- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo—
(i)Gweinidogion Cymru wedi cael eu hysbysu o dan reoliad 5(1) fod amheuaeth fod ceffyl neu garcas mewn lladd-dy wedi ei heintio â feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau, a
(ii)arolygydd milfeddygol yn barnu bod angen ymchwilio rhagor i’r posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol; neu
(b)pan fo arolygydd milfeddygol, am unrhyw reswm arall, yn barnu bod angen ymchwilio rhagor i’r posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn lladd-dy.
(2) Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i arolygydd milfeddygol roi gwybod (ar lafar neu fel arall) i’r person a roddodd yr hysbysiad fod angen ymchwilio rhagor, ac yna bydd y rheolaethau sydd ym mharagraff (5) yn gymwys.
(3) Rhaid i arolygydd milfeddygol fynd i’r lladd-dy ac archwilio’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig, a chaiff archwilio unrhyw geffyl neu garcas arall yno y mae’r arolygydd milfeddygol yn barnu sy’n briodol.
(4) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy, osod y rheolaethau sydd ym mharagraff (5).
(5) Dyma’r rheolaethau, sef bod yn rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy sicrhau—
(a)nad oes yr un ceffyl na charcas yn cael ei symud o’r lladd-dy,
(b)nad yw unrhyw geffyl hysbysedig ac unrhyw geffyl arall o’r un fangre â’r ceffyl hysbysedig yn cael ei gigydda, oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, ac
(c)os yw unrhyw geffyl hysbysedig neu unrhyw geffyl o’r un fangre â cheffyl hysbysedig eisoes wedi cael ei gigydda, neu’n cael ei gigydda wedi hynny, neu wedi marw, fod ei garcas yn cael ei nodi’n benodol a’i gadw yn y lladd-dy hyd oni fydd arolygydd milfeddygol wedi ei archwilio ac wedi cymryd samplau os yw’n barnu bod angen hynny.
15.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol wedi gweithredu o dan reoliad 14(3).
(2) Os yw arolygydd milfeddygol wedi ei fodloni nad oes feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bodoli mewn unrhyw geffyl neu garcas yn y lladd-dy, rhaid i arolygydd milfeddygol gadarnhau hyn (ar lafar neu fel arall) i’r person sydd â chyfrifoldeb am y lladd-dy.
(3) Os na ellir diystyru presenoldeb feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau, caiff arolygydd milfeddygol—
(a)drwy gyflwyno hysbysiad i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy, amrywio’r rheolaethau sy’n gymwys o dan reoliad 14(2) neu a osodwyd drwy hysbysiad o dan reoliad 14(4),
(b)cymryd samplau a’u profi er mwyn sefydlu a yw’r feirws hwnnw yn bresennol yn y lladd-dy(1).
(4) Os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni bod profion a wnaed o dan y rheoliad hwn yn dangos nad yw feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol yn y lladd-dy, rhaid i arolygydd milfeddygol gadarnhau hyn (ar lafar neu fel arall) i’r person sy’n gyfrifol am y lladd-dy.
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo’r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni, o ganlyniad i—
(a)unrhyw brawf a wneir o dan y rheoliad hwn, neu
(b)unrhyw arwyddion clinigol yn unrhyw geffyl yn y lladd-dy, neu yn unrhyw fangre arall lle y bu unrhyw geffyl yn y lladd-dy yn ddiweddar,
fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol mewn ceffyl neu garcas yn y lladd-dy.
(6) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod carcas pob ceffyl heintiedig yn cael ei waredu mewn ffordd sy’n osgoi’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu(2).
(7) Pan fo cadarnhad wedi ei roi o dan baragraff (2) neu (4), neu ar ôl cael gwared ar garcasau o dan baragraff (6)—
(a)mae unrhyw reolaethau sy’n gymwys o dan reoliad 14(2) (ac, os yw’n gymwys, fel y’u hamrywir o dan baragraff (3)(a)) yn peidio â chael effaith,
(b)mae unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 14(4) (ac, os yw’n gymwys, fel y’u hamrywir o dan baragraff (3)(a)) wedi ei ddirymu.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys