- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
6. Mae ffioedd wedi eu pennu fel a ganlyn yn Atodlen 2, am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod(1) a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno ac a weithredwyd gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2)—
(a)yn Nhabl 1, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr, am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a
(b)yn Nhabl 2, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
Mae’r cynllun iechyd dofednod yn cynnig system gofrestru a chymeradwyo sy’n galluogi sefydliadau i wirio’u cydymffurfiaeth â deddfwriaeth UE, fel eu bod yn gymwys wedyn i allforio mwy nag 20 o gywion neu wyau deor i Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Yn ychwanegol, mae’n darparu ar gyfer cynnal profion ar hyfedredd y labordai sy’n profi samplau ar ran aelodau’r cynllun iechyd dofednod.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys