Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Trosi statws

113.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Os yw'r myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 95(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho.

(3Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 29 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 98 mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno;

(c)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 29 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 98 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 29, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim;

(d)os oedd y myfyriwr hwnnw yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi ei gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw;

(e)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant neu lwfans i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 31 i 34 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(f)mae uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw, heblaw am y rheoliad hwn, hawlogaeth i'w gael yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno; ac

(g)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 31 i 34 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu'r lwfans sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 99 i 108 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (f) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu'r lwfans cyfatebol a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 31 i 34, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(4Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(6Os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 95(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae hawl gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan Ran 11 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(8Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â'r Rhan hon.

(9O ran myfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 11 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 97(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 80(1)(b);

(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 98 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 83.

(10Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliad 80(1)(a) a 97(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm y cymorth a benderfynir sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 80(1)(a).

(11Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno.

(12Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(13Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (12)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 98 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr cymwys;

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (c) ac (f), anwybyddir unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo ynddi wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o unrhyw grant neu lwfans i'r myfyriwr yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o ran cyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr cymwys;

(d)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Rannau 5 neu 6 y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;

(e)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 98 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 29 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 98 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(f)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu'r lwfans cyfatebol sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 31 i 34 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu'r lwfans a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 99 i 108, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(14Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(15Yn ddarostyngedig i baragraff (16), mae gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (14) hawl i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo gweddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(16Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â Rhan 11.

(17O ran myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (14) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i'r myfyriwr hwnnw mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 80(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 97(1)(b);

(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 83 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 98.

(18Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (14), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 80(1)(a) a 97(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm uchaf y cymorth a benderfynir sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 97(1)(a).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill