfalaf yw £16,000, gweler paragraff 31.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys