- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
38.—(1) Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 37(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn orfodol i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.
(2) Cyfrifir swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 37(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
lle mae—
X yn cynrychioli swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 37; ac
Y yn cynrychioli swm cyfanredol y gwariant a dynnwyd ym mhob chwarter cymhwysol ac a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y gwariant a bennir, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—
(a)gwariant y mae'r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei dynnu wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf corfforol a ddioddefir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y cyfnod y mae'n bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad” yn y paragraff hwn);
(b)cost fisa neu fisâu y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa neu'r lleoliad; ac
(c)costau meddygol y mae'n rhesymol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i'r diriogaeth, y wlad neu'r wladwriaeth lle y mae'r sefydliad tramor, yr Athrofa neu'r lleoliad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys