Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: RHAN 4

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 4LL+CPenderfynu

Cyfarwyddiadau gan Weinidogion CymruLL+C

18.—(1Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau sy'n cyfyngu ar roi caniatâd gan awdurdod cynllunio lleol, naill ai am gyfnod amhenodol neu yn ystod pa bynnag gyfnod a bennir yn y cyfarwyddiadau, mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiad neu mewn perthynas â datblygiad mewn unrhyw ddosbarth a bennir felly.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau bod datblygiad, sydd o ddisgrifiad a bennir yng Ngholofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 2 i [F1Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016] (disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddibenion diffinio “Schedule 2 development”)(1) ac sydd hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd, yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ymdrin â cheisiadau am ganiatâd cynllunio, ar gyfer datblygiad y mae cyfarwyddyd a roddir o dan yr erthygl hon yn gymwys iddo, mewn modd a fydd yn rhoi effaith i'r cyfarwyddyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 18 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Datblygiad sy'n effeithio ar briffyrdd presennol ac arfaethedig penodolLL+C

19.—(1Pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o'r canlynol, neu sy'n cynnwys y canlynol—

(a)ffurfio, llunweddu neu addasu unrhyw fynedfa i, neu oddi ar, unrhyw ran o gefnffordd sydd naill ai'n ffordd arbennig neu, os nad yn ffordd arbennig, yn ffordd sy'n ddarostyngedig i derfyn cyflymder o fwy na 40 milltir yr awr; neu

(b)unrhyw ddatblygiad o dir sydd o fewn 67 metr (neu pa bynnag bellter arall a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr erthygl hon) o ganol—

(i)unrhyw briffordd (ac eithrio cefnffordd) a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru, neu'r awdurdodwyd Gweinidogion Cymru i'w darparu, yn unol â gorchymyn o dan Ran 2 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cefnffyrdd, ffyrdd dosbarthiadol, ffyrdd metropolitanaidd, ffyrdd arbennig)(2) ac nad yw, ar y pryd, wedi ei throsglwyddo i unrhyw awdurdod priffyrdd arall;

(ii)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei gwella o dan Ran 5 o'r Ddeddf honno (gwella priffyrdd) ac y rhoddwyd hysbysiad i'r awdurdod mewn perthynas â hi;

(iii)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud gwelliannau iddi yn unol â gorchymyn o dan Ran 2 o'r Ddeddf honno; neu

(iv)unrhyw briffordd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei hadeiladu, y dangosir ei llwybr ar y cynllun datblygu, neu y rhoddodd Gweinidogion Cymru hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol ynglŷn â hi, ynghyd â mapiau neu blaniau digonol ar gyfer adnabod llwybr y briffordd,

rhaid i'r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru drwy anfon copi o'r cais, ac o unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd gyda'r cais, at Weinidogion Cymru.

(2Rhaid peidio â phenderfynu cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) oni fydd—

(a)yr awdurdod cynllunio lleol yn cael cyfarwyddyd o dan erthygl 18 (a rhaid i'r awdurdod wedyn benderfynu'r cais yn unol â thelerau'r cyfarwyddyd hwnnw);

(b)yr awdurdod wedi cael hysbysiad gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi unrhyw gyfarwyddyd o'r fath mewn perthynas â'r datblygiad y mae'r cais yn ymwneud ag ef; neu

(c)cyfnod o 28 diwrnod (neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr awdurdod a Gweinidogion Cymru) o'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad i Weinidogion Cymru wedi dod i ben heb gael cyfarwyddyd o'r fath.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, mewn perthynas ag unrhyw achos neu unrhyw ddosbarth neu ddisgrifiad o achosion, roi cyfarwyddyd sy'n pennu pellter gwahanol at ddibenion paragraff (1)(b).

(4Yn yr erthygl hon—

ystyr “cefnffordd” (“trunk road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sy'n gefnffordd yn rhinwedd adrannau 10(1) (darpariaeth gyffredinol ynglŷn â chefnffyrdd) neu 19 (ffyrdd arbennig penodol a phriffyrdd eraill i ddod yn gefnffyrdd) o Ddeddf Priffyrdd 1980(3) neu yn rhinwedd gorchymyn neu gyfarwyddyd o dan adran 10, neu unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw offeryn a wneir o dan unrhyw ddeddfiad;

ystyr “ffordd arbennig” (“special road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sy'n ffordd arbennig yn unol ag adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol ynglŷn â ffyrdd arbennig)(4); ac

mae i “priffordd arfaethedig” yr ystyr a roddir i “proposed highway” yn adran 329 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth bellach ynglŷn â dehongli)(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 19 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Datblygiad nad yw'n cydweddu â'r cynllun datblyguLL+C

20.  Caiff awdurdod cynllunio lleol, yn y cyfryw achosion ac yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a ragnodir mewn cyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Gorchymyn hwn, roi caniatâd ar gyfer datblygiad nad yw'n cydweddu â darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 20 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Sylwadau sydd i'w cymryd i ystyriaethLL+C

21.—(1Rhaid i awdurdod cynllunio lleol, wrth benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wnaed, pan oedd unrhyw hysbysiad neu wybodaeth ynglŷn â'r cais—

(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, o fewn cyfnod o 21 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;

[F2(b)wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—

(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw, ar yr amod y gwneir y sylwadau gan unrhyw berson y maent yn fodlon ei fod yn berchennog, yn denant neu’n feddiannydd o’r fath; neu]

(c)wedi ei gyhoeddi neu'i chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a oedd yn cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,

a'r sylwadau a'r cyfnodau yn yr erthygl hon yw'r sylwadau a'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(a) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)(6).

(2Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad i bob person a wnaeth sylwadau yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd i ystyriaeth yn unol â pharagraff (1)(b)(i), a'r cyfryw hysbysiad yw'r hysbysiad a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(b) o Ddeddf 1990.

(3Mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys i geisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(7) ac i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(8) ac y mae paragraffau (1)(b) a (2) yn gymwys i apelau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(9), fel pe bai cyfeiriadau—

(a)at awdurdod cynllunio lleol, yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)at benderfynu cais am ganiatâd cynllunio, yn gyfeiriadau at benderfynu cais o'r fath neu apêl, yn ôl fel y digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 21 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadauLL+C

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo cais dilys wedi dod i law awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(10) roi i'r ceisydd hysbysiad o'i benderfyniad neu'i ddyfarniad neu roi hysbysiad bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru.

[F3(1A) Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at gais dilys yn cynnwys cyfeiriadau at y cais hwnnw fel y’i diwygiwyd cyn i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu’r cais.]

(2Y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw—

(a)y cyfnod o wyth wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y daeth y cais i law'r awdurdod cynllunio lleol;

[F4(aa)mewn achos y mae paragraff (1A) yn gymwys iddo, y cyfnod o—

(i)4 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y diwygiad i’r cais; neu

(ii)12 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais y mae’r diwygiad yn ymwneud ag ef

pa un bynnag yw’r diweddaraf;]

(b)ac eithrio pan fo'r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, pa bynnag gyfnod estynedig a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod; neu

(c)os yw unrhyw ffi sy'n ofynnol mewn perthynas â chais wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedi ei dychwelyd wedyn heb ei thalu, y cyfnod priodol fel a bennir yn is-baragraff [F5(a), (aa) neu (b).] uchod, a gyfrifir gan ddiystyru'r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd fod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a'r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi derbyn swm llawn y ffi.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais sy'n cynnwys—

[F6(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;]

(b)pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;

[F7(ba)mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;]

(c)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad F8...;

(ch)mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;

(d)y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;

(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y manylion y gofynnir am eu cynnwys, neu'r dystiolaeth y gofynnir am ei chynnwys, gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)(11); ac

(e)unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais, ac at y diben hwn rhaid ystyried bod cyflwyno siec am swm y ffi yn gyfystyr â thalu,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo'r cais a'r cyfryw ddogfennau, manylion neu dystiolaeth y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu'u cyflwyno ynghyd â'r cais, ac unrhyw ffi sy'n ofynnol, wedi eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.

[F9(3A) Rhaid cymryd bod diwygiad i gais dilys wedi ei gael pan fo’r diwygiad a’r cyfryw ddogfennau a gynhwysir yn y cais neu sy’n dod gyda’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.]

(4Nid yw paragraff (3)(dd) yn gymwys ac eithrio—

(a)pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais wedi ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion paragraff(3); ac

(c)y manylion neu'r dystiolaeth y mae'n ofynnol gan yr awdurdod eu cynnwys, neu ei chynnwys, yn y cais, yn dod o fewn y rhestr honno.

(5Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ddarparu pa bynnag wybodaeth ynghylch ceisiadau a wnaed o dan erthygl 4 neu erthygl 5 (gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y modd yr ymdriniwyd ag unrhyw gais o'r fath) a wneir yn ofynnol gan Weinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd. Caiff unrhyw gyfarwyddyd o'r fath gynnwys darpariaeth ynglŷn â pha bersonau sydd i'w hysbysu a'r modd y darperir yr wybodaeth.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu cais am ganiatâd cynllunio, pan fo unrhyw hysbysiad o'r cais, neu wybodaeth yn ei gylch—

(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;

[F10(b)wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—

(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw; neu]

(c)wedi ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,

a'r cyfnodau yn y paragraff hwn yw'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(1) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)(12).

(7Os oes mwy nag un o'r cyfnodau rhagnodedig o dan baragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais cyn diwedd y diweddaraf neu'r diweddarach o'r cyfnodau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 22 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Ceisiadau a wneir o dan amod cynllunioLL+C

23. [F11(1)]  [F12Pan fo cais dilys] wedi ei wneud i awdurdod cynllunio lleol am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy'n ofynnol drwy amod neu gyfyngiad a osodwyd wrth roi caniatâd cynllunio (ac eithrio cais F13... am gymeradwyaeth o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (datblygiad gan weithredwyr cod cyfathrebiadau electronig)(13)), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'i benderfyniad ar y cais i'r ceisydd o fewn cyfnod o 8 wythnos sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daeth y cais i law'r awdurdod, neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod.

[F14(2) At y diben o gyfrifo’r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais wedi ei thalu â siec a’r siec wedi ei dychwelyd yn ddiweddarach, rhaid diystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd a’r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais a gyfansoddir o’r canlynol—

(a)cais sy’n cynnwys yr wybodaeth, ac a gyflwynir ynghyd â’r dogfennau a’r deunyddiau eraill sy’n ofynnol, ar gyfer cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio o dan sylw;

(b)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 4 pan fo’n gymwys; ac

(c)unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn cysylltiad â’r cais, ac at y diben hwn ystyrir bod cyflwyno siec am swm y ffi yn daliad,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo’r cais a’r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu ynghyd â’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.

(4) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2) a (3)(c) yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.

(5) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—

(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a

(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.]

Hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad neu ddyfarniad mewn perthynas â chais cynllunioLL+C

24.—(1Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi hysbysiad o benderfyniad neu ddyfarniad ar gais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, a chaniatâd neu gymeradwyaeth naill ai'n cael ei roi neu'i rhoi yn ddarostyngedig i amodau, neu'r cais yn cael ei wrthod, rhaid i'r hysbysiad—

(a)datgan yn eglur a manwl y rhesymau llawn am y gwrthodiad neu am unrhyw amod a osodir, gan bennu'r holl bolisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar roi caniatâd ar gyfer y datblygiad y gwneir cais amdano, neu pan fo Gweinidogion Cymru neu Adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynegi'r farn na ddylid rhoi'r caniatâd (naill ai'n gyfangwbl neu'n rhannol) neu y dylid ei roi yn ddarostyngedig i amodau, rhoi manylion o'r cyfarwyddyd a roddwyd neu'r farn a fynegwyd; ac

(c)cael ei gyflwyno ynghyd â hysbysiad yn y termau a bennir yn Atodlen 5 (neu mewn termau o'r un sylwedd).

(2Os yw—

(a)y ceisydd am ganiatâd cynllunio wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol; a

(b)yr awdurdod cynllunio lleol (ar ôl cymryd gwybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth) wedi penderfynu rhoi caniatâd (pa un ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i amodau),

rhaid i'r hysbysiad a roddir i'r ceisydd yn unol ag erthygl 22(1) gynnwys datganiad bod gwybodaeth amgylcheddol wedi ei chymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 24 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

[F15Hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunioLL+C

24A.(1) Mae ceiswyr wedi eu pennu at ddibenion adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990.

(2) At ddibenion adran 71ZA(6), y manylion sydd i’w cynnwys yn y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio yw—

(a)y rhif cyfeirnod;

(b)dyddiad ac effaith y penderfyniad;

(c)enw’r corff a wnaeth y penderfyniad; ac

(ch)rhif y diwygiad.

Hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiadLL+C

24B.(1) Mae caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr wedi ei bennu at ddibenion adran 71ZB(6) o Ddeddf 1990.

(2) Rhaid i’r hysbysiad sydd i’w roi i awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(1) o Ddeddf 1990, fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5A neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

(3) Rhaid i’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos drwy gydol yr amser tra cyflawnir datblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag adran 71ZB(2) o Ddeddf 1990 Act fod—

(a)yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5B neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith;

(b)wedi ei osod yn gadarn yn ei le a’i arddangos mewn man amlwg yn neu gerllaw’r lle y cyflawnir y datblygiad;

(c)yn ddarllenadwy ac yn weladwy yn rhwydd i aelodau’r cyhoedd, heb iddynt orfod mynd i mewn i’r safle; a

(ch)wedi ei argraffu ar ddeunydd gwydn.

(4) Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad na bai ar y person sy’n cyflawni’r datblygiad, wedi cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno, trinnir y person fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (3) os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, ei amnewid.]

(1)

O.S.1999/293, diwygiwyd Colofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 2 gan O.S. 2006/3099 a 2007/2610.

(3)

Diwygiwyd adran 19 gan adran 21 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22).

(4)

Diwygiwyd adran 16 gan adran 36 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29) a pharagraffau 21 a 24 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

(6)

Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 15 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

(7)

Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.

(8)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

(9)

Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.

(10)

Mae O.S. 1999/293 yn estyn y cyfnod amser ar gyfer dyfarnu ceisiadau am ddatblygiad AEA.

(11)

Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004.

(12)

Amnewidiwyd adran 71(1) gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34).

(13)

O.S. 1995/418. Amnewidiwyd Rhan 24 o Atodlen 2 gan O.S. 2002/1878 (Cy.187).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill