Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 32(9) (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau yng Nghymru), adran 33(4) (cyfrifo swm sylfaenol treth gan awdurdodau yng Nghymru), adran 43(7) (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau yng Nghymru) ac adran 44(4) (cyfrifo swm sylfaenol treth gan awdurdodau yng Nghymru) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”). Mae'r adrannau hyn yn nodi sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio yng Nghymru i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol a sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio yng Nghymru i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae'r diwygiadau'n effeithiol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 i hepgor gwariant sydd i'w godi ar Gyfrif Refeniw ardal gwella busnes (“AGB”) o'r gwariant y mae'n rhaid i awdurdod bilio ei agregu o dan adran 32(2). Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio adran 32(3) i hepgor ardoll AGB neu gyfraniadau ariannol a wneir gan berson o dan adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a symiau sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor awdurdod o'r incwm y mae'n rhaid i'r awdurdod ei agregu o dan adran 32(3).

Mae rheoliad 2 yn diwygio adran 32(2) ymhellach fel ei bod yn bendant yn ofynnol i awdurdod gymryd i ystyriaeth unrhyw wariant y mae'n disgwyl ei ysgwyddo yn y flwyddyn wrth ad-dalu grantiau neu ardrethi annomestig wedi eu hailddosbarthu (“AAH”). Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio adran 32(3) fel ei bod yn bendant yn ofynnol i awdurdod gymryd i ystyriaeth daliadau AAH a grantiau y mae'n disgwyl eu cael am flwyddyn ariannol gynharach.

Mae rheoliadau 2 a 3 yn disodli cyfeiriadau at “relevant special grant” â chyfeiriadau at “special grant” yn adran 32(3)(a) ac yn y diffiniad o P yn adran 33(1). Mae rheoliad 3 hefyd yn mewnosod yn y diffiniad o P yn adran 33(1) gyfeiriad at symiau sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor awdurdod.

Mae rheoliad 2(6) yn amnewid adran 32(12) sy'n esbonio ystyron symiau sy'n daladwy mewn perthynas ag AAH a grant cynnal refeniw (“GCR”) yn adrannau 32 a 33. Diben hyn yw sicrhau bod symiau o AAH a GCR sydd wedi eu hepgor o gyfrifiadau anghenion cyllideb yn yr adrannau hynny yn ymwneud â'r symiau hynny sy'n daladwy o dan y priod Adroddiadau Llywodraeth Leol am flwyddyn benodol yn unig. Mae'r is-adran (12) a amnewidiwyd hefyd yn esbonio ystyron ardoll AGB a Chyfrif Refeniw AGB yn adran 32 ac ystyron grant ychwanegol, grant arbennig a symiau sy'n daladwy mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor awdurdod yn adrannau 32 a 33.

Mae rheoliad 4(2) yn diwygio adran 43(2) fel ei bod yn bendant yn ofynnol i brif awdurdod praeseptio gymryd i ystyriaeth unrhyw wariant y mae'n disgwyl ei ysgwyddo yn y flwyddyn wrth ad-dalu grantiau neu AAH. Yn yr un modd, mae rheoliad 4(4) yn diwygio adran 43(3) fel ei bod yn bendant yn ofynnol i awdurdod gymryd i ystyriaeth daliadau AAH a grantiau y mae'n disgwyl eu cael am flwyddyn ariannol gynharach.

Mae rheoliadau 4(3) a 5 yn disodli cyfeiriadau at “relevant special grant” â chyfeiriadau at “special grant” yn adran 43(3)(a)(i) ac yn y diffiniad o P yn adran 44(1).

Mae rheoliadau 4(3) a 5 yn diwygio adrannau 43(3)(a)(i) a 44(1) ymhellach fel bod rhaid i brif awdurdodau praeseptio gymryd i ystyriaeth unrhyw arian gwaelodol a gafwyd oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am flwyddyn ariannol wrth wneud y cyfrifiad angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn honno.

Mae rheoliad 4(5) yn mewnosod is-adran (6C) yn adran 43 i ddarparu diffiniad o “floor funding” at ddibenion adrannau 43 a 44 a hefyd i ddarparu bod y diffiniadau o AAH, GCR, grant ychwanegol, grant arbennig ac arian gwaelodol yn adran 32(12A) hefyd yn gymwys i adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill